Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei ymrwymiad i bobl Cymru i gynyddu'r terfyn cyfalaf mewn gofal preswyl i £50,000.

O heddiw, bydd pobl yng Nghymru yn gallu cadw hyd at £50,000 o'u cynilion, eu buddsoddiadau neu eu cyfalaf arall i'w ddefnyddio fel y mynnont, heb orfod defnyddio'r cyfalaf hwnnw i dalu am eu gofal preswyl. 

Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyflawni hyn ddwy flynedd yn gynharach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol.

Bydd y terfyn cyfalaf a ddefnyddir mewn awdurdod lleol sy'n codi tâl am ofal preswyl yn cynyddu heddiw o'r terfyn presennol o £40,000 i £50,000, gan ganiatáu i breswylwyr gadw £10,000 yn ychwanegol o'u cynilion, eu buddsoddiadau a'u cyfalaf arall.

Bu llwyddiant y polisi hwn yn amlwg ers ei gyflwyno ym mis Ebrill 2017 - mae dros 1,500 o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael budd o'r ddau gynnydd hyd yma. Bydd y nifer hwnnw yn cynyddu o hyd yn sgil gosod y terfyn cyfalaf newydd.

Bellach Cymru sydd â'r terfyn cyfalaf uchaf yn y DU ar gyfer gofal preswyl. Un terfyn sydd yng Nghymru hefyd, sy'n diogelu'r holl gyfalaf sydd gan berson hyd at £50,000. Mae hyn yn wahanol i Loegr, er enghraifft, lle mae system terfyn cyfalaf ddwy haen yn gweithredu, sydd â therfyn uchaf o £23,250 sydd heb newid ers bron i ddegawd. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £7 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn i awdurdodau lleol, sydd wedi ei gynnwys yn y setliad llywodraeth leol, i gynyddu'r terfyn cyfalaf i £50,000. Mae hyn yn golygu bod cyllid o gyfanswm o £18.5 miliwn y flwyddyn ar gael i awdurdodau lleol i roi'r polisi hwn ar waith. Byddwn yn parhau i gasglu data am nifer y preswylwyr cartrefi gofal sy'n cael budd o'r polisi hwn, a'r costau ychwanegol cysylltiedig y mae awdurdodau lleol yn mynd iddynt drwy roi’r cymorth ariannol hwn. Bydd hyn yn helpu i gadarnhau pa un a yw'r cyllid a ddarperir gennym yn briodol, ac yn caniatáu gwneud newidiadau pe bai angen.

Yn ogystal, o heddiw ymlaen, bydd yr uchafswm tâl y caiff awdurdodau lleol ei godi am ofal cartref a gofal a chymorth cymdeithasol amhreswyl arall yn cynyddu o £80 i £90 yr wythnos.

Mae'r ddarpariaeth hon yn sicrhau na ellir codi tâl ar berson sy'n fwy na'r uchafswm hwn ar gyfer yr holl ofal amhreswyl y mae arno ei angen. Mae'r cynnydd hwn yn codi incwm ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol i sicrhau bod lefel ac ansawdd gofal amhreswyl yn cael eu cynnal ac nad yw'n effeithio ond ar dderbynwyr gofal â lefelau uchel o incwm neu gyfalaf.  Bydd y rhai sydd ar incwm isel yn parhau i dalu tâl isel neu ddim tâl o gwbl.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd yr Aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.