Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau Datblygu Cynaliadwy, mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o ddefnyddio’i phwerau er mwyn creu’r amodau angenrheidiol ar gyfer twf economaidd a chreu swyddi cynaliadwy, tymor hir ar gyfer pobl Cymru. Rydym yn gweithio ledled portffolios y Llywodraeth er mwyn gwneud yn siŵr bod ein polisïau yn integredig ac yn briodol.


Mae’r cyfrifoldeb dros y system gynllunio wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ac mae gan y system ran ganolog yn y broses o greu swyddi a sicrhau bod y swyddi hynny wedi’u lleoli yn y llefydd mwyaf priodol a chynaliadwy. Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr bod y system gynllunio’n cefnogi twf economaidd yng Nghymru ac yn cael ei chydnabod fel elfen annatod o ddatblygu cynaliadwy, sef prif egwyddor drefniadol Llywodraeth Cymru. 


Yn ddiweddar cyhoeddais rifyn newydd o Bolisi Cynllunio Cymru, gan ddiweddaru ein polisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer datblygu economaidd. Mae’r fframwaith polisi newydd yn ceisio sicrhau bod gan awdurdodau cynllunio lleol sylfaen o dystiolaeth gadarn, briodol i’r ardal, sy’n adlewyrchu’r materion datblygu economaidd sy’n codi mewn cynigion datblygu newydd. Rwy’n disgwyl i bob awdurdod cynllunio ystyried buddiannau economaidd y cynigion yn eu penderfyniadau ar geisiadau cynllunio mewn ffordd resymegol a thryloyw; bydd hyn yn ffordd o sicrhau bod penderfyniadau yn cynnwys cydbwysedd priodol o ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.


Mae diwygiad Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn cynnwys datganiad clir sy’n cryfhau ac yn egluro’r rhagdybiaeth o blaid datblygu cynaliadwy. Mae’n pwysleisio’r angen i fabwysiadu cynllun datblygu a’r angen i wneud penderfyniadau yn unol â’r cynllun datblygu gyda’r nod o gyfrannu tuag at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n hanfodol i awdurdodau cynllunio lleol gael cynlluniau datblygu cyfredol; lle bo’u polisïau cynlluniau datblygu wedi dyddio neu wedi’u disodli gan ystyriaethau materol eraill fel y polisi cynllunio cenedlaethol, mae ein polisi ni’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau roi llai o bwyslais ar eu polisïau hwy yn y broses o wneud penderfyniadau.


I ategu’r polisi newydd, byddwn yn cynhyrchu Nodyn Cyngor Technegol newydd y flwyddyn nesaf a fydd yn helpu awdurdodau cynllunio lleol i gasglu’r dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer eu Cynlluniau Datblygu Lleol. 


Er bod y diwygiad i’r fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol yn bwysig, rwyf hefyd yn cydnabod bod angen i’r broses o wneud ceisiadau cynllunio fod yn gymesur ac yn rhesymol ar gyfer busnesau ac ymgeiswyr eraill. Rwyf wedi dechrau ar nifer o newidiadau i’r broses rheoli datblygu gyda’r bwriad o helpu yn hyn o beth.


Yn gynharach eleni, cyflwynwyd deddfwriaeth er mwyn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol weithredu Gorchmynion Datblygu Lleol a fyddai’n rhoi caniatâd cynllunio i fath arbennig o ddatblygiad sy’n cael ei nodi yn y Gorchymyn heb i’r datblygwr gyflwyno cais cynllunio.  Er mwyn cynorthwyo gyda hyn rydym wedi sicrhau bod arian ar gael i awdurdodau cynllunio lleol er mwyn cyflwyno Gorchmynion Datblygu Lleol ac rwy’n falch o nodi bod 3 awdurdod wedi gofyn am gymorth hyd yma.


Rwyf wedi cyhoeddi canllawiau arfer da ar gyfer trafodaethau cyn ymgeisio er mwyn annog awdurdodau cynllunio lleol i roi’r gwasanaeth gorau posibl ar adeg hanfodol – dechrau’r broses ddatblygu. Gall cysylltiad cynnar helpu datblygwyr, cymunedau ac awdurdodau cynllunio lleol i ddeall ei gilydd, gan arwain at well cynlluniau a llai o oedi yn y broses o wneud penderfyniadau.  


Mae trafodaethau o’r fath yn ategu’r newidiadau a wnaed gennyf yn gynharach eleni i gyflwyno’r gofynion gwybodaeth safonol ar gyfer ceisiadau ledled Cymru, a thrwy hynny leihau’r anghysondeb rhwng awdurdodau cynllunio lleol.  Rwy’n bwriadu dilyn rhagor o newidiadau er mwyn gwneud y gweithdrefnau’n fwy effeithiol drwy’r Bil Diwygio Cynllunio, gan gynnwys edrych ar y ffordd orau i aelodau etholedig ymdrin â chynigion datblygu.  Rwyf newydd ddechrau prosiect ymchwil er mwyn cael digon o dystiolaeth ar gyfer diwygio yn y dyfodol.


Bydd y newidiadau hyn yn gwella’r broses o ddelio â cheisiadau cynllunio, ond rwyf hefyd wedi ceisio cynyddu’r ystod o brosiectau gwella busnes nad ydynt angen caniatâd cynllunio.  Ym mis Hydref gosodais hawliau datblygu a ganiateir newydd yn lleihau’r gofynion cynllunio yn ymwneud ag offer microgynhyrchu ar eiddo busnes, gan arbed y gost a’r amser sy’n gysylltiedig â chyflwyno cais cynllunio.


Rwyf hefyd yn bwriadu caniatáu mwy o estyniadau ar eiddo busnes; mae ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi ar ystod y newidiadau sy’n cael eu hargymell,  gan wahodd sylwadau cyn 11 Ionawr 2013.  Wedi edrych ar yr ymatebion, byddaf yn ystyried i ba raddau mae’n briodol llacio’r rheolaeth er mwyn cynnal datblygu cynaliadwy gan annog twf economaidd.