Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Cytundeb ar Gyflenwi Tai rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu tai yn y sector preifat, nid dim ond o ran darparu’r cartrefi y mae dirfawr eu hangen, ond hefyd o ran y manteision economaidd ehangach sy’n deillio o adeiladu tai drwy greu swyddi a thrwy’r amryfal effeithiau ar y gadwyn gyflenwi.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd adferiad cyson yn y diwydiant tai yng Nghymru – bu cynnydd mawr o’r naill flwyddyn i’r llall yn nifer y datblygiadau newydd a ddechreuwyd a hefyd yn nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd. Mae hynny’n newyddion da ac yn dangos yr effaith y mae polisi Llywodraeth Cymru yn ei chael drwy gynlluniau fel Cymorth i Brynu – Cymru, sydd eisoes wedi rhoi cymorth i adeiladu a gwerthu bron 1,976 o gartrefi.
Er hynny, mae’r sector ei hun a Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod mwy eto i’w wneud os ydym am sicrhau bod y cyflenwad o dai yn diwallu’r angen cynyddol am dai.
Yn rhinwedd fy swydd fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Dai, rwyf wedi datgan yn glir mai fy mlaenoriaeth i yw cynyddu’r cyflenwad o dai sydd ar gael a sicrhau bod adeiladu yn arwain at y manteision mwyaf posibl drwy greu swyddi a phrentisiaethau lleol. Bydd y Cytundeb hwn heddiw yn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwnnw. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â’r sector, gan gydweithio’n agos â’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi.
Mae’r Cytundeb yn nodi ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a chan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i:
- Fynd ati i feithrin cysylltiadau gyda’r diwydiant er mwyn helpu i lywio polisi tai yn y dyfodol.
- Nodi’r rhwystrau pwysicaf sy’n llesteirio’r gwaith o ddarparu cyflenwad o dai preifat yng Nghymru.
- Estyn cynllun Cymorth i Brynu – Cymru.
- Bwrw ymlaen â’r agenda cynllunio cadarnhaol.
- Nodi a rhyddhau rhagor o dir sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus er mwyn buddsoddi mewn tai preifat.
- Datblygu polisïau newydd er mwyn annog twf yn nifer yr adeiladwyr bach a chanolig.
- Rhannu’n canfyddiadau am y prosiectau peilot i osod systemau taenellu ac am newidiadau eraill a wnaed i’r ddeddfwriaeth rheoli adeiladu.
- Adolygu / lleihau’r baich rheoleiddio lle bo modd er mwyn sicrhau bod Cymru yn parhau i fedru cystadlu â Lloegr.
Mae’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a’i aelodau yn ymrwymo i:
- Weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Lleol ac eraill i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi newydd yng Nghymru.
- Sicrhau’r manteision mwyaf posibl i gymunedau drwy fuddsoddi’n lleol a thrwy gyfleoedd eraill wedi’u targedu, gan gynnwys cynnig rhagor o brentisiaethau a chynlluniau hyfforddiant.
- Helpu i ddatblygu’r agenda sgiliau adeiladu.
- Darparu tystiolaeth fanwl a fydd yn sail i bolisi ar dai newydd ac yn ei lywio.
- Gweithio gyda Chymdeithasau Tai i ddarparu tai fforddiadwy ar ystadau preifat.