Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd Tasglu Maes Awyr Caerdydd gan Brif Weinidog Cymru ym mis Mehefin 2012.  Roedd aelodau’r Bwrdd yn cynrychioli amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys y TUC; cyrff twristiaeth; Cyngor Sir Bro Morgannwg; yr Ardal Fenter; BAMC; y CBI; Siambr Fasnach De Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  

Rhoddwyd yr amcanion canlynol i’r Tasglu:

  • Datblygu set o fentrau strategol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd;
  • Cydweithredu i farchnata a hyrwyddo Cymru yn gyffredinol fel cyrchfan fusnes, twristiaeth a hamdden ac yn enwedig Maes Awyr Caerdydd fel y porth rhyngwladol i Gymru;
  • Rheoli cyfathrebu a meithrin cysondeb y negeseuon craidd er mwyn cael gwell cydlyniant rhwng y rhanddeiliaid.

Ym mis Gorffennaf 2013 trosglwyddodd y Prif Weinidog gadeiryddiaeth y Tasglu i mi.

Ers i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd, cwmni Cardiff International Airport Ltd (CIAL) sy’n gyfrifol am  redeg y Maes Awyr o ddydd i ddydd. Mae fy swyddogion wedi bod yn cynnal trafodaethau eang am yr anghenion ar gyfer y dyfodol a’r opsiynau ar gyfer y Tasglu, ar ôl ymgynghori ag aelodau’r Tasglu, Bwrdd Cynghori Llywodraeth Cymru ar Dwristiaeth a’r Ardal Fenter.


Roedd pawb yn gytûn nad oedd y Tasglu wedi llwyddo i gyflawni eu hamcanion gwreiddiol. Mae llawer o’r sefydliadau a gynrychiolir ar y Tasglu eisoes yn aelodau o Fyrddau eraill sy’n cydweithio â CIAL. Tybiwyd hefyd y gallai bodolaeth y Tasglu achosi dryswch gan fod nifer o Fyrddau a Phwyllgorau eraill yn ymwneud â Maes Awyr Caerdydd a’r ardal oddi amgylch.

Rwyf wedi penderfynu diddymu’r Tasglu ar unwaith felly. Byddaf yn sicrhau bod Bwrdd CIAL, y Panel Cynghori ar Dwristiaeth ac Ardal Fenter Sain Tathan – Caerdydd yn cydweithio’n agos er mwyn cyflawni amcanion economaidd cydlynus.