Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd
Ym mis Ebrill 2013, cyhoeddwyd yr Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru gan yr Athro Siobhan McClelland. Yn yr adolygiad mae cyfres o argymhellion ar ddarparu gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru.
Ers ei gyhoeddi, aethpwyd ati i weithredu’r argymhellion – gan gynnwys penodi bwrdd newydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) – i drawsnewid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i fod yn wasanaeth sy’n glinigol-ymatebol ac wrth wraidd ein system gofal heb ei drefnu.
Ymhlith y newidiadau a gyflwynwyd i Wasanaeth Ambiwlans Cymru dros y 12 mis diwethaf mae’r canlynol:
- Cyflwynwyd desg glinigol, sy’n cael ei staffio gan ymgynghorwyr, parafeddygon a nyrsys adrannau brys, i ganolfannau rheoli clinigol a fydd yn adolygu galwadau 999 wrth iddynt gael eu derbyn er mwyn sicrhau bod cleifion sydd angen ymateb cyflym yn ei gael;
- Datblygwyd llwybrau gofal amgen i gleifion nad oes angen ymateb ambiwlans brys arnynt, a chyflwynwyd y rhain ar draws Cymru. Hyd yn hyn, cyfeiriwyd mwy na 8,000 o gleifion i leoliadau gofal iechyd eraill yn hytrach nag i adrannau damweiniau ac achosion brys; a
- Buddsoddwyd mwy na £4m mewn offer uwch-dechnoleg i ambiwlansys, gan gynnwys diffibrilwyr a chyffuriau lleddfu poen ychwanegol er mwyn gwella’r cyfraddau goroesi a gwella profiad clinigol y claf.
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.1m yn ychwanegol er mwyn rhoi peniau digidol i holl staff rheng flaen ambiwlansys brys. Bydd y rhain yn golygu y gall parafeddygon reoli ac olrhain gofal cleifion yn ddigidol wrth symud trwy’r system gofal brys.
Roedd adolygiad McClelland yn glir y dylai gweledigaeth glinigol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans brys fod yn ganolog i ddiwygio ambiwlansys ac y dylai unrhyw newidiadau i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli, ariannu a’i strwythuro lifo o hyn.
Mae hyn yn cael ei gyflawni gan brif weithredwyr byrddau iechyd fel aelodau o’r pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys (EASC) – cydbwyllgor o fyrddau iechyd. Mae’n sicrhau bod byrddau iechyd yn atebol am gynllunio a chomisiynu gwasanaethau ambiwlans brys. Yn flaenorol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd yn gwbl gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru.
Er mwyn cadarnhau’r trefniadau hyn, penodwyd Stephen Harrhy, cyn gyfarwyddwr Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, yn brif gomisiynydd cyntaf gwasanaethau ambiwlans Cymru. Bydd yn sicrhau mai’r byrddau iechyd sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ambiwlans brys ac yn helpu i nodi’r meysydd ar gyfer gwella Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mewn llai na blwyddyn mae EASC, dan gadeiryddiaeth yr Athro McClelland, wedi:
- Dyrannu £7.5m o gyllid rheolaidd i recriwtio 119 o staff rheng flaen, gyda 107 o benodiadau wedi’u gwneud hyd yn hyn;
- Darparu £8m pellach i gefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau ambiwlans brys yn ystod cyfnod heriol y gaeaf;
- Cynllunio fframwaith comisiynu ac ansawdd ar gyfer 2015-16, sy’n cynnwys ystod o safonau gofal cleifion ac a fydd yn darparu cyd-destun i ansawdd a phrydlondeb y gofal a ddarperir gan glinigwyr cyn ysbyty.
Tynnodd adolygiad McClelland sylw at y ffaith mai ychydig iawn o dystiolaeth glinigol sydd ar gael i gefnogi’r targed amser ymateb o wyth munud ar gyfer y mwyafrif helaeth o alwadau 999, sy’n cael eu cyfrif ar hyn o bryd fel rhai sy’n bygwth bywyd.
Datblygwyd y targed amser ymateb wyth munud am y tro cyntaf ym 1974 . Nid yw bellach yn adlewyrchiad o’r gofal clinigol y gall clinigwyr ambiwlans ei ddarparu ar leoliad a chyn i’r claf gyrraedd ysbyty - mewn llawer o achosion efallai nad oes angen i’r claf fynd i’r ysbyty o gwbl. Mae’r gwasanaeth ambiwlans wedi symud yn ei flaen gryn dipyn yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, ond nid felly’r ffordd o fesur ansawdd y ddarpariaeth.
Er mwyn adlewyrchu’n well ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu gan glinigwyr cyn ysbyty, rydym wedi cynnal gwaith arbrofol ar ddangosyddion clinigol newydd sy’n disgrifio’r gofal a ddarperir i gleifion sy’n dioddef strôc; STEMI (math o drawiad ar y galon); a thorri clun.
Mae’r rhain yn adlewyrchu’r rôl dyngedfennol y mae parafeddygon yn ei chwarae wrth drin person sy’n sâl neu wedi’i anafu. Mae canlyniadau’r gwaith hwn yn dangos, yn unol â chanllawiau clinigol, bod 95% o gleifion strôc yn cael pecyn penodol o fesurau gofal gan barafeddygon yng Nghymru a bod 86% o’r cleifion sydd wedi torri clun wedi cael triniaeth i leddfu poen ar unwaith yn 2014-15.
Yn unol ag argymhellion McClelland, ac o ganlyniad i’r galw cynyddol am wybodaeth ynghylch galwadau categori A, bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhagor o ddata fel ystadegau swyddogol i ategu’r ystadegau cyd-destunol presennol sydd ar gael bob mis.
Bydd gwybodaeth sy’n ymwneud ag ymatebion gan ambiwlansys i’r cleifion hynny sy’n cael eu cyfrif fel rhai â chyflyrau sy’n bygwth bywyd, lle mae tystiolaeth glinigol i gefnogi ymateb wyth munud – sef galwadau Coch 1 – yn cael ei chynnwys yn y datganiad ystadegol ar ymateb swyddogol ambiwlansys o 25 Mawrth..
Mae hyn yn rhan o adolygiad parhaus o sut rydym yn mesur ac yn adrodd ar ansawdd ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau ambiwlans brys.
Yn dilyn cyhoeddi dau beilot ar gyfer amser ymateb ambiwlansys yn Lloegr ac ar ôl derbyn sylwadau gan gyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am ddilysrwydd clinigol y targed wyth munud, bydd Cymru hefyd yn profi mesurau ymateb newydd i ambiwlansys ar gyfer galwadau categori A. Caiff y rhain eu datblygu ar y cyd â chlinigwyr a byddant yn cael eu llywio gan y dull a weithredwyd yn Lloegr. Rwy’n disgwyl cael cyngor pellach gan glinigwyr ynghylch gwneud y defnydd gorau o adnoddau a gwella canlyniadau clinigol yn yr wythnosau i ddod.
Ein huchelgais yng Nghymru yw creu cyflenwad o glinigwyr cyn ysbyty sy’n gynhenid ac o ansawdd uchel, wedi’u haddysgu a’u hyfforddi mewn prifysgolion yng Nghymru. I gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o barafeddygon. Bydd nifer y llefydd ar y cwrs addasu un flwyddyn yn cynyddu 50 y cant a bydd 300 y cant o gynnydd yn nifer y llefydd ar lefel diploma i barafeddygon ym mlwyddyn academaidd 2015-16 yng Nghymru.
Roedd Adolygiad McClelland yn argymell y dylai gwaith ddechrau ar drosglwyddo gwasanaethau cludo cleifion – a elwir yn wasanaethau gofal cleifion – allan o’r ymddiriedolaeth ambiwlansys a rhoi’r cyfrifoldeb am y ddarpariaeth i’r byrddau iechyd. Wrth ddatblygu’r agwedd hon ar yr adolygiad ymhellach, mae’n rhaid i unrhyw newidiadau arfaethedig sicrhau nad yw’r ymddiriedolaeth ambiwlansys yn colli golwg ar ddarparu gwasanaeth ymateb brys a arweinir yn glinigol.
Mae’r ymddiriedolaeth ambiwlans a byrddau iechyd wedi bod yn edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau cludwyr iechyd, sy’n darparu ystod eang o wasanaethau i gefnogi cymunedau lleol, grwpiau iechyd lleol a meddygon teulu. Bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cymryd drosodd y gwasanaethau cludwyr iechyd.
Yng ngoleuni’r cymhlethdod, y pryderon clinigol a’r materion heriol sy’n ymwneud â’r gweithlu wrth drawsnewid gwasanaethau gofal cleifion, ystyrir eu dyfodol fel rhan o raglen foderneiddio ehangach. Bydd hyn yn rhoi ystyriaeth i ba raddau y caiff y gwasanaethau hyn eu gwahanu oddi wrth y gwasanaeth ambiwlans brys.
Drwy drosglwyddo elfennau o’r gwasanaeth gofal cleifion, rhaid bod hyn yn arwain at ddefnydd gwell o adnoddau i’r bobl hynny sydd angen cludiant pan nad yw’n fater brys, ond hefyd at welliant ym mherfformiad clinigol y gwasanaeth ambiwlans brys.
Siomedig yw’r perfformiad yn erbyn y targed amser ymateb presennol o wyth munud, ac nid yw hyn yn bodloni Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y byrddau iechyd na’r cyhoedd. Serch hynny, gwnaed cynnydd sylweddol o ran rhoi argymhellion McClelland ar waith a throsglwyddo’r gwasanaeth ambiwlans o fod yn wasanaeth cludiant i fod yn wasanaeth glinigol brys.