Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r adroddiad ar yr ymgynghoriad Cysylltu Cymunedau Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r 234 o ymatebion a gawsom i’n dogfen drafod a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd. Rwyf wrth fy modd bod yr ymgynghoriad wedi denu cymaint o ymateb, sy’n dangos pwysigrwydd y materion hyn i sefydliadau ac unigolion. Daeth yr ymatebion i’r 23 cwestiwn a ofynnwyd gan sefydliadau statudol a thrydydd sector, grwpiau cymunedol, cyrff cynrychiadol, busnesau a llawer o unigolion. Roedd y safbwyntiau a fynegwyd yn eang ac yn cynnwys enghreifftiau o ymyriadau llwyddiannus a phrofiadau personol.
Rhai o’r negeseuon allweddol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yw:
- Pwysigrwydd lleihau stigma ynglŷn ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a hybu agweddau cadarnhaol tuag at gysylltiadau cymdeithasol.
- Helpu pobl i ddeall y trothwyon ac adnabod arwyddion o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
- Rôl allweddol ysgolion wrth adeiladu cadernid emosiynol a seicolegol mewn plant a phobl ifanc a datblygu dealltwriaeth gynnar o unigrwydd ac ynysigrwydd, ynddynt eu hunain ac empathi tuag at eraill.
- Yr angen i ganolbwyntio ar adeiladu cadernid unigol a chymunedol drwy ddatblygu a chefnogi atebion lleol ac annog pawb i chwarae eu rhan, gan gynnwys busnesau lleol.
- Creu cyfleoedd i bobl gysylltu drwy sicrhau gwell mynediad i wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaethau a chymorth sydd ar gael; rhannu a datblygu arfer da mewn gwasanaethau a chymorth; hyrwyddo a galluogi gwirfoddoli; hyrwyddo a galluogi gweithgareddau corfforol a chwaraeon; a chefnogi pobl i fedru cymryd rhan mewn cymunedau drwy gynlluniau fel rhagnodi cymdeithasol a chysylltiadau cymunedol.
- Pwysigrwydd seilwaith cymunedol sy’n cefnogi cysylltiadau cymdeithasol fel mynediad i fannau cymunedol, rhwydwaith trafnidiaeth da, mynediad i dechnoleg ddigidol, tai hygyrch o safon a chynllun cymdogaeth da.
- Y rhan allweddol y gall gweithluoedd ei chwarae wrth adnabod arwyddion o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chyfeirio pobl at wasanaethau neu gymorth, yn enwedig y gweithlu iechyd a chymdeithasol, ond hefyd mewn addysg, tai, trafnidiaeth a busnes.
- Mae angen cyllid cynaliadwy yn y tymor hirach ar gyfer y trydydd sector.
- Ni ddylai’r cyfrifoldeb gweinidogol am unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol fod ar y portffolio iechyd a gofal cymdeithasol yn unig. Dylai hefyd gael ei gynnwys mewn portffolios eraill fel tai, trafnidiaeth, llywodraeth leol, yr economi a busnes.
Mae’r adroddiad yn cloi gyda datganiad am y camau nesaf yr ydym yn bwriadu eu cymryd. Mae’n cadarnhau ein hymrwymiad i’r agwedd a nodwyd yn y ddogfen ymgynghori, sy’n ceisio atal neu leihau’r risg o unigrwydd neu ynysigrwydd cymdeithasol, neu ymyrryd yn gynnar, cyn iddo ymwreiddio. Mae hyn yn cynnwys annog pobl i ddeall trothwyon unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a meithrin cadernid emosiynol a seicolegol i’w helpu i ymdopi ac ymateb. Ond, mae angen i ni hefyd sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’r bobl hynny sydd yn, neu a ddaw yn unig ac yn ynysig yn gymdeithasol.
Mae’r gwaith i ddatblygu’r ddogfen ymgynghori, a’r nifer fawr o ymatebion a gawsom, wedi dangos yn glir bod llawer yn cael ei wneud eisoes i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Ond mae hefyd wedi dangos bod llawer o bethau y mae angen i ni eu hystyried i hysbysu ein dogfen derfynol. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn treulio amser yn ystyried yr ymatebion, y sylfaen dystiolaeth a’r adborth o’n digwyddiadau ymgysylltu yn llawn, er mwyn datblygu ymateb cynhwysfawr, traws-lywodraethol i’r mater amlweddog hwn, a fydd yn diwallu disgwyliadau rhanddeiliaid. Ein nod yw cyhoeddi strategaeth derfynol yn ddiweddarach eleni.
Mae’r adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad ar gael yma: https://llyw.cymru/cysylltu-cymunedau-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-ac-ynysigrwydd-cymdeithasol