Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru ar gysylltiadau rhynglywodraethol, ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflawni un o'n hymrwymiadau yn y cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru. Roeddwn yn falch o ymrwymo i'r cytundeb hwnnw gan fy mod yn credu ei fod wedi gwella tryloywder y gwaith hwn ar draws portffolios y Gweinidogion a’r broses o graffu ar y Gwaith.

Mae'r adroddiad yn ymdrin â chyfnod cythryblus yn ein hanes, gyda chanlyniadau dwys i ddyfodol pawb. Mae'n adlewyrchu heriau parhaus o ran ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn cyfeirio at barhau i ddwysáu’r berthynas gyda’n partneriaid yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a llywodraethau datganoledig eraill y DU. Mae hyn yn cynnwys adfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, cam i’w groesawu’n fawr sydd wedi bod o fudd nid yn unig i'r bobl y mae’n eu gwasanaethu, ond i Gymru a'r DU gyfan.

Mae ein bywydau wedi newid yn sylweddol ers mis Mawrth, ac mae’r datganiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y datblygiadau ers hynny. Mae’r profiad o arwain Cymru drwy bandemig y coronafeirws wedi cadarnhau bod y dadansoddiad a nodwyd gennym yn 'Diwygio ein Hundeb' – a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl – yn un cywir.

Nodwyd ugain o gynigion a ddylai, yn ein barn ni, fod yn sail i'n trefniadau cyfansoddiadol yn ogystal â’r diwygiadau sy'n angenrheidiol yn ein cred ni. Gwnaethom alw am gonfensiwn cyfansoddiadol i ystyried y materion hyn ymhellach. Mae’r angen i wneud cynnydd ar y diwygiadau hyn wedi cryfhau yn ystod y pandemig.

Mae’n arwyddocaol nad yw strwythurau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion wedi’u defnyddio o gwbl yn ystod yr argyfwng. Mae hyn yn arwydd clir nad ydynt yn addas at y diben. Mae'r ymgysylltu wedi bod yn ad hoc ac yn fympwyol.

Yn ystod y cyfnod diweddar, mae’r rhaniad rhwng y pwerau a'r cyfrifoldebau eang sydd gennym mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus ar y naill law, a chyfrifoldebau Llywodraeth y DU dros gyfiawnder ar y llaw arall, yn parhau i adlewyrchu’r holl anfanteision y tynnwyd sylw atynt yn adroddiad Comisiwn Thomas y llynedd.

Rydym wedi creu troseddau i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ond mae’r rhain yn cael eu gorfodi gan heddluoedd a llysoedd sydd o dan reolaeth Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi gorfod gwneud penderfyniadau ynghylch sut i fynd i'r afael â'r heriau sy’n wynebu carchardai yn sgil y pandemig ond eto, ni sydd yn gyfrifol am wasanaethau allweddol a ddarperir i garcharorion ac i bobl a ryddheir o'r carchar.

Hoffwn dalu teyrnged i'r gweision cyhoeddus a gyflogir gan y ddwy lywodraeth, ac i’n partneriaid. Maent wedi gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau nad yw ein dinasyddion a'n busnesau dan anfantais oherwydd yr ymyl anesmwyth hwnnw yn y setliad datganoli. Gallai ein cyfansoddiad ei gwneud gymaint yn haws pe bai cyfiawnder yn cael ei ddatganoli i Gymru yn yr un modd ag y mae wedi cael ei ddatganoli i'r Alban ac i Ogledd Iwerddon.

Rydym yn parhau i weithio tuag at setliad mwy effeithiol i Gymru, o fewn Undeb cryf. Mae Covid-19 wedi codi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau priodol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae wedi dangos y gall Cymru elwa ar y penderfyniadau a wneir gan ein sefydliadau datganoledig, yn seiliedig ar ein hamgylchiadau, yn ogystal â mesurau ehangach ledled y DU, ac y dylai barhau i wneud hynny. Mae’r gymdeithas o genhedloedd yr ydym wedi gallu rhannu risgiau a manteision gyda hi yn ystod y cyfnod digynsail hwn wedi bod o fudd inni hefyd.

Er mwyn sicrhau'r manteision hynny ar gyfer y dyfodol mae angen diwygio'r DU yn radical, gan ei gwneud yn gymdeithas wirfoddol o genhedloedd lle mae sofraniaeth yn cael ei dal gan bob gwlad ac yna'n cael ei chyfuno at ddibenion cyffredin.

Yn anffodus, nid yw’r berthynas gyda Llywodraeth y DU fel y byddem yn dymuno iddi fod. Mae Llywodraeth y DU yn tanseilio datganoli, weithiau'n ddiofal, ac weithiau'n fwriadol, oherwydd ei hawydd i ganoli pŵer a dileu rhwystrau ym mhob cangen o lywodraeth er mwyn cael arfer y pŵer hwnnw. Mae'r setliad cyfansoddiadol, a gefnogwyd gan bobl Cymru mewn dau refferendwm, dan fygythiad difrifol.

Yn y cyfamser, rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd gyda’r adolygiad ar y cyd o gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae’n hanfodol bod yr adolygiad yn cael ei gwblhau a bod cynigion ymarferol ar gyfer diwygio yn cael eu rhoi ar waith.

Mae ein cynigion ar gyfer cydweithio rhynglywodraethol yn cynnwys cynnal cyfres o gyfarfodydd rheolaidd a rhagweladwy gyda phenaethiaid y llywodraeth, Gweinidogion portffolio a swyddogion i ystyried ymateb y DU i'r pandemig. Mae hyn yn cynnwys cydgysylltu’r gwaith o wneud penderfyniadau a chyfathrebu fel bod y cyhoedd yn deall pa reolau sy'n berthnasol iddyn nhw a pham mae rhai cyfyngiadau yr un fath ledled y DU a rhai yn wahanol. Mae arnom angen deialog â Phrif Weinidog y DU ynghylch pam mae rhyddid pobl i symud o Loegr yn bwysicach, yn ei farn ef, na diogelu pobl Cymru rhag y feirws. Dylem fod yn gweithio gyda'n gilydd, a chyda rhanddeiliaid, i ddiogelu'r rhai sy'n byw yng ngwersyll Penalun a gerllaw iddo. Dylem gael rhan lawn yn y broses o ddatblygu Adolygiad Integredig Prif Weinidog y DU o Ddiogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Pholisi Tramor. Mae’r adolygiad hwnnw yn hanfodol i'n perthynas ryngwladol, yn ogystal â'n heconomi forol, ein hallforwyr a sectorau busnes eraill, a chadernid ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau. Dylem fod yn cael sgwrs aeddfed am ein cynigion, y caniateir ar eu cyfer yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, i'r Senedd gael yr opsiwn o ddefnyddio trethiant i helpu i sicrhau bod tir gwag yn cael ei ddefnyddio mewn modd cynhyrchiol.

Dylem fod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y gwaith rydym wedi'i wneud gyda'n rhanddeiliaid yn cael ei adlewyrchu yn safbwynt y DU yn y negodiadau gyda’r UE. Safbwynt sydd wirioneddol yn cynrychioli buddiannau Cymru – sydd wedi'i gryfhau gan ein cyfraniad – ond sy'n dal i barchu cyfrifoldeb Llywodraeth y DU am y negodi ei hun. Yn yr un modd, dylem fod yn rhannu'r holl wybodaeth angenrheidiol i sicrha/u ein bod yn gallu helpu ein rhanddeiliaid, yn ogystal â Llywodraeth y DU, i baratoi ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio.

Ni ddylem fod yn cael ein hwynebu â Bil Marchnad Fewnol y DU, sydd yn ddiangen ac sy'n ymosod ar ddatganoli. Yn hytrach, dylem fod yn gweithio gyda’n gilydd yn gyflym i lunio Fframweithiau Cyffredin i roi eglurder i fusnesau a dinasyddion ynghylch pa nwyddau a gwasanaethau y gellir eu gwerthu yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU, ar sut y dylai cymhwyster proffesiynol mewn un rhan o'r DU gael ei gydnabod mewn rhan arall o’r wlad, ar gyfundrefn y cytunwyd ar y cyd arni ar gyfer rheoli cymorthdaliadau'r wladwriaeth, ac ar gynigion ar y cyd, wedi'u cynllunio ar y cyd â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, er mwyn sicrhau bod buddsoddiad yn cyrraedd y cymunedau hynny sydd â'r angen mwyaf. Dylai penderfyniadau am y materion hyn gael eu gwneud yng Nghymru, nid yn Whitehall.

Casgliad

Mae angen hyblygrwydd a dyfeisgarwch i ddelio ag argyfyngau.  Nid yw’r ymgysylltu ledled y DU wedi bod yn ddigon dibynadwy na rheolaidd, ac mae wedi amlygu'r gwendid yn y trefniadau rhynglywodraethol sydd â'r bwriad o gynnal Undeb datganoledig.  Ond mae'n bwysig cydnabod y cafwyd enghreifftiau nodedig o gydweithio.  Cynhaliwyd 17 o gyfarfodydd COBR (M) a fynychwyd gan Weinidogion y llywodraethau datganoledig.  Mae Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn wedi cynnull cyfarfodydd ad hoc rhwng y pedair gwlad i rannu profiad a mewnwelediad wrth ymateb i'r pandemig, a chafwyd cyfarfodydd amlach rhwng pedwar Gweinidog Iechyd y DU. 

Mae'r ymgysylltu diweddar hwn wedi dangos y potensial ar gyfer cydweithredu a chydgysylltu, ond ar yr un pryd mae wedi tanlinellu faint yn fwy effeithiol y gallai ymgysylltu o'r fath fod, gyda chynllunio a pharatoi priodol fel rhan o'r strwythur rhynglywodraethol diwygiedig nesaf yr ydym yn awyddus i’w sicrhau. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru Adroddiad Blynyddol 2019-2020