Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio.
Mae Deddf yr Amgylchedd yn pennu ein huchelgais i leihau allyriadau yng Nghymru 80% erbyn 2050. Fe welwn o'r dystiolaeth y byddai'n rhaid sicrhau nad oes dim allyriadau o adeiladau er mwyn gwneud hyn. Ar hyn o bryd, allyriadau o gartrefi yw tua 15% o holl allyriadau Cymru.
Bydd yn rhaid i gartrefi ac adeiladau newydd ddefnyddio ynni yn llawer mwy effeithiol er mwyn lleihau allyriadau ar y raddfa hon. Bydd yn rhaid gosod offer arbed ynni a sicrhau newidiadau yn y ffyrdd yr ydym yn gwresogi ein hadeiladau. Yn anad dim, bydd hefyd yn galw am wneud llawer mwy o waith ôl-osod ar gartrefi i ddefnyddio ynni'n effeithlon. Bydd oddeutu 70% y cant o gartrefi fydd yn bodoli yn y 2050au wedi eu hadeiladu cyn 2000, ac mae gennym rywfaint o'r stoc adeiladu hynaf a lleiaf effeithiol o ran gwresogi yn Ewrop. Arbed mwy o ynni yw'r dull mwyaf cost effeithiol o fodloni ein hymrwymiadau i leihau allyriadau carbon. Y mae hefyd yn gostwng y costau i ddefnyddwyr ac yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â thlodi tanwydd.
Gall sicrhau bod cartrefi yn defnyddio ynni'n effeithlon gyfrannu at amcanion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Gall defnyddio ynni'n effeithlon wella canlyniadau iechyd - fel a welwyd yn ein Prosiect Cysylltu Data Tlodi Tanwydd, sy'n dangos bod y mesurau i ddefnyddio ynni'n effeithlon sy'n cael eu sefydlu drwy ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd yn cael effaith bositif sylweddol ar iechyd anadlol derbynwyr ac effaith bositif ar dderbyniadau brys i ysbytai ar gyfer cyflyrau cardiofasgwlaidd ac anadlol, gyda gostyngiad o ganlyniad i hyn yn y defnydd o'n Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.
Gall camau i ddefnyddio ynni'n effeithlon gyfrannu at amcanion economaidd trwy ddatblygu twf, swyddi, sgiliau a chadwyni cyflenwi gwyrdd. Mae cyfran y swyddi i wariant cyfalaf ar gyfer trwsio a chynnal a chadw tai yn 32.6 swydd fesul £1 miliwn o wariant. Mae hyn yn cymharu â 15 swydd ar gyfer prosiectau seilwaith mawr. Yn 2012, bu i adroddiad WWF Cymru a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni amcangyfrif y gallai gwella sgôr effeithlonrwydd ynni cartrefi gyda chyfraddau arbed ynni E, F a G i gyfradd D leihau y bil tanwydd blynyddol o £600 ar gyfartaledd. Mae Cymru yn anarferol o ffodus bod ganddi gadwyn gyflenwi arbed ynni sy'n cynnwys pob agwedd, o weithgynhyrchu i osod.
Mae rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys ein cynllun yn ôl y galw, Nyth, a'r cynlluniau Arbed o fewn ardaloedd, wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy sicrhau bod cartrefi pobl sydd ar incwm isel neu'n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru yn defnyddio ynni'n effeithlon. Ers 2011, rydym wedi buddsoddi dros £240 miliwn yn y cynllun Cartrefi Clyd i arbed ynni mewn dros 45,000 o gartrefi ledled Cymru, drwy eu gwneud yn gynhesach ac yn mwy fforddiadwy i'w gwresogi. Mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth hefyd wedi cynnig cyngor a chymorth di-duedd i dros 98,000 o gartrefi, gan eu helpu i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a sicrhau bod eu hincwm mor uchel â phosibl. Rydym yn ymestyn y rhai sy'n gymwys ar gyfer mesurau arbed ynni am ddim yn y cartref i gartrefi incwm isel ble y mae pobl yn dioddef gyda chyflyrau iechyd penodol sy'n fregus mewn tywydd oer, ac mae hyn yn cael ei dreialu mewn ardaloedd penodol yn ystod y gaeaf. Rydym yn buddsoddi £104 miliwn arall yn y Rhaglen dros y 4 mlynedd nesaf (2017/18 i 2020/21) i wella mesurau arbed ynni i 25,000 o gartrefi eraill.
Ar yr un pryd, mae'n ofynnol i'n 222,000 o gartrefi cymdeithasol fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) erbyn 2020. Mae hyn yn cynnwys cyrraedd safon arbed ynni o SAP (Gweithdrefn Asesu Safonol) 65 neu uwch (sy'n cyfateb i gyfradd D ar Dystysgrif Perfformiad Ynni). Ym mis Mawrth 2017, roedd 88% o gartrefi cymdeithasol wedi cyrraedd SAP 65 neu uwch. Rydym yn buddsoddi £108 miliwn yn WHQS bob blwyddyn, yn ogystal ag oddeutu £500m y flwyddyn wedi'i fuddsoddi gan landlordiaid. Mae'r gwaith yma'n cynnwys trwsio toeau, drysau a ffenestri a gosod boeleri defnyddio ynni'n effeithlon drwy gyfrannu at arbed ynni yn ein stoc dai.
Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd, ond mae angen cymryd camau pellach. Mae'n rhaid inni gyfuno ein gwaith yn well y tu mewn a thu allan i’r Llywodraeth. Mae'n rhaid inni barhau i gydweithio ar draws y Llywodraeth a chyda’r cyhoedd, sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector i ddeall y problemau yn well, a dod o hyd i atebion a ffynonellau cyllid. Dim ond bryd hynny fyddwn ni'n gallu gwella effeithlonrwydd ein stoc dai.
Ar unwaith, yn unol â Ffyniant i Bawb, byddwn yn gweithredu ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn deall sut y mae ein hymdrechion yn sicrhau y canlyniadau rydym eu hangen. Byddwn yn defnyddio Tasglu'r Cymoedd i dreialu ffyrdd newydd o gyfuno buddsoddi yn ein stoc dai gyda rhaglenni eraill i arbed ynni yn well.
Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â Bargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe i gyflawni ei gweledigaeth, gan gynnwys y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer, sy'n anelu at sicrhau bod y rhanbarth ar y blaen wrth arloesi ym maes ynni wrth adeiladu tai cynaliadwy ac ôl-osod i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Rydym wedi cyhoeddi cyllid yn ddiweddar, fel rhan o'r Rhaglen Tai Arloesol, ar gyfer cynllun gyda chymdeithas tai Pobl i helpu i gyflwyno'r model Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.
Rydym yn gweithio gyda darparwyr morgeisi i ddeall sut y gellir cynnwys costau ac arbedion ynni yn well o fewn morgeisi, gan sicrhau bod defnyddio ynni'n effeithlon yn uwch ar y rhestr flaenoriaethau i brynwyr, ac annog gwerthwyr i fuddsoddi i arbed ynni er mwyn gwneud eu heiddo'n fwy deniadol i brynwyr.
Yn y tymor canolig, rhwng nawr a 2020/21, byddwn yn gwella ein sylfaen dystiolaeth i dargedu gweithgarwch a gwariant y tu hwnt i 2020. Rydym am ddeall pob opsiwn ar gyfer gwella gweithgarwch ôl-osod ar gyfer arbed ynni, yn enwedig sut yr ydym yn ysgogi a sbarduno’r sector sy'n 'gallu talu' i weithredu. Byddwn hefyd yn edrych ar sut y byddwn yn cefnogi'r bobl hynny sydd ar incwm isel, gan gynnwys y rhai hynny sydd mewn tlodi tanwydd, neu mewn perygl o hynny, y tu allan i gwmpas y rhaglenni presennol.
Byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth yr ydym wedi'i chasglu i ddatblygu rhaglen integredig i adeiladu ar Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru a Safon Ansawdd Tai Cymru yn y tymor hir ar ôl i’n rhaglenni presennol ddod i ben.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector preifat ac eraill i nodi ffynonellau cyllid posibl ac unrhyw rwystrau i fuddsoddi preifat. Byddwn yn cyfarfod â Grŵp Sefydliadau Ariannol Arbed Ynni, sy'n cynrychioli dros 60 o gyrff cyllido mawr o Brydain ac Ewrop i ddeall beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod cynlluniau ôl-osod ar raddfa fawr yng Nghymru yn ddeniadol i fuddsoddwyr a pherchnogion tai fel ei gilydd. Ochr yn ochr â hyn, bydd y Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi yn yr hirdymor i gefnogi'r agenda hon a sbarduno'r broses o ddatgarboneiddio'r sector tai.
Byddwn hefyd yn datblygu ein dull newydd hir tymor o ymgysylltu â’r farchnad sy'n 'gallu talu'. Rydym yn gwybod bod creu amgylchedd o ymddiriedaeth, ble y gall deiliaid tai deimlo'n ddiogel a chael eu hysgogi i wneud gwelliannau i’w cartrefi fel eu bod yn arbed ynni, yn anodd i'w gyflawni. Mae hyn yn glir o ymdrechion aflwyddiannus gan Lywodraeth Prydain, megis y Fargen Werdd. Ond mae’n rhaid dod o hyd i ffordd. Bydd gweithredu'r adolygiad annibynnol o dan arweiniad y diwydiant, Each Home Counts, yn rhan o hyn. Bydd hyn yn gwella ansawdd a safonau pob gosodiad ôl-osod arbed ynni ac ynni adnewyddadwy. Byddwn hefyd yn ystyried yr hyn sydd ei angen yng ngoleuni Strategaeth Twf Glân Llywodraeth Prydain. Gan dynnu ar y dystiolaeth hon, byddwn yn datblygu opsiynau a chwmpas ac yn dadansoddi'r galw posibl am ymyraethau newydd; yn edrych ar sut y gellid sefydlu, gweithredu ac ariannu gwasanaethau tra hefyd yn edrych ar yr effaith economaidd a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer economi Cymru.