Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Y ni, Llywodraeth Cymru, sy’n pennu’r fframwaith swyddogaethau ar gyfer cymdeithasau tai, gan helpu i ddarparu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd a dylanwadu ar y ddarpariaeth honno.  Gwnawn hynny mewn sawl ffordd.  Er enghraifft, trwy reoleiddio, pennu polisi rhenti, creu’r amodau rheoleiddio bras ar gyfer datblygu, a darparu arian uniongyrchol trwy’r rhaglenni Grant Tai Cymdeithasol a Grant Cyllid Tai ac o ffynonellau eraill fel y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

Adolygiad Essex 2007-2008 roddodd i ni’r cyd-destun ar gyfer creu partneriaeth bositif newydd rhwng Llywodraeth Cymru a mudiad cymdeithasau tai Cymru, sy’n canolbwyntio ar gyflawni.  Mae’r bartneriaeth lwyddiannus hon wedi bod yn dyst i gynnydd yng ngwaith cymdeithasau tai fel ymateb i’r cynnydd yn yr angen ac arloesi ym maes polisi. Rhwng 2007 a 2001, mudiad y cymdeithasau tai ddarparodd mwyafrif y tai fforddiadwy ychwanegol – 7,746 o’u cymharu â tharged Llywodraeth Cymru o 6,500 o dai ychwanegol – bron 20% yn fwy na’r targed.  

Yn nwy flynedd gyntaf y Llywodraeth Cymru hon, mae 4,474 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi’u darparu, gan gynnwys 1,652 ohonynt heb grant.  Cymdeithasau tai sydd wedi codi mwy na 3,500 o’r cartrefi hyn.  Cefnogwyd y gwaith da hwn gan y rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, neilltuo cyfalaf ychwanegol trwy Raglen Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, y tai fforddiadwy y mae sector y cymdeithasau tai wedi’u darparu heb grant a photensial cynnar mentrau newydd fel y Grant Cyllid Tai a Phartneriaeth Tai Cymru.  

Fodd bynnag, er i 7,500 o dai cymdeithasol gael eu codi mewn cwta ddwy flynedd, 60% o’r targed, mae’r angen am gartrefi newydd yn dal i fod lawer fwy na’r cyflenwad.  Rwyf i, fel y Gweinidog Tai, wedi’i gwneud yn glir mai fy mlaenoriaeth yw cynyddu’r cyflenwad tai ac rwy wedi gofyn i bob sector i wneud cymaint ag y medrant gyda’r adnoddau sydd ar gael iddynt.

Mae’r Cytundeb hwn wedi’i ddatblygu i helpu ymdrechion i daro’r targed uwch o 10,000 o dai fforddiadwy. Cyhoeddais y targed hwnnw yn fy Natganiad Llafar – Cynyddu’r Cyflenwad Tai, ar 4 Mawrth 2014.

Mae’r Cytundeb hwn yn nodi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a mudiad y cymdeithasau tai ar gyfer gweddill y weinyddiaeth hon.  

Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod gennym bolisi rhenti cynaliadwy ar gyfer y cyfnod 5 mlynedd 2014-19
  • parhau i ddarparu cyfalaf buddsoddi trwy’r Grant Tai Cymdeithasol, hynny ar ben yr £82M a neilltuwyd yn 2013/14 a’r £58M a gadarnhawyd ar gyfer 2014/2015.  
  • gweithio gyda’r sector cymdeithasau tai i ddarparu tai fforddiadwy mewn ffordd arloesol, ar sail y profiad o’r Grant Cyllid Tai a Phartneriaeth Tai Cymru
  • gweithredu i neilltuo tir cyhoeddus ar gyfer tai
  • cynnal adolygiad o’r Gofynion Ansawdd Datblygu a rheoliadau eraill yn y maes datblygu  
  • rhoi fframwaith rheoleiddio sy’n seiliedig ar risg ar waith trwy reoli perthynas a chyd-reoleiddio
  • bwrw ymlaen â’r agenda cynllunio positif


Ymrwymiadau mudiad y cymdeithasau tai – trwy law Cartrefi Cymunedol Cymru:

  • sicrhau bod pob cymdeithas yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac eraill i gyrchu at y targed newydd o 10,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn y cyfnod 2011-16
  • sicrhau cymaint o fanteision â phosibl i gymunedau trwy fuddsoddi a chyfleoedd eraill
  • anelu at y safonau llywodraethu uchaf trwy’r agenda ar gyfer gwella llywodraethu gyda chefnogaeth Cod Llywodraethu newydd ar gyfer y sector a chan gynnwys ymgyrch i sicrhau’r un nifer o ddynion a menywod ar fyrddau
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru o blaid rheoleiddio ar sail risg a chyd-reoleiddio.


Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.