Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan MS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod y pandemig, mae rhwydwaith fferyllfeydd cymunedol Cymru wedi chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi pobl ledled Cymru, tra'n cefnogi gwasanaethau'r GIG – practisau ymarferwyr cyffredinol ac ysbytai – a gwasanaethau cyhoeddus eraill. 

Y llynedd, fel rhagflaenydd i ddiwygiadau contractiol, cytunwyd ar gytundeb cyllido aml-flwyddyn cyntaf Cymru erioed ar gyfer y sector fferylliaeth gymunedol. Rhoes y cytundeb y sicrwydd yr oedd ei angen yn fawr ar gyfer perchnogion fferyllfeydd ynghylch parhau â'n diwygiadau i sicrhau bod gwasanaethau fferylliaeth gymunedol yn bodloni anghenion pobl yn awr ac yn y dyfodol.

Mae negodiadau â Fferylliaeth Gymunedol Cymru, y corff cynrychioliadol ar gyfer fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru, wedi dod i ben ac rydym wedi dod i gytundeb ar ddiwygiadau pellgyrhaeddol ar gytundebau contractiol ar gyfer y sector fferylliaeth gymunedol yng Nghymru.

Rwyf yn croesawu ymagwedd gadarnhaol Fferylliaeth Gymunedol Cymru at negodiadau, gan gefnogi ein huchelgais ar gyfer gwasanaeth fferylliaeth gymunedol ar ei newydd wedd, sy'n rhan annatod o dirlun gofal sylfaenol cryf.

Bydd y fframwaith contractiol newydd yn galluogi pob fferyllfa gymunedol yng Nghymru i ddarparu ystod estynedig o wasanaethau clinigol, a fydd ar gael yn gyson ledled y wlad, gan gynnig gwasanaethau cyfeus a hygyrch o dan y GIG i fwy o bobl, yn agosach at eu cartrefi.

Mae'r trefniadau newydd yn cydnabod ac yn gwobrwyo fferyllfeydd sy'n deall, yn rhannu ac yn cyflawni ein huchelgais tymor hwy o ddarparu gofal iechyd effeithiol a chynaliadwy o ansawdd uchel.

Gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol sydd wedi'i wedi'i wneud yn y blynyddoedd diwethaf, o fis Ebrill ymlaen byddwn yn:

  • Cyflwyno gwasanaeth cynhwysfawr newydd ym maes  fferylliaeth gymunedol glinigol, a fydd yn codi'r safon o ran yr hyn y gall pobl yng Nghymru ei ddisgwyl gan  eu fferyllfa gymunedol. Bydd y gwasanaeth hwn sydd wedi'i gomisiynu yn genedlaethol yn galluogi pob fferyllfa yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin, atal cenhedlu brys, cyflenwi meddyginiaeth frys a brechu rhag y ffliw tymhorol. Rhaid i unrhyw fferyllfa sy'n dymuno darparu unrhyw un o'r gwasanaethau hyn bellach eu cynnig i gyd.
  • Ehangu'r gwasanaeth atal cenhedlu brys er mwyn i bob fferyllfa darparu mynediad cyflym at atal cenhedlu pontio a dechrau cyflym;
  • Cynyddu cyllid ar gyfer darparu gwasanaethau clinigol o'u lefel bresennol o £11.4m i £20m y flwyddyn erbyn mis Ebrill 2024. Bydd hyn yn cefnogi'r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol glinigol wedi'i ehangu a darparu gwasanaethau arloesol presennol a newydd gan fyrddau iechyd i ddiwallu anghenion lleol;
  • Cyflwyno gwasanaeth rhagnodi annibynnol cenedlaethol newydd a fydd yn caniatáu i bob fferyllydd-ragnodwr drin ystod estynedig o anhwylderau, megis heintiau acíwt a darparu mynediad at atal cenhedlu rheolaidd.

Bydd mesurau i gynyddu capasiti o fewn fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau'r GIG yn fwy effeithiol yn sail i'r newidiadau hyn. Mae hyn yn cynnwys diwygiadau i drefniadau cyllido a fydd yn hybu ac yn gwobrwyo darparu gwasanaethau clinigol; buddsoddi parhaus mewn integreiddio fferyllfeydd mewn clystyrau gofal sylfaenol; datblygu ymhellach cwmpas a sgiliau'r gweithlu fferyllfeydd cymunedol, ac yn system TG Dewis Fferyllfa.

Y diwygiadau y cytunwyd arnynt heddiw yw'r newid mwyaf sylfaenol i'r ffordd y mae fferyllfeydd yn gweithredu ers i'r GIG gael ei sefydlu dros 70 o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r fanyleb newydd hon ar gyfer fferylliaeth gymunedol yn nodi dull gweithredu cydweithredol, arloesol a blaengar o ddarparu gofal fferyllol. Trwy fanteisio i'r eithaf ar fferylliaeth gymunedol, byddwn yn gallu diwallu anghenion gofal iechyd pobl ledled Cymru yn agosach at eu cartrefi.