Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Mae’n hanfodol buddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus am ddau reswm. Yn gyntaf, mae’n hanfodol i’r economi o ran yr ysgogiad tymor byr a chreu’r amodau hirdymor ar gyfer twf. Yn ail, mae’n hanfodol o ran cynnig y gwasanaethau cyhoeddus modern o safon uchel y mae pobl Cymru yn eu haeddu ac yn disgwyl eu cael.
Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y gorau posibl o fuddsoddiad mewn seilwaith cyhoeddus yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Amlinellodd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ein dull gweithredu yn ei Datganiad Llafar ar 22 Tachwedd. Yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi manylion buddsoddiad newydd o £140m i gefnogi twf busnesau, ysgolion, ysbytai, rhwydweithiau trafnidiaeth a band eang y genhedlaeth nesaf. Rydym hefyd wedi amlinellu cynlluniau i hybu benthyg llywodraeth leol dros y blynyddoedd nesaf i ddarparu rhwng £100m a £170m i gefnogi gwelliannau i’r priffyrdd ledled Cymru. Caiff buddsoddiadau pellach i ysgogi’r economi a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus eu cyhoeddi dros y dyddiau nesaf.
Mae’r camau hyn yn dyst i’n hymrwymiad. Ond er mwyn cynyddu buddsoddiad yng Nghymru mae hefyd angen i ni ddylanwadu ar Lywodraeth y DU. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod rhai datblygiadau seilwaith yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer rheilffyrdd ac ynni, yn cael eu cadw gan Lywodraeth y DU. Ond mae hyn hefyd gan fod Llywodraeth y DU yn gosod y pecyn cyllidol y mae’n rhaid i ni ddelio ag ef ac yn gosod y rheolau ar gyfer y system ariannol rydym yn gweithredu ynddi.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddadlau achos Cymru gerbron Llywodraeth y DU yn yr holl feysydd hyn. Rydym yn cymryd pob cyfle i fynegi’n barn i Lywodraeth y DU bod y cynllun i leihau’r ddyled yn mynd yn rhy bell ac y dylid llacio’r polisi cyllidol i hybu buddsoddiad ac ysgogi’r economi.
Cefais gyfarfod gyda’r Prif Weinidog ac rwyf wedi anfon dau lythyr dros yr wythnosau nesaf i bwyso am gynnydd mewn buddsoddiad mewn seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd hanfodol yng Nghymru. Hefyd cyfarfu’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ â’r Arglwydd Sassoon, Gweinidog y Trysorlys â chyfrifoldeb dros seilwaith, a’r Prif Ysgrifennydd i geisio dylanwadu ar gyfeiriad Cynllun Seilwaith Llywodraeth y DU, a gaiff ei gyhoeddi’r wythnos nesaf. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar lefel swyddogol ynghylch y posibilrwydd i Weinidogion Cymru arfer eu pwerau benthyg – cyn canlyniad y Comisiwn Silk – i gynyddu buddsoddiad, a’r adolygiad PFI a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf.
Ni fyddaf yn rhoi sylwadau parhaus ar y gwaith hwn. Ond mae’n bwysig egluro bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n galed iawn i hybu buddsoddiad mewn seilwaith cyhoeddus yng Nghymru yn y cyfnod hanfodol hwn.