Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Ym mis Hydref 2017, fel rhan o'r Rhaglen newydd i Ddileu TB, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddull rhanbarthol gan gyflwyno Ardaloedd TB Uchel, Canolradd ac Isel. Mae hyn yn golygu y gellir teilwra mesurau i fynd i'r afael â risgiau a ffactorau amrywiol sy’n achosi’r clefyd ym mhob 'Ardal TB'. Mae hyn yn caniatáu i fesurau cael eu rhoi ar waith yn gyflym, yn hyblyg ac ar lefel leol er mwyn lleihau’r clefyd ac ymateb i unrhyw gynnydd lleol yn nifer yr achosion o’r clefyd. Yn unol â'r mesurau diogelu hyn, rydw i heddiw yn cyhoeddi bod profion ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn Ardal TB Canolradd y Gogledd (ITBAN) fel rhan o'n nod hirdymor i ddileu TB gwartheg yng Nghymru.
Mae epidemiolegwyr y Llywodraeth wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer yr achosion newydd yn Ardal TB Canolradd y Gogledd. Nid yw'r cynnydd hwn yn duedd tymor byr ac mae'n glir na fydd nifer yr achosion newydd yn lleihau heb gymorth. Y llynedd roedd cynnydd o 75% ers y 12 mis diwethaf.
Fy mlaenoriaeth yw diogelu statws Ardal TB Isel y Gogledd a’i hehangu er mwyn cynnwys ardaloedd newydd yn Ardal TB Canolradd y Gogledd erbyn 2023 os bydd yr ardaloedd Canolradd hynny’n bodloni'r gofynion priodol o ran y clefyd . Mae cynnydd yn nifer yr achosion o’r clefyd mewn ardal ger yr Ardal TB Isel yn peryglu'r dyheadau hyn. O ganlyniad, o 13 Tachwedd 2018 ymlaen, rwy'n bwriadu estyn y defnydd o brofion ychwanegol ar fuchesi yn Ardal TB Canolradd y Gogledd sydd gerllaw buchesi sydd wedi'u heintio ac sydd wedi colli’u statws heb TB swyddogol . Bydd y profion ychwanegol hyn ar fuchesi sydd â risg uchel o gael eu heintio yn arwain at ddyblu'r ymdrechion i ddod o hyd i’r clefyd yn yr ardal, drwy gynnal2 brawf ychwanegol ar fuchesi cyffiniol chwe mis ar wahân.
Er mwyn cefnogi ffermwyr yn Ardal TB Canolradd y Gogledd yn ystod yr cyfnod anodd hwn, rwyf wedi cytuno i gyflwyno ymweliadau milfeddygol "Cadw TB Allan" a gymorthdelir gan y Llywodraeth ar gyfer buchesi sydd wedi cael canlyniad negyddol mewn profion ar fuchesi cyffiniol. Milfeddygon o bractis lleol y ffermwr, a fydd wedi cael hyfforddiant penodol, fydd yn gwneud yr ymweliadau hyn a byddant yn edrych ar y sefyllfa o ran y clefyd yn lleol, bioddiogelwch a pholisi’r fferm ar brynu a gwerthu gwartheg, a gwella prynu gwybodus gan adlewyrchu'r dull a ddefnyddir mewn ymweliadau Cymorth TB ar gyfer buchesi sydd wedi'u heintio â TB.
Pwynt pwysig yr hoffwn ei hyrwyddo yn Ardal TB Canolradd y Gogledd, ac mewn mannau eraill yng Nghymru, yw y gall cyflwyno anifeiliaid newydd i fuchesi fod yn risg bosibl o ran TB, a chlefydau eraill mewn gwartheg. Felly, y nod allweddol yw prynu'n wybodus er mwyn lleihau'r risg o ledaenu clefydau. Dylid annog ffermwyr i ystyried hanes TB y fuches y mae'r gwartheg yn cael eu prynu oddi wrthi er mwyn iddynt allu gwneud asesiad gwybodus er mwyn rheoli'r risg o gyflwyno TB i'w buches. Bydd hyn yn cynnwys gofyn cwestiynau ynghylch hanes profi'r anifeiliaid dan sylw a thrwy ddefnyddio'r offeryn ibTB.
Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos â'r rheini yn DEFRA er mwyn sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu rhoi ar ddwy ochr y ffin, er y gall polisïau amrywio ar adegau. Credaf fod hyn yn bwysig iawn o ran yr wybodaeth a ddarperir drwy ymweliadau "Cadw TB Allan" yng Nghymru a'r gwaith y mae'r Gwasanaeth Cynghori TB (TBAS) yn ei wneud yn Lloegr wrth hyrwyddo bioddiogelwch da a phrynu gwybodus. Mae'r ffocws ar gyflawni'r mesurau hyn drwy gysylltiadau a phartneriaethau â rhanddeiliaid lleol.
Mae dull Llywodraeth Cymru o ddileu TB yn cynnwys mynd i'r afael â phob ffynhonnell heintio, gan gynnwys gwartheg yn heintio’i gilydd a rôl bywyd gwyllt. Rydym wedi gwneud cynnydd da at gyflawni ein nod o ddileu TB buchol yng Nghymru. Bydd cyflwyno profion ychwanegol ar fuchesi cyffiniol yn Ardal TB Canolradd y Gogledd yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd at fod yn Gymru heb TB. Rwyf wedi ymrwymo i adrodd ar y cynnydd a wneir ar y Rhaglen newydd i Ddileu TB ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf unwaith y bydd gennym ddata ar gyfer blwyddyn galendr lawn.
Mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at yr holl ffermwyr yn Ardal TB Canolradd y Gogledd yn esbonio sefyllfa'r clefyd yn yr ardal gan nodi'r mesurau ychwanegol yr ydym yn eu rhoi ar waith ar lefel leol.