Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi'r mesur Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ar gyfer chwyddiant ar gyfer mis Medi, sef 1.7%. Mae Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r mesur hwn i gapio'r cynnydd mewn rhent cymdeithasol blynyddol ar gyfer y flwyddyn rhent ddilynol ar CPI +1%, cyn belled â bod CPI ym mis Medi yn parhau i fod yn is na 3%.  Mae cap rhent o CPI + 1% yn gosod fforddiadwyedd wrth wraidd polisi rhent cymdeithasol.  Mae'n gosod y cynnydd rhent uchaf a ganiateir mewn unrhyw flwyddyn ond nid yw'n gynnydd awtomatig. 

Mae anwadalrwydd yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wrth i chwyddiant gyrraedd uchafbwynt o 11.1% ym mis Hydref 2022 ac aros yn gyson uchel ynghyd â chynnydd mewn prisiau ynni, wedi achosi heriau costau byw sylweddol i denantiaid ac i'r sector tai cymdeithasol.  Fe wnaethom ymyrryd yn ystod y cyfnod hwn i osod uchafswm capiau rhent cymdeithasol i gydbwyso fforddiadwyedd â gallu landlordiaid i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i denantiaid.  Mae llawer o landlordiaid cymdeithasol yn parhau i ategu eu gwasanaethau presennol gyda chymorth a chyngor ariannol ychwanegol i denantiaid.  Mae'r mentrau hyn yn adeiladu ar yr arbenigedd sylfaenol y mae landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru wedi'i ddatblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynnal asesiadau fforddiadwyedd, a ddefnyddir i lywio eu polisïau gosod rhent lleol. 

Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu polisi rhent cymdeithasol clir, mwy cadarn ar gyfer y dyfodol. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd fel man cychwyn. Mae'n cydnabod y flaenoriaeth y mae landlordiaid cymdeithasol yn ei rhoi ar sicrhau fforddiadwyedd i'w tenantiaid, a gwerth yr hyblygrwydd a roddir i landlordiaid cymdeithasol o dan y safon rhent bresennol. Er mwyn sicrhau bod ein polisi rhent cymdeithasol yn y dyfodol yn adlewyrchu cyd-destun, anghenion ac uchelgeisiau tai Cymru, rydym yn cydweithio'n agos â landlordiaid cymdeithasol a phartneriaid eraill i sicrhau bod eu mewnbwn yn llywio ein gwaith o ddatblygu polisi.  Mae'r dull hwn yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cydbwyso anghenion landlordiaid cymdeithasol nawr ac yn y dyfodol, ac anghenion  tenantiaid nawr ac yn y dyfodol. 

Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i ddysgu oddi wrth arferion da presennol ac adeiladu arnynt; gwella lle gallwn; a chryfhau ac ymgorffori fforddiadwyedd ymhellach wrth ddatblygu ein polisi rhent cymdeithasol yn y dyfodol. 

Mae ymarfer ymgynghori ffurfiol ar ein polisi rhent cymdeithasol yn y dyfodol ar y gweill ar gyfer haf 2025.