Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi ystyried argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yn ymwneud â Pholisi Rhenti. Mae'r Panel Adolygu yn argymell rhoi polisi rhenti 5 mlynedd ar waith, gan y byddai hyn yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i denantiaid a landlordiaid.  Rwyf hefyd wedi ystyried y ffaith bod y Panel Adolygu wedi seilio eu hargymhellion o amgylch anghenion tenantiaid a fforddiadwyedd.

Rwyf wedi penderfynu gosod polisi rhenti am gyfnod o bum mlynedd o fis Ebrill 2020 ymlaen.

Rwyf wedi cytuno ar godiad rhent blynyddol o hyd at CPI+1%, bob blwyddyn am 5 mlynedd o 2020-21 i 2024-25 gan ddefnyddio lefel CPI o'r mis Medi blaenorol bob blwyddyn. CPI mis Medi eleni oedd 1.7%, felly uchafswm y cynnydd rhent yw 2.7%.

CPI+1% yw uchafswm y cynnydd sydd yn cael ei ganiatáu yn unrhyw flwyddyn unigol, ond rwyf wedi dweud yn glir wrth landlordiaid cymdeithasol nad yw hyn yn godiad i'w osod yn awtomatig. Mae fforddiadwyedd yn fater rwy'n ei gymryd o ddifrif ac rwy'n ofalus i beidio gosod baich ariannol gormodol ar denantiaid. Byddaf yn disgwyl i landlordiaid cymdeithasol gynnal asesiadau cynhwysfawr bob blwyddyn gan ganolbwyntio ar fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid.

Fel rhan annatod o'r polisi rhenti pum mlynedd, byddaf yn disgwyl i landlordiaid cymdeithasol osod polisi rhenti a thaliadau gwasanaeth sy'n sicrhau bod tai cymdeithasol yn parhau i fod yn fforddiadwy ar gyfer tenantiaid presennol ac yn y dyfodol.

Rwyf wedi cymryd fy amser wrth benderfynu ar y polisi rhenti er mwyn sicrhau mai dyma'r penderfyniad cywir. Ystyriais y mater o fewn cyd-destun ein polisïau tai ehangach. Yn unol â hynny, roeddwn yn teimlo ei bod yn briodol dod i gytundeb â landlordiaid cymdeithasol (cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol) ar y disgwyliadau sydd gennyf ohonynt yn gyfnewid am fwy o sicrwydd cyllid mewn perthynas â'r polisi rhenti. 

Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi medru cytuno ar gyfres o fentrau newydd gyda landlordiaid cymdeithasol a fydd yn dwysau ein gwaith ar y cyd. Mae'r mentrau hyn yn cynnwys cytundeb landlordiaid cymdeithasol i'r canlynol:

  • Cryfhau eu dulliau gweithredu er mwyn sicrhau eu bod yn cyfyngu gymaint â phosib ar unrhyw achosion o droi pobl allan o'u tai, a chyflawni cytundeb newydd i beidio troi pobl allan i fod yn ddigartref.
  • Cynnal arolwg boddhad tenantiaid er mwyn helpu tenantiaid i graffu a chymharu perfformiad landlordiaid. 
  • Adeiladu ar ymrwymiad presennol i ddarparu tai o ansawdd uchel, mewn perthynas â safonau gofod GAD 2020 fesul cam o 2021 ymlaen.
  • Gweithio tuag at uchelgais o weld yr holl dai sy'n cael eu hadeiladu o'r newydd, beth bynnag eu deiliadaeth, yn cyrraedd safonau effeithlonrwydd ynni EPC A o leiaf.

Mae tai cymdeithasol a fforddiadwy Cymru yn newid yn dilyn argymhellion yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy – ac rwy'n benderfynol o gynorthwyo landlordiaid i wneud y newidiadau angenrheidiol. Y cam cyntaf yw gosod polisi rhenti sy'n darparu gymaint â phosib o sicrwydd, a rhenti fforddiadwy i denantiaid.