Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae gan y sector gofal cymdeithasol ran hanfodol i'w chwarae wrth atal derbyniadau i'r ysbyty dros gyfnod y gaeaf, yn enwedig i bobl hŷn.
Rydym yn gwybod y gall brechu staff fod yn effeithiol wrth leihau lledaeniad afiechydon a marwolaeth cleifion mewn lleoliadau gofal. Gall hefyd helpu i sicrhau parhad busnes trwy leihau salwch staff sy'n gysylltiedig â'r ffliw. Dyna pam ei bod nid yn unig yn hanfodol bwysig bod pobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau o'r ffliw yn derbyn y brechiad, ond bod y rhai sy'n gweithio gyda nhw ac ochr yn ochr â nhw yn cael eu hamddiffyn hefyd.
Y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddem yn cynnig y brechiad ffliw i staff sy'n gweithio mewn gofal preswyl i oedolion a chartrefi nyrsio.
Rydym yn falch o gadarnhau ein bod eleni yn ehangu’r cynnig hwn o’r brechiad ffliw am ddim i weithwyr sy’n darparu gofal cartref. Bydd y brechiad hwn yn cael ei gynnig trwy fferyllfeydd cymunedol a bydd yn cael ei gynnig heb unrhyw gost i weithwyr gofal cartref na’u cyflogwyr.
Cyn bo hir, byddwn yn ysgrifennu at y byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a darparwyr gofal cartref i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith fod y brechiad ar gael i’r gweithwyr hyn, pa mor bwysig ydyw, a sut y gellir cael gafael arno.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau parhad gofal trwy'r tymor gaeaf heriol hwn ac yn sicrhau y bydd y staff ymroddedig sy'n gweithio yn y sector, ynghyd â'r bobl y maent yn darparu gofal iddynt, yn cael eu gwarchod a'u paratoi'n briodol ar gyfer y gaeaf.