Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, yn rhan o'i adolygiad diweddaraf ar raglen frechu COVID-19, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi datganiad sy'n argymell brechiad atgyfnerthu y gwanwyn ar gyfer y bobl hynny y mae'n ystyried y byddent yn elwa fwyaf ar gael eu brechu.
Prif nod rhaglen frechu COVID-19 o hyd yw atal clefydau difrifol (sy'n arwain at orfod mynd i'r ysbyty a marwolaethau) yn sgil COVID-19. Fel strategaeth ragofalus, mae'r Cyd-bwyllgor wedi argymell y dylai'r bobl a ganlyn gael dos atgyfnerthu yn y gwanwyn:
- oedolion 75 oed a throsodd;
- pobl sy’n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn, ac
- unigolion 6 mis oed a throsodd sy'n imiwnoataledig (fel y'i diffinnir yn nhabl 3 neu 4 yn y Llyfr Gwyrdd).
Wrth argymell hyn, mae'r Cyd-bwyllgor wedi ystyried y data sydd ar gael yn y DU ac yn rhyngwladol, sy'n parhau i awgrymu mai pobl hŷn sy'n wynebu'r risg uchaf o gael clefydau difrifol os cânt eu heintio gan COVID-19. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi nodi y dylid cynnig dos y gwanwyn tua 6 mis ar ôl y dos brechlyn diwethaf, er y caniateir hyblygrwydd gweithredol o ran yr amseriad. Ystyrir mai'r brechlynnau COVID-19 amrywiolyn XBB diweddaraf, sy'n cyfateb agosaf at yr amrywiolion sy'n lledaenu ar hyn o bryd, sydd orau i'w defnyddio ar gyfer yr ymgyrch. Dyma'r brechlynnau Pfizer-BioNTech a Moderna mRNA XBB.1.5.
Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac mae cais wedi'i wneud i fyrddau iechyd gynllunio eu rhaglenni brechiadau atgyfnerthu y gwanwyn ar y sail hon. Bydd manylion y rhaglen yn cael eu nodi yn fuan mewn rhifyn o Gylchlythyr Iechyd Cymru a gyhoeddir gan y Prif Swyddog Meddygol.
Fel ag erioed, rwy'n ddiolchgar iawn i'r GIG ac i bawb sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus i helpu i gadw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn ddiogel ac wedi'u hamddiffyn.