Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Heddiw rwyf wedi cyhoeddi Bil Cynllunio (Cymru) drafft a phapur ategol Cynllunio Cadarnhaol sy'n nodi cynigion i ddiwygio'r system gynllunio yng Nghymru.  Mae'r Bil nodedig hwn yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Mae'n rhan allweddol o'n Rhaglen Ddeddfwriaethol a'r nod yw cyflwyno system gynllunio fodern sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.  I gyflawni hyn, rwyf am weld newid yn y diwylliant cynllunio, gan symud o reoleiddio datblygiadau i alluogi datblygiadau priodol a helpu i sicrhau'r cartrefi, y swyddi a'r seilwaith sydd eu hangen ar genedlaethau nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r Bil drafft a'r papur ymgynghori wedi cael eu llywio gan sail dystiolaeth gynhwysfawr a sgyrsiau manwl â defnyddwyr y system gynllunio.  Mae'r rhaglen newid sylweddol rwy'n bwriadu ei gweithredu yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol newydd, diwygiadau i is-ddeddfwriaeth ac adolygiad o bolisi a chanllawiau.  Gyda'i gilydd, mae'r rhaglen yn datblygu ac yn adeiladu ar lawer o'r argymhellion o'r adroddiad Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol a baratowyd ar ein cyfer gan y Grŵp Cynghori Annibynnol, wedi'i gadeirio gan John Davies MBE.

Mae'r Bil Cynllunio (Cymru) drafft a'r papur ymgynghori yn manteisio ar y difidend datganoli. Maent yn cynnig diweddaru strwythurau er mwyn darparu fframwaith cyfreithiol sy'n cadarnhau ein dull gweithredu gwahanol ac sy'n gwbl ymatebol i anghenion ein gwlad. Gyda'i gilydd, maent yn ailddiffinio priod rolau a chyfrifoldebau pob sefydliad sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau cynllunio ac maent yn ategu'r gwaith a wneir gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.  

Cynigir rhoi mwy o rôl i Weinidogion Cymru drwy baratoi cynllun datblygu cenedlaethol a gwneud penderfyniadau uniongyrchol am ddatblygiadau sydd o bwys cenedlaethol, gan gynnwys prosiectau ynni sydd rhwng 25 a 50 megawat.  Am y tro cyntaf yng Nghymru, cynigir fframwaith statudol ar gyfer gwaith cynllunio strategol er mwyn sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â materion sy'n bwysig y tu hwnt i lefel leol, fel cyflenwad tai. Byddwn hefyd yn mireinio'r broses o lunio Cynlluniau Datblygu Lleol yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd o'r rhai a fabwysiadwyd yn llwyddiannus hyd yma.

Er mwyn gwella prosesau cydweithredu lleol, caiff pwerau presennol eu trawsnewid fel bod modd i awdurdodau cynllunio lleol gael eu huno i greu cyrff mwy o faint a mwy gwydn a all gael gafael ar ystod ehangach o sgiliau arbenigol.  

Caiff effeithiolrwydd a chysondeb gwasanaethau cynllunio lleol eu gwella drwy wneud gwelliannau i weithdrefnau rheoli datblygiadau, gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar broses gychwynnol ceisiadau cynllunio, cynnwys y gymuned yn fwy a diwygio gweithdrefnau pwyllgorau cynllunio.  

Elfen bwysig o'n cynigion yw cyflwyno systemau monitro perfformiad, sydd wedi'u dylunio i sicrhau bod pawb sy'n defnyddio'r system gynllunio yn cael gwasanaeth cynllunio lleol da ledled Cymru.  Cefnogir hyn gan sancsiynau am berfformiad gwael parhaus, gan gynnwys y gallu i gyflwyno ceisiadau cynllunio yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru.

Bydd y Bil drafft, y diwygiadau arfaethedig i is-ddeddfwriaeth a'r adolygiad o bolisi a chanllawiau yn darparu fframwaith cynhwysfawr a chadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Fodd bynnag, ni fyddant yn cyflawni'r diwygiadau rwy'n chwilio amdanynt ar eu pen eu hunain. Law yn llaw â hwy, rhaid newid y diwylliant a meithrin yr hyder i weithio mewn ffordd newydd.  

Er mwyn helpu i newid y diwylliant, rwy'n cynnig y dylid sefydlu Gwasanaeth Cynghori a Gwella Cynllunio a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Byddaf hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith cymhwysedd ar gyfer ymarferwyr cynllunio a chynghorwyr i bennu'r sgiliau, y wybodaeth a'r mathau o ymddygiad sydd eu hangen er mwyn cyflawni'r agenda uchelgeisiol hon.

Bydd yr ymgynghoriad ar y Bil Cynllunio (Cymru) drafft a'r papur ymgynghori yn rhedeg tan 26 Chwefror 2014.  Caiff y Bil ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiweddarach yn 2014.

www.wales.gov.uk/consultations/planning/draft-planning-wales-bill/?lang=cy