Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i helpu teuluoedd gyda chostau gofal plant drwy Gynnig Gofal Plant Cymru. 

Mae ein Cynnig Gofal Plant blaenllaw yn darparu hyd at 30 awr o addysg feithrin a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth am 48 wythnos y flwyddyn i deuluoedd cymwys sy’n gweithio, dan hyfforddiant neu mewn addysg, â phlant tair a phedair oed. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnig gofal plant sy’n rhan o’n rhaglen Dechrau'n Deg i deuluoedd â phlant dwy oed.

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r gyfradd fesul awr sy'n cael ei thalu i ddarparwyr gofal plant bob tair blynedd.

Fel rhan o'r cylch adolygu presennol, mae darparwyr gofal plant a chyrff cynrychiadol wedi gofyn inni ailystyried pa mor reolaidd y mae'r adolygiadau'n cael eu cynnal. Yn ei ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru, mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd hefyd wedi galw am symud i adolygiadau blynyddol o'r gyfradd fesul awr sy'n cael ei thalu i ddarparwyr gofal plant.

Rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi amgylchedd lle mae'r sector yn gallu ffynnu a thyfu os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau a nodir yn ein Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar. Gan gymryd barn y sector i ystyriaeth, byddwn yn symud i adolygiadau blynyddol ar ôl cwblhau'r adolygiad tair blynedd presennol. Bydd y dull hwn yn helpu'r sector i gynllunio a gwella cynaliadwyedd.

Mae hyn, ynghyd â'n penderfyniad i wneud rhyddhad ardrethi o 100% i ddarparwyr gofal yn rhywbeth parhaol yn dangos ein cefnogaeth barhaus i'r sector. 

Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am ganlyniad yr adolygiad o ardrethi tair blynedd presennol yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2025-26.