Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Croesewais y cyhoeddiad a wnaed ar 11 Medi gan y Gweinidog Masnach Ryngwladol a Gweinidog Tramor Japan bod y DU a Japan wedi cytuno mewn egwyddor ar Gytundeb Masnach Rydd rhwng y ddwy wlad.
Mae’n debyg y bydd y cytundeb hwn yn cael ei gadarnhau ac yn dod i rym erbyn diwedd y cyfnod pontio, gan sicrhau dilyniant i’n busnesau sydd eisoes yn masnachu â Japan o dan delerau’r Cytundeb Partneriaeth Economaidd (EPA) rhwng yr UE a Japan.
Pe na bai’r DU wedi dod i gytundeb mewn pryd iddo allu cael ei ddilysu erbyn 31 Rhagfyr, byddai’r DU a Japan wedi gorfod troi at ddefnyddio rheolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO). Byddai hyn wedi arwain at osod rhwystrau masnachu (tariffau ac eraill) a fyddai, o’u cymharu â’n sefyllfa bresennol, wedi bygwth y cysylltiadau masnachu a buddsoddi cryf sydd wedi datblygu rhyngom:
- Masnach – Yn 2019, cafodd gwerth £935.1 miliwn o nwyddau eu masnachu rhwng Cymru a Japan. Japan yw ein 12fed farchnad allforio fwyaf a’n 6ed farchnad fewnforio fwyaf.
- Mewnfuddsoddi – mae gennym bellach tua 65 o fusnesau yng Nghymru sy’n eiddo i Japaneaid, yn cyflogi dros 8,000 o bobl.
Rwy’n falch bod y cytundeb hwn yn gytundeb sy’n cyfateb i’r EPA, gyda rhai manteision ychwanegol yn y penodau ar ddata a digidol. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhagor o hyder i gwmnïau Cymreig sy’n allforio i Japan a byddwn yn annog BBaCh Cymreig i ystyried Japan fel marchnad allforio bosibl ar gyfer eu nwyddau.
Mae angen cytundeb masnach rydd cynhwysfawr arnom hefyd â’r UE er mwyn i ni allu gwireddu holl fanteision y cytundeb hwn. Gwaetha’r modd, mae’n ansicr iawn a allwn sicrhau cytundeb o’r fath cyn diwedd y flwyddyn pan ddaw’r cyfnod pontio i ben. Hefyd, yn wahanol i’r cytundeb hwn â Japan, mae hi eisoes yn glir y bydd unrhyw gytundeb masnach rydd â’r UE yn ei gwneud hi lawer anoddach inni fasnachu â’n marchnad fwyaf. Rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i ymroi’n galetach i sicrhau cytundeb uchelgeisiol â’r UE cyn gynted â phosibl.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i’r aelodau. Os hoffai’r aelodau imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau am hwn pan ddaw’r Senedd yn ôl, byddaf yn fwy na hapus i wneud.