Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'r rôl y mae fferyllfeydd cymunedol yn ei chwarae fel rhan annatod o ofal sylfaenol yng Nghymru, a gwaith caled fferyllwyr a staff fferyllfeydd cymunedol. I adlewyrchu hyn, rydym yn darparu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn fferylliaeth gymunedol. 

Mae'r taliadau am fferylliaeth gymunedol y tu allan i gwmpas argymhellion Cyrff Adolygu Cyflogau y GIG, ond serch hynny fe wnaethom ymrwymo'n flaenorol i weithredu codiad cyflog teg a chymesur ar draws gofal sylfaenol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, optometryddion y GIG, yr holl staff sy'n gweithio mewn ymarfer cyffredino a gwasanaethau deintyddol y GIG, i gydnabod y rôl allweddol y maent i gyd yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl ym mhob rhan o Gymru. 

Rwy'n falch ein bod wedi dod i gytundeb â'r GIG a Fferylliaeth Gymunedol Cymru, y corff statudol sy'n cynrychioli pob fferyllfa gymunedol, ynghylch cynnydd o 6% yn y ffioedd a'r lwfansau sy'n daladwy i'r sector ac ynghylch dyrannu'r buddsoddiad ychwanegol. 

Bydd y cynnydd o £9.9m yn y Fframwaith Contractiol Fferylliaeth Gymunedol yn golygu bod cyfanswm cyllid y Fframwaith yn £175m y flwyddyn, sef cynnydd o 24% yn y cyllid ers 2017.

Fe ddefnyddir y buddsoddiad hwn i fynd i'r afael â'r pwysau uniongyrchol sy'n wynebu fferyllfeydd cymunedol, ac i gynnal momentwm ein huchelgeisiau tymor hirach ar gyfer y diwygio a nodir yn Presgripsiwn Newydd - A New Prescription (llyw.cymru).

Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn:

  • Sicrhau ein bod yn parhau i allu bwrw ymlaen â'n diwygiadau contractiol, gan wobrwyo fferyllfeydd sydd wedi trosglwyddo'n llwyddiannus i'r model cyflenwi newydd ar sail gwasanaethau clinigol, yn ogystal â helpu mwy o fferyllfeydd i wneud y trosglwyddiad hwnnw
  • Rhoi sicrwydd tymor hirach i gontractwyr fferylliaeth o ran y cyllid sydd ar gael ar gyfer dosbarthu presgripsiynau a'r lefel a gynhelir ar gyfer ffioedd dosbarthu
  • Ailgydbwyso cyllid ar gyfer elfennau'r Fframwaith i ystyried newidiadau yn y farchnad a darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gweithgareddau penodol i gefnogi ein blaenoriaethau
  • Rhoi arweiniad clir i gontractwyr a byrddau iechyd ar sut y bydd hwn yn cael ei ddyrannu yn y blynyddoedd ariannol sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod pontio.

I ategu'r cytundeb hwn ceir mesurau i gynyddu capasiti mewn fferyllfeydd cymunedol, i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau'r GIG yn fwy effeithiol. 

Yn ogystal â chyllid i annog a gwobrwyo darpariaeth gwasanaethau clinigol, bydd y buddsoddi’n parhau er mwyn integreiddio fferyllfeydd mewn clystyrau gofal sylfaenol; bydd ymrwymiad parhaus i ddatblygu ymhellach sgiliau a chwmpas ymarfer y gweithlu fferyllol cymunedol ehangach, gan gynnwys technegwyr fferyllol, ac yn y system TG Dewis Fferyllfa. 

Mae ein gwaith o gyflwyno'r Gwasanaeth Presgripsiwn Electronig yn mynd rhagddo'n gyflym, ac mae ar gael erbyn hyn yn y garfan gyntaf o fferyllfeydd a meddygfeydd ym mhob bwrdd iechyd. Gwnaed diwygiadau i delerau gwasanaeth fferyllfeydd er mwyn gwella effeithlonrwydd dosbarthu, lleihau baich gweinyddol, a rhyddhau amser i fferyllwyr a'u timau ganolbwyntio ar ddarparu'r ystod fwyaf cyflawn o wasanaethau clinigol, gwella mynediad at ofal sylfaenol, a chymryd pwysau i ffwrdd oddi wrth rannau eraill o'r GIG. 

Rydym hefyd wedi sicrhau bod dros £0.5m o gyllid cyfalaf ar gael i fferyllfeydd eleni i gefnogi buddsoddiad mewn awtomeiddio, mannau ymgynghori preifat newydd, a lleihau ôl troed carbon fferylliaeth gymunedol.

Mae'r buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn fferylliaeth gymunedol yn sail i'n gwaith uchelgeisiol o ddiwygio gofal sylfaenol, ac mae'n darparu ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd hirdymor fferyllfeydd. Bydd hefyd yn sicrhau bod y GIG yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau ac arbenigedd fferyllwyr, technegwyr fferyllol a'r tîm fferyllol ehangach ym mhob cymuned yng Nghymru. 

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.