Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Gwelwyd dau benodiad trawiadol eisoes i gadeiriau ymchwil dan fenter arloesol Gwyddoniaeth i Gymru, Sêr Cymru.
Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mehefin llynedd, mae'r Athro Yves Barde o'r Biozentrum ym Mhrifysgol Basel, bellach wedi dechrau ar ei swydd gydag Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, sef Cadair Ymchwil Sêr Cymru mewn Niwrofioleg.
Hefyd mae'r Athro James Durrant o'r Coleg Imperialaidd yn Llundain bellach yn ei swydd newydd, sef Cadair Ymchwil Sêr Cymru mewn Ynni Solar. Ef sy'n arwain Sêr Solar, cyfleuster ymchwil newydd o safon fyd-eang sy'n cydweithio'n agos gyda phrosiect SPECIFIC Prifysgol Abertawe yn y Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth, Parc Ynni Baglan. Mae'n bartneriaeth unigryw rhwng prifysgolion yng Nghymru (dan arweiniad Abertawe) a Choleg Imperialaidd Llundain. Mae ymchwilwyr eraill o'r Coleg Imperialaidd (cartref grŵp ymchwil mwyaf y DU sydd wedi'i ymroi i ddatblygu technolegau solar newydd) fel y prif ymchwilydd ynni solar yr Athro Jenny Nelson, yn ffurfio canolfan ymchwil gyda chymorth ymchwilwyr o Gymru, dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac yn cynnwys Prifysgol Bangor ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Cyhoeddwyd ei benodiad yn ffurfiol ym mis Hydref llynedd.
Mae'n bleser gen i gyhoeddi trydydd penodiad, sef yr Athro Andrew Barron i swydd Cadair Ymchwil Sêr Cymru mewn Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd, ym Mhrifysgol Abertawe. Daw o Brifysgol Rice yn Houston, Texas, lle mae'n dal Cadair Charles W. Duncan Junior - Welch mewn Cemeg, ac yn Athro Gwyddorau Deunyddiau. Mae'n un o'r Cyfarwyddwyr a sefydlodd Sefydliad Systemau Ynni a'r Amgylchedd Prifysgol Rice. Mae hefyd yn aelod uwch o Sefydliad Richard E. Smalley ar gyfer Gwyddorau a Thechnoleg Nano - sefydliad ymchwil byd-enwog a sefydlwyd gan enillydd Gwobr Nobel yn y maes.
Mae'r Athro Barron eisoes yn gweithio yn Abertawe am ran o'r flwyddyn, ac fe fydd yn gwneud mwy yno'n raddol dros y flwyddyn nesaf wrth weithio ar ei ddiddordebau ymchwil yn Rice. Mae'r diddordebau hyn yn cyfateb i bob un o'n tair 'her fawr', ond bydd yn benodol yn arwain Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe.
Gyda'r cadeiriau ymchwil hyn daw Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol. Rydym wedi sefydlu tri, un ym mhob un o'r meysydd 'her fawr' a nodwyd yn Gwyddoniaeth i Gymru. Mae staff Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r prifysgolion ymchwil-ddwys ar draws Cymru, wedi cytuno ar ffurf a chwmpas y Rhwydweithiau hyn. Mae'r trefniadau ar waith ar gyfer eu lansio'n ffurfiol - ym Mhrifysgol Bangor ganol fis Mawrth.
Gyda' i gilydd, dylai'r cadeiriau ymchwil gyda'u timau ehangach, ynghyd â'r gweithgarwch mwy cyson a manwl yr ydym yn ei ddisgwyl o'n Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol, hyrwyddo effeithiolrwydd ymchwil yn y meysydd 'her fawr'; gan alluogi ymchwilwyr i fod yn fwy llwyddiannus wrth wneud ceisiadau am gyllid ar gyfer ymchwil cystadleuol, ac ymhen amser gynhyrchu gwybodaeth newydd y gellir ei ddefnyddio'n fasnachol, er lles Cymru.
Bydd ein Hadroddiad Blynyddol ar Gwyddoniaeth i Gymru yn adrodd ar gynnydd y strategaeth hon yn gyfan. Rwy'n disgwyl y bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill, ar ôl i'r flwyddyn ariannol ddod i ben.