Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Rwyf o’r farn y dylid newid blwyddyn yr etholiad cyffredin er mwyn ethol cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn, gan ei gynnal ym mis Mai 2013 yn hytrach na mis Mai 2012.
Ym mis Mawrth 2011, yn dilyn adroddiad ac argymhelliad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, fe gyfarwyddais y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i adolygu’r trefniadau etholiadol ar Ynys Môn. O dan y Cyfarwyddyd i’r Comisiwn, roedd gofyn iddo gyflwyno ei adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru erbyn 30 Medi 2011.
Rhoddwyd y gorau i waith y Comisiwn dros dro yn sgil cyhoeddi adroddiad Mathias, sef adolygiad annibynnol o’r materion ansawdd ac amserlennu a oedd yn gysylltiedig â rhaglen y Comisiwn o adolygiadau etholiadol. O ganlyniad i adolygiad Mathias, a’r camau a ddeilliodd o hwnnw, nid oedd yn bosibl cwblhau’r adolygiad o drefniadau etholiadol Ynys Môn mewn pryd.
Mae’r Comisiwn wedi ailddechrau ar ei waith erbyn hyn, ac wedi cyhoeddi ei adroddiad drafft ar y trefniadau etholiadol ar Ynys Môn at ddiben ymgynghori. Mae adroddiad drafft y Comisiwn yn argymell newidiadau sylweddol. Mae’r Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi ei adroddiad terfynol erbyn 30 Mawrth 2012.
Ni fydd yn bosibl felly ystyried adroddiad terfynol y Comisiwn ac, os bydd hynny’n briodol, cyflwyno unrhyw newidiadau cyn etholiadau lleol mis Mai 2012.
O ganlyniad rwyf o’r farn y dylwn arfer fy mhwerau o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i symud yr etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr sir a chynghorwyr cymuned a thref o fis Mai 2012 i fis Mai 2013. Rwy’n bwriadu ymgynghori â llywodraeth leol, y pleidiau gwleidyddol a’r cyrff a’r unigolion eraill sydd â diddordeb yn y cynnig hwn cyn penderfynu ar y mater yn derfynol.