Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Gorffennaf, gofynnodd William Graham AC i mi ddarparu Datganiad Ysgrifenedig yn diweddaru’r Cynulliad ar y gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â chynnau tanau’n fwriadol ac ymdrin ag achosion o ymosod ar bersonél ein gwasanaethau brys, yn arbennig diffoddwyr tân.

Dan adran 6 Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, mae gan y Gwasanaethau Tân ac Achub gyfrifoldeb statudol i sicrhau darpariaeth â’r bwriad o hyrwyddo diogelwch tân. Mae cyfuno gwaith i atal, addysgu ac ymyrryd yn flaenoriaeth i’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru er mwyn lleihau’r perygl o danau.

Cafwyd gwelliant o ran canlyniadau i ddinasyddion Cymru ers datganoli’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn 2004-05. Byddaf yn cyflwyno gwybodaeth fanwl am y gwelliannau hyn yn fy Natganiad Llafar ar 22 Hydref.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae £50 miliwn wedi’i roi i’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub i gefnogi gweithgaredd atal tân. Yn 2013-14, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub ac mae wedi neilltuo cyllid o  £3 miliwn i gefnogi gweithgareddau diogelwch tân. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys Gwiriadau Diogelwch Tân yn y cartref, rhoi cymorth i bobl fregus yn eu cartrefi a gweithgaredd yn ymwneud â lleihau achosion o losgi bwriadol, gan gynnwys gwaith ataliol gyda phlant a phobl ifanc.

Datblygwyd nifer o weithgareddau i helpu i leihau problem llosgi bwriadol. Er enghraifft, mae Prosiect Ffenics sydd wedi’i anelu at bobl ifanc 11 i 25 oed yn mynd i’r afael â materion yn amrywio o hunan-barch isel a diffyg hyder i ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau’n gysylltiedig â thân, fel cynnau tanau’n fwriadol a galwadau ffug. Bu’r adborth o brosiectau Ffenics yn hynod o gadarnhaol gyda thystiolaeth o leihad mewn aildroseddu. Fe ymwelais i â phrosiect De Cymru a chefais argraff dda o weld lefel ymgysylltu’r bobl ifanc.

Mae gan y bobl sy’n gweithio yn y Gwasanaethau Tân ac Achub swyddogaeth hanfodol yn lleihau perygl yn ein cymunedau ac ymateb i argyfyngau, achub bywydau neu atal sefyllfaoedd rhag dwysau cyn i gymorth arbenigol gyrraedd weithiau. Caiff diffoddwyr tân a gweithwyr argyfwng eraill eu gwarchod dan Ddeddf Gweithwyr Argyfwng (Rhwystro) 2006. Y gosb lymaf am drosedd dan y Ddeddf hon yw dirwy lefel 5, sydd ar hyn o bryd hyd at £5,000.

Caiff nifer a natur yr ymosodiadau ar staff Gwasanaethau Tân ac Achub eu monitro. Adroddwyd am dros 55 o ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân yn 2011. Cafwyd gostyngiad i 40 yn 2012. Hyd yma eleni, adroddwyd am 17 o ymosodiadau. Yn bennaf roedd y digwyddiadau hyn yn ymwneud ag ymosodiadau geiriol  (12), gydag ymosodiadau eraill yn cynnwys cyswllt corfforol (1), taflu pethau (3) ac ymddygiad ymosodol at ddiffoddwyr tân (1).

Mae nifer o fentrau wedi’u datblygu gan y Gwasanaethau Tân ac Achub i fynd i’r afael â phroblem ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda phobl yn yr ardaloedd lle ceir y digwyddiadau hyn, darparu cyfarpar ychwanegol, cynllunio mesurau gwarchodol a threialu gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng ar gyfer peth cyfarpar diffodd tân. 
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i rannu’r newyddion diweddaraf gydag Aelodau am benodiad Cynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub newydd Llywodraeth Cymru, Lee Howell. Dechreuodd Lee yn ei swydd ar 2 Awst. Daw â chyfoeth o brofiad, gwybodaeth a sgiliau i’r swydd. Rwyf i’n credu y bydd penodi Prif Swyddog Tân sy’n gwasanaethu yn dod â phersbectif newydd i swydd y Cynghorwr, gan gynnig cyfle i rannu a dysgu o’i brofiad ei hun a phrofiad pobl eraill. Mae’r swydd yn cynnwys darparu cyngor ar gyflenwi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru o 2012 ymlaen, materion gweithrediadol, materion yn ymwneud ag arweiniad a pholisi technegol yn ogystal â pherfformiad ac amrywiaeth.