Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n ysgrifennu heddiw i hysbysu aelodau am y cytundeb â Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer adeiladau yn yng Nghymru drwy Gynllun Talebau Gigabit Llywodraeth y DU.

Mae eisoes gan y mwyafrif helaeth o'r cartrefi yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn. Fodd bynnag, mae rhai adeiladau nad oes ganddynt fynediad at gyswllt ffeibr cyflym o hyd, ac nid oes gan y sector preifat unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Fel rhan o'n hymdrechion i ddarparu cymorth ar gyfer yr adeiladau hyn sy'n weddill, heddiw rydym yn cyhoeddi cytundeb newydd â Llywodraeth y DU i godi uchafswm y cyllid sydd ar gael i gartrefi a busnesau yng Nghymru sy'n derbyn cymorth drwy'r Cynllun Talebau Gigabit.

Ar hyn o bryd mae Talebau Gigabit ar gael i fusnesau bach a'r cymunedau lleol o'u hamgylch i gyfrannu at y gost o osod cyswllt sy'n addas ar gyfer gigabit. Yn dilyn y cytundeb â Llywodraeth y DU, bydd busnesau a chymunedau yng Nghymru bellach yn gymwys ar gyfer cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi i gynlluniau.

Drwy gynllun Llywodraeth y DU gall fusnesau hawlio hyd at £2,500 tuag at gost cyswllt sy'n addas ar gyfer gigabit, naill ai'n unigol neu fel rhan o brosiect grŵp. Gall drigolion hawlio talebau grant gwerth £500 fel rhan o brosiect grŵp sy'n cynnwys busnes.

Mae'r cyllid ychwanegol sy'n benodol i Gymru yn adlewyrchu costau uwch gosod seilwaith ffeibr yng Nghymru, o ganlyniad i dopograffeg a dosbarthiad adeiladau.

Ar gyfer prosiectau grŵp, bydd Llywodraeth Cymru yn talu hyd at £3,000 yn ychwanegol fesul busnes bach a chanolig a £300 yn ychwanegol fesul eiddo preswyl. Mae hyn yn golygu bod hyd at £5,500 ar gael ar gyfer prosiectau grŵp yng Nghymru fesul busnes, a hyd at £800 ar gael fesul eiddo preswyl.

Bydd y Cynllun Talebau Gigabit yn disodli'r Cynllun Taleb Gwibgyswllt, a fydd yn dod i ben heddiw. Bydd ceisiadau a dderbyniwyd i’r cynllun hwnnw cyn y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.

Mae ein Cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn parhau i fod yn berthnasol a bydd yn parhau i fod ar gael i ddarparu grantiau i dalu am osod cysylltiadau band eang newydd. 

Gall y Cynllun Talebau Gigabit gynnig ffynhonnell gyllido hollbwysig ar gyfer prosiectau cysylltedd grŵp, a hoffwn eich annog i hyrwyddo'r cyfle yn eich ardal. 

Er bod y mwyafrif helaeth o’r adeiladau yng Nghymru bellach â mynediad at fand eang cyflym iawn, rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cymorth ar gyfer yr adeiladau nad oes ganddynt fynediad; nid oes un ateb sy'n addas ar gyfer pob sefyllfa, ac un opsiwn yn unig yw’r Cynllun Talebau Gigabit, mewn cyfres o fesurau ar gyfer cynnig cymorth. 

Rydym eisoes yn buddsoddi £22.5 miliwn er mwyn darparu band eang ffeibr ar gyfer 26,000 o'r adeiladau sy’n weddill. Mae hyn yn ychwanegol at y £200 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus drwy'r rhaglen Cyflymu Cymru, sydd wedi cysylltu dros 733,000 o adeiladau mewn ardaloedd lle nad oedd gan gwmnïau masnachol unrhyw gynlluniau i fynd yno.

Mae ein gwaith i wella'r seilwaith digidol yn parhau, gan gyflawni ein rhwymedigaethau yn Symud Cymru Ymlaen a'n hymrwymiad i'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.  Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi wrth inni ddatblygu a gweithredu ein dull integredig ar gyfer sicrhau cysylltiadau band eang cyflym.