Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Am y chweched flwyddyn yn olynol bydd cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cynyddu. Bydd £127.8m yn cael ei fuddsoddi yn 2020/21, sy’n 13% o gynnydd ers 19/20 ac yn £15m yn ychwanegol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Dyma’r lefel uchaf o gyllid erioed a bydd yn cefnogi’r nifer mwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru.
Mae’n hanfodol bod gweithlu’r GIG wedi’i hyfforddi’n dda ac yn meddu ar y sgiliau cywir er mwyn darparu gofal cynaliadwy o’r radd flaenaf i bobl ledled Cymru a gwella safonau yn ein gwasanaeth iechyd. Er gwaethaf yr heriau sy’n ein hwynebu heddiw, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru. Ni fydd eleni’n eithriad.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae lleoedd hyfforddi i nyrsys wedi cynyddu 54.8% a bydwragedd wedi cynyddu 71.2%. Mae gweithlu cyfan GIG Cymru wedi tyfu 10.4% dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan y GIG y gweithlu sydd ei angen arno i ateb y galw sy’n cynyddu drwy’r adeg. Rydym yn cyflawni hyn drwy gynyddu lleoedd hyfforddi, annog pobl ifanc i ddilyn galwedigaethau iechyd, a recriwtio y tu allan i Gymru gyda chymorth ein hymgyrch lwyddiannus Hyfforddi, Gweithio, Byw.
Rwy’n falch iawn o gynyddu lleoedd hyfforddi unwaith eto i nyrsys, bydwragedd a llawer o alwedigaethau iechyd eraill sef asgwrn cefn ein gwasanaeth iechyd. Bydd y cyllid hwn, sy’n fwy nag erioed, yn cefnogi’r nifer mwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru.
Bydd y cynnydd hwn yn ein helpu i fynd i’r afael â phrinder mewn meysydd â blaenoriaeth ac i ddiwallu anghenion gweithlu’r dyfodol, fel yr amlinellir yn Cymru Iachach.
O fis Ebrill 2020, bydd Cymru’n hyfforddi mwy o nyrsys, bydwragedd, radiograffwyr, therapyddion lleferydd ac iaith a deietegwyr nag erioed o’r blaen.
Mae’r £16.4m o gyllid ychwanegol hefyd yn cynnwys £1.4m ar gyfer 47 o leoedd hyfforddi Ôl-raddedig Meddygol ychwanegol.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais hefyd fod y targed ar gyfer lleoedd hyfforddi Meddygon Teulu yng Nghymru wedi’i basio unwaith eto. Cynyddodd y cwota ar gyfer lleoedd hyfforddi Meddygon Teulu o 136 i 160 eleni ac mae 186 o leoedd wedi’u llenwi.
Bydd yr holl leoedd hyfforddi ychwanegol hyn yn cynyddu gallu’r gweithlu i helpu’r GIG i ymateb i’r heriau sy’n ei wynebu yn awr ac yn y dyfodol.