Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Fe fydd Aelodau eisiau fod yn ymwybodol o’r datganiad ar y cyd yn dilyn ar Gystadleuaeth Cân Eurovision 2023 gan Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Stadiwm Principality.
Ers y cadarnhad y byddai'r DU yn cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023, mae Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Stadiwm Principality wedi bod yn gweithio ar gyflymder i sefydlu dichonoldeb cais i gynnal y digwyddiad ym mhrifddinas Cymru.
Byddai hanes cryf iawn Caerdydd o ran cynnal digwyddiadau mawr, a Stadiwm Principality sydd o'r radd flaenaf, wedi gweddu’n naturiol ar gyfer cynhyrchiad mor sylweddol.
Mae'r BBC, fel trefnwyr y digwyddiad, wedi cyhoeddi manylebau manwl ar gyfer pob dinas sy'n dymuno gwneud cais i gynnal y digwyddiad. Fel partneriaid, rydym wedi bod yn gweithio drwy'r rhain yn fanwl. Mae'n amlwg o ran sawl un o’r rhain, y byddai gan Gaerdydd ddadl gref dros ddod yn ddinas sy'n cynnal cystadleuaeth yr Eurovision ar gyfer 2023.
Fodd bynnag, mae cymhlethdod llwyfannu'r digwyddiad yn golygu y byddai'n rhaid canslo nifer sylweddol o ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu yn Stadiwm Principality yn ystod Gwanwyn 2023 o ganlyniad. Mae'r rhain yn cynnwys Pencampwriaethau Rygbi Cadair Olwyn Ewrop, ‘The Road to Principality’, digwyddiad allweddol yng nghalendr rygbi Cymunedol URC, ac artist rhyngwladol o bwys a gontractiwyd i ymddangos, ymhlith digwyddiadau eraill.
Rydym wedi bod yn trafod yn gyflym gyda'r BBC i archwilio unrhyw opsiynau posibl a allai fod wedi gallu darparu ar gyfer y digwyddiad ochr yn ochr â'r amserlen bresennol. Yn anffodus, nid ydym wedi gallu dod o hyd i ateb ymarferol, ac felly rydym wedi cytuno ar y cyd na fydd yn bosibl i gais Caerdydd fynd yn ei flaen. Rydym yn diolch i'r BBC am ymgysylltu’n gadarnhaol â ni, ac rydym yn dymuno’r gorau i'r ddinas fuddugol wrth lwyfannu cystadleuaeth 2023.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.