Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw adeiladu tai yn y sector preifat, nid yn unig wrth ddarparu cartrefi sydd mawr eu hangen, ond hefyd er mwyn sicrhau'r manteision economaidd ehangach sy'n dod yn sgil adeiladu tai fel creu swyddi, a phob math o effeithiau ar y gadwyn gyflenwi.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r diwydiant tai yng Nghymru wedi gweld adferiad cyson - gyda mwy o ddatblygiadau newydd yn dechrau a chartrefi newydd yn cael eu codi. Mae hyn yn newyddion da ac yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae polisi Llywodraeth Cymru yn ei chael drwy gynlluniau fel Cymorth i Brynu - Cymru. Ar ddiwedd Ebrill 2017, roedd y cynllun hwn wedi helpu i godi a gwerthu 5064 o unedau o eiddo.
Fodd bynnag, mae'r sector a Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod angen gwneud mwy os ydym am sicrhau bod y cyflenwad tai yn diwallu ein hangen cynyddol am dai, ac yn gallu ateb heriau fel tlodi tanwydd, newid yn yr hinsawdd, newid demograffig a'r effaith y mae'r problemau hyn yn ei chael ar iechyd a gofal cymdeithasol er enghraifft.
Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cynyddu'r cyflenwad tai a sicrhau bod y gwaith adeiladu yn cynnig y manteision mwyaf drwy ddod â swyddi a phrentisiaethau i ardaloedd lleol. Mae codi 6,000 o gartrefi yn ystod ail gam Cymorth i Brynu - Cymru hefyd yn cyfrannu at gyrraedd targed y Llywodraeth o sicrhau 20,000 o dai cynaliadwy dros gyfnod y weinyddiaeth hon.
Bydd y Cytundeb yn helpu i gyflawni'r ymrwymiad hwn, ac mae wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r sector, gan weithio'n agos gyda Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr.
Mae'r Cytundeb yn amlinellu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr am weddill cyfnod y weinyddiaeth hon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i:
- fynd ati i ymgysylltu â'r diwydiant i helpu i lywio polisi tai yn y dyfodol a nodi beth yw'r rhwystrau pwysicaf i'r cyflenwad tai yng Nghymru.
- ystyried ac egluro beth fydd yn digwydd ar ddiwedd ail gam y cynllun Cymorth i Brynu - Cymru.
- gweithredu a monitro'r agenda cynllunio cadarnhaol a'r newidiadau o ran Rheoli Datblygu.
- gweithio gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod pob awdurdod cynllunio yng Nghymru yn mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ac yn cynnal adolygiadau amserol lle y bo angen.
- gweithio gydag Awdurdodau Cynllunio Lleol a sefydliadau trydydd sector i fynd ati'n rhagweithiol i annog cwmnïau adeiladu bach a chanolig i gymryd rhan yn y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.
- nodi'r posibilrwydd o ryddhau mwy o dir y sector cyhoeddus ar gyfer buddsoddi mewn tai, ac wrth wneud hynny, ystyried anghenion pawb sy'n adeiladu tai, o fusnesau bach a chanolig sy'n chwilio am safleoedd llai i gwmnïau mawr a fyddai'n gallu datblygu darnau o dir dipyn mwy.
- datblygu polisïau newydd i annog cwmnïau adeiladu bach a chanolig i dyfu, a gweithio gyda'r diwydiant i edrych ar opsiynau i annog adeiladwyr cyffredinol mewn BBaCh i gamu i'r farchnad adeiladu tai fel y prif gontractwyr.
- edrych ar ddulliau o ddatblygu hyfywedd ym mhob cam o'r broses gynllunio yn dilyn canfyddiadau'r Astudiaeth Hyfywedd Hydredol.
- adolygu'r baich rheoleiddiol lle y bo'n bosibl i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol.
- gweithio gydag Awdurdodau Cynllunio Lleol i sicrhau bod y gwaith o ddarparu tai yn cael ei fonitro a bod camau priodol yn cael eu cymryd lle nad oes modd dangos cyflenwad pum mlynedd o dir.
- edrych ar sut y gellid cefnogi adeiladwyr tai i wneud mwy i fynd i'r afael â heriau megis tlodi tanwydd, newid yn yr hinsawdd a newid demograffig.
Mae'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a'u haelodau wedi ymrwymo i:
- ddefnyddio'r cynllun Cymorth i Brynu Cymru i sicrhau bod aelwydydd yn cael y cyfle gorau posibl i brynu tŷ am y tro cyntaf.
- gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac eraill i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi newydd yng Nghymru lle y bo'n bosibl.
- sicrhau'r manteision cymunedol mwyaf drwy fuddsoddi'n lleol, a chyfleoedd eraill wedi'u targedu, gan gynnwys cynyddu niferoedd y prentisiaethau a chynlluniau hyfforddi a datblygu Busnesau Bach a Chanolig lleol.
- helpu i ddatblygu'r agenda sgiliau adeiladu.
- darparu tystiolaeth fanwl er mwyn llywio a siapio polisi tai newydd.
- gweithio gyda Chymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol i ddarparu tai fforddiadwy fel rhan o gynlluniau tai preifat.
- edrych ar sut y gallant helpu i ddatblygu a darparu modelau newydd o dai.