Mark Drakeford MS, First Minister
Heddiw, bron i bedair blynedd a hanner ers y refferendwm, daethpwyd i gytundeb ar berthynas y Deyrnas Unedig (DU) a’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn y dyfodol.
Nid ydym wedi gweld testun y cytundeb ac mae'n amlwg y bydd angen inni ddadansoddi a chraffu ar y manylion cyn y gallwn fynegi barn ystyriol
Ond, mae’n glir yn barod, nid hwn oedd y math o gytundeb yr oedd Llywodraeth Cymru wedi dymuno ei gael. Cytundeb a fyddai wedi diogelu swyddi, yr economi a hawliau ein dinasyddion oedd gennym ni mewn golwg.
Serch hynny, rydym wedi dadlau yn gyson ac yn gadarn mai dod i gytundeb ddylai fod yn flaenoriaeth yn y pen draw i’r ddwy ochr. Ar bob pwynt yn y saga hir ers y refferendwm rydym wedi dadlau o blaid y safbwynt sy’n cynnal y berthynas fwyaf gwresog a sylweddol â’r UE, ac nid yw’r cytundeb hwn yn eithriad. Os mai’r ddau ddewis sy’n ein hwynebu yw’r cytundeb hwn neu dim cytundeb masnach, y cytundeb hwn, er gwaethaf ei ddiffygion difrifol, yw’r un gorau.
Mae’r cytundeb hwn yn cynnig rhywbeth i adeiladu arno mewn negodiadau yn y dyfodol wrth iddi ddod yn gliriach o hyd nad yw’r pecyn presennol yn cynnig sylfaen gadarn y gellir adeiladu sefydlogrwydd economaidd arni yn y dyfodol.
Er gwaethaf hynny, ar ddiwedd proses hynod lafurus, sydd wedi arwain at ansefydlogrwydd, y mae symiau enfawr o arian trethdalwyr a chyfalaf gwleidyddol y Deyrnas Unedig wedi cael eu neilltuo iddi, mae Llywodraeth y DU wedi bodloni ar gytundeb sy’n sylweddol wannach mewn termau economaidd na bron pob un o’r opsiynau ar gyfer y berthynas â’r UE yn y dyfodol ar ôl Brexit a oedd yn agored inni.
Yn arbennig ar adeg pan fo ein heconomi wedi ei gwanhau a’n cymdeithas o dan straen oherwydd y pandemig coronafeirws, mae’n gwbl syfrdanol bod Llywodraeth y DU wedi parhau i flaenoriaethu cynnal arddangosfeydd lledrithiol o ‘sofraniaeth’ y DU o flaen llesiant dyddiol ei phobl – swyddi a ffyrdd o fyw ein dinasyddion – a chystadleurwydd ein busnesau.
Nid oes amheuaeth y bydd yr economi yn llai nag y byddai wedi bod o ganlyniad i’r cytundeb hwn, gan olygu y bydd llai o swyddi, cyflogau is, llai o allforion, mwy o fiwrocratiaeth i fusnesau, llai o gydweithredu â’r UE ar ddiogelwch a chymunedau ac aelwydydd tlotach ym mhob rhan o Gymru.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael cymryd rhan mewn unrhyw ffordd ystyrlon i ddatblygu’r strategaeth ar gyfer negodi nac yn y negodiadau eu hunain, a mae ein blaenoriaethau ar ran pobl Cymru wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth. Rydym wedi bod yn glir felly mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw’r hyn a ddaw o ganlyniad i’r trafodaethau. Byddwn yn eu dal i gyfrif am hyn dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.
Yn y tymor byr, ein blaenoriaeth fydd parhau i roi ein holl ymdrechion i baratoi ar gyfer y tarfu anochel a fydd yn digwydd, o ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddol Llywodraeth y DU, ar ôl 1 Ionawr. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau i ymateb i oblygiadau’r trefniadau masnachu newydd o fis Ionawr ac ymlaen i’r dyfodol. Byddwn yn parhau i ddadansoddi manylion y cytundeb i ddeall yn well beth fydd hyn yn ei olygu i Gymru.
Er gwaethaf yr anghytundeb gwleidyddol difrifol sydd rhyngom ni a Llywodraeth y DU o ganlyniad i’r cyfyngder sydd yn awr yn wynebu economi’r Deyrnas Unedig diolch i weithredoedd Llywodraeth y DU ei hun, byddwn – fel rydym wedi ceisio ei wneud gydol y cyfnod hwn – yn cydweithredu’n llwyr â nhw ar y camau ymarferol i baratoi’r wlad ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, ac rydym yn galw arnynt hwythau i ymateb yn yr un ffordd.
Deallwn y bydd y fargen yn cael ei gweithredu dros dro gan yr UE. Yn ein barn ni, dylai hyn hefyd roi amser i Senedd San Steffan graffu'n llawn arno yn hytrach na gwthio'r ddeddfwriaeth weithredu derfynol ymlaen yn nyddiau olaf y flwyddyn. Serch hynny, bydd dadl yn cael ei threfnu yn y Cyfarfod Llawn cyn gynted ag y bydd yn bosibl er mwyn i Aelodau drafod y cytundeb a’r goblygiadau i Gymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.