Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mawrth 2012, lansiwyd ‘Gwyddoniaeth i Gymru’ gan Lywodraeth Cymru, sef ei hagenda strategol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru a’i hymateb i ganfyddiadau cychwynnol Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru, yr Athro John Harries.


Mae'r strategaeth yn gosod y nod ein bod yn adeiladu sylfaen gref a deinamig o wyddoniaeth i gefnogi datblygiad economaidd a chenedlaethol Cymru. Rydym yn cydnabod y gall y Llywodraeth gefnogi a chynnig arweiniad i’r cyfeiriad hwn, ond bydd llwyddiant yn y pen draw yn dibynnu ar y cymunedau ymchwil, busnes ac addysg.


Mae’r datganiad hwn yn adroddiad i chi ar y camau sydd wedi’u cymryd hyd yma i gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn Gwyddoniaeth i Gymru ac yn egluro sut y byddwn yn monitro cynnydd pellach yn ystod cyfnod y strategaeth.


Cryfhau Gwyddoniaeth Prifysgol


Dwy o brif elfennau Gwyddoniaeth i Cymru yw’r fenter Sêr Cymru a’r rhaglen Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol.  Y nod yw hyrwyddo ymchwil yng Nghymru trwy raglen ariannu pum mlynedd i ddenu a chynnal ymchwilwyr gwyddonol o safon fyd-eang a’u timau i Gymru er mwyn meithrin ein galluoedd ar gyfer y dyfodol.  Y bwriad hefyd yw creu rhwydweithiau o’r rhagoriaeth sydd gennym i gynyddu’r gyfran y mae Cymru yn ei denu o nawdd Cyngor Ymchwil y DU o’r 3.4% presennol i 5%.


Bydd Sêr Cymru’n rhoi nawdd ar gyfer sefydlu rhwydwaith ymchwil cenedlaethol cydweithredol yn y tri maes Her Fawr a nodir yn Gwyddoniaeth i Gymru: Uwch Beirianneg a Deunyddiau; Gwyddorau Bywyd ac Iechyd; a Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd.  Mae ganddynt gysylltiad agos â thri o'r sectorau busnes yr wyf wedi dewis canolbwyntio arnynt i roi hwb i economi Cymru.


Mae’r prosiect £50 miliwn wedi cychwyn ac ar 27 Medi, cyhoeddais Gyfleoedd Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Roedd nifer calonogol wedi mynegi diddordeb erbyn y dyddiad cau ac ar ôl proses ddidoli fewnol gan swyddogion yn nhîm y Prif Gynghorydd Gwyddonol, cyfarfu’r Bwrdd Cyflawni am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr.  Roedd aelodau’n fwy na bodlon â safon yr unigolion oedd wedi mynegi diddordeb yn y rhaglen.  Bydd ail gyfarfod ym mis Mawrth.


Hefyd, rydym wedi dechrau gweithio gyda’r Grŵp Dydd Gŵyl Dewi Sant o brifysgolion sy’n gwneud llawer o waith ymchwil i wella effeithiolrwydd yr ymchwil a chryfhau’u cysylltiadau â Chynghorau Ymchwil y DU a’r Bwrdd y Strategaeth Dechnoleg.

Meysydd Blaenoriaeth yr Her Fawr


Rydym am annog ymchwil wyddonol yn y meysydd hynny a fydd yn esgor ar ganlyniadau economaidd positif i Gymru a chyhoeddwyd y Prosiectau Cyfnewid Gwybodaeth yn ddiweddar i gefnogi pob un o feysydd yr Her Fawr.  Mae’r prosiectau hyn, fydd denu nawdd o hyd at £200,000 gan Lywodraeth Cymru, bellach wedi’u dyfarnu. Dros gyfnod o ddwy flynedd, byddant yn edrych sut orau y gall y byd academaidd a diwydiant Cymru gydweithio i gael y gorau o’r meysydd strategol a nodwyd i greu swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel yng Nghymru. 


O ran Gwyddorau Bywyd ac Iechyd, mae'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR), eisoes wedi cyhoeddi dau allan o naw cynllun cyflenwi – gan gynnwys un ar ennyn diddordeb Diwydiant y GIG. Mae mentrau cyffrous eraill ar droed i hyrwyddo GIG Cymru a chymuned y sector gwyddorau bywyd ymhlith cymuned ehangach y DU ac yn rhyngwladol.


Eleni mae mwy nag erioed o gwmnïau gwyddorau bywyd o Gymru wedi cyfranogi yn rhai o ddigwyddiadau masnach mwyaf y byd ym maes gwyddorau bywyd.  Hedfanodd tua 70 o gynrychiolwyr o’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru i Dusseldorf yn ddiweddar i gymryd rhan yn Medica – digwyddiad mwya’r byd yn y sector meddygol.  Dyma’r ddirprwyaeth fwyaf erioed i Lywodraeth Cymru ei hanfon i ffair fasnach ryngwladol ac mae’n dangos maint yr ymdrech i gynyddu proffil rhyngwladol y sector trwy fwy o fasnachu ac allforio.


Ym mis Hydref, lansiais Gronfa Dwf gwerth £330,000 i fusnesau bach a chanolig ym maes Ynni a'r Amgylchedd. Mae'r cynllun dwy flynedd hwn yn cefnogi ymchwil, datblygu a masnacheiddio gwybodaeth newydd i helpu cwmnïau yn y sector i gynyddu eu cyfran o'r farchnad – yma a thramor.  Yn y cyfamser, mae'r rhaglen Academia o blaid Busnes, neu A4B, bellach yn gwahodd cynigion sy'n canolbwyntio ar feysydd yr Her Fawr.


Annog Busnesau i Arloesi


Mae Gwyddoniaeth i Gymru yn argymell strategaeth arloesi newydd i ganolbwyntio ar sut orau i annog busnesau i arloesi a defnyddio ymchwil wyddonol i roi hwb i economi Cymru a chreu swyddi tymor hir o ansawdd uchel i Gymru.  Mae grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol eisoes wedi cynnal ymgynghoriad trylwyr â’r carfanau perthnasol a bydd yn cyflwyno ei strategaeth i Lywodraeth Cymru allu ei hystyried cyn hir.


Cynhalion ni ein cystadleuaeth gyntaf yng Nghymru eleni ar gyfer y Fenter Ymchwil Busnesau Bach. Canolbwyntiodd ar dechnoleg ddigidol i gysylltu cymunedau ag ymwelwyr ar hyd Llwybr newydd yr Arfordir. Daeth dros 60 o geisiadau i law a chafodd y syniadau buddugol eu dangos mewn digwyddiad ym mis Gorffennaf.


Cynyddu’r Gronfa Dalentau mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg


Mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau arwyddocaol yn ddiweddar a fydd yn effeithio ar ein gallu i gyflawni amcanion addysg STEM. Bydd yr adolygiad asesu a'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a gyhoeddwyd ar 1 Hydref yn edrych ar bynciau STEM a mathemateg a rhifedd yn arbennig. Hefyd lansiwyd y ddogfen Canllawiau STEM i Ysgolion  yn ddiweddar. Bydd yn helpu athrawon i ddod i wybod am y swm enfawr ac amrywiol o ddeunydd sydd ar gael i gefnogi'r cwricwlwm STEM a’r dewis o yrfaoedd a llwybrau ym meysydd STEM.


Yn y cyfamser, mae'r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol bellach wedi neilltuo dros £600,000 o gymorth ariannol. Bydd y cymorth ariannol hwn yn helpu dros ugain o brosiectau ledled Cymru i annog plant a phobl ifanc i ymwneud â’r gwyddorau.

Darparu Gwyddoniaeth y Llywodraeth yn well. 


Cyhoeddodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol, John Harries, ei ganfyddiad bod yr adnodd staff gwyddonol sy’n rhoi cyngor, llunio polisi a chefnogaeth i sicrhau mwy o nawdd ymchwil o’r tu allan i Gymru, wedi’i daenu’n rhy denau ar draws Llywodraeth Cymru. Argymhellodd Gwyddoniaeth i Gymru felly y dylid dwyn y prif elfennau ynghyd a’u cryfhau o fewn y Llywodraeth.  Hyn a wnaed trwy sefydlu Adran y Prif Wyddonydd ac Isadran Wyddoniaeth o’i mewn.


Mae llawer eto i’w wneud i helpu i wella ansawdd a swm y gwaith ymchwil a wneir yng Nghymru; i helpu i ddatblygu prosiectau Ymchwil a Datblygu mawr ac i godi proffil gyrfaoedd a sgiliau gwyddoniaeth a pheirianneg. Er bod llwyddiant yn y meysydd hyn yn dibynnu yn y pen draw ar y cymunedau ymchwil, busnes ac addysg, mae ein trefniadau mewnol yn gwella’n galluoedd i gydweithio ac i roi arweiniad. Rydym eisoes yn cydweithredu i hybu gwyddoniaeth Cymru ac i reoli ymchwil yn well.


Mae agenda Gwyddoniaeth i Gymru yn un eang.  Bydd ei llwyddiant yn dibynnu ar amrywiaeth o weithredoedd ac ar ein parodrwydd i fanteisio ar gyfleoedd newydd sy’n codi. Ymrwymodd y Cabinet i arolygu Gwyddoniaeth i Gymru trwy Grŵp Gweinidogion ad hoc a finne’n gadeirydd arno. Bydd y Grŵp yn cwrdd ar hynny yn ystod y misoedd  nesaf i adolygu’r hyn sydd wedi’i wneud yn ei flwyddyn gyntaf.


Byddwn yn cyhoeddi cynllun darparu cyn hir ar gyfer Gwyddoniaeth i Gymru fydd yn gosod y pwyntiau gweithredu, yr amserlenni a’r targedau.


Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.