Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Y llynedd, dechreuodd Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad pwysig o bolisïau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol ar gyfer datblygu economaidd er mwyn sicrhau ei bod yn adnewyddu’r economi mewn modd cynaliadwy. Mae’r ymrwymiad hwn yn ymateb i gyhoeddi Astudiaeth i Archwilio’r Broses Ceisiadau Cynllunio yng Nghymru (Mehefin 2010) ac Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd (Gorffennaf 2010).

 

Fel sail i’r adolygiad hwn, comisiynwyd adroddiad ymchwil, sef ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’, er mwyn gwerthuso effeithlonrwydd y polisi cynllunio presennol ar ddatblygu economaidd, ac asesu gofynion polisïau a chanllawiau cynllunio yn y dyfodol. Roger Tym & Partners ac Asbri Planning a gafodd eu penodi i gynnal y prosiect ymchwil.

 

Heddiw, mae’n dda gennyf ddweud, fe gyhoeddwyd yr adroddiad ymchwil pwysig hwn, sydd ar gael i’w ddarllen ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Bu grŵp llywio ymchwil o gynrychiolwyr o’r sector busnes, sector yr amgylchedd, y maes cynllunio ac awdurdodau lleol, yn goruchwylio’r prosiect ac maen nhw wedi cymeradwyo ei gasgliadau a’i argymhellion.

 

I wneud yr ymchwil, defnyddiwyd cronfa dystiolaeth gynhwysfawr sy’n cynnwys adolygiad manwl o bolisïau cenedlaethol, astudiaethau achos oddi wrth awdurdodau lleol; gwersi a ddysgwyd o brofiad llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig; a thrafodaethau â nifer o randdeiliaid mewn gweithdai a gynhaliwyd ledled Cymru yn gynharach eleni.

<?xml:namespace prefix = o />

<?xml:namespace prefix = o /> 

Gwneir nifer o argymhellion:

  • dylid adfywio’r polisi cynllunio cenedlaethol ar ddatblygu economaidd, gan gyhoeddi nodyn cyngor technegol newydd;
  • dylid creu adnodd canolog o wybodaeth economaidd i fwydo’r gronfa dystiolaeth sy’n sail i Gynlluniau Datblygu Lleol a phenderfyniadau sy’n ymwneud â rheoli materion datblygu;
  • dylid meithrin cysylltiadau agosach rhwng swyddogaethau cynllunio a datblygu economaidd ar lefel leol, gyda’r timau datblygu economaidd yn chwarae mwy o ran yn y gwaith o baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol a chynghori ar geisiadau cynllunio sydd at ddibenion economaidd;
  • dylai busnesau wneud mwy i nodi a hyrwyddo gwerth economaidd datblygiadau trwy brosesau Cynlluniau Datblygu Lleol a rheoli datblygu;
  • dylid sefydlu trefniadau newydd i ymdrin â chynllunio strategol ar lefel uwch na lefel awdurdod cynllunio lleol. Dylent gyd-fynd yn agosach ag ardaloedd economaidd fel ardaloedd mewn dinasoedd.

Mae’r ymchwil hefyd yn cynnwys argymhelliad atodol y dylid rhoi ystyriaeth bellach i’r modd y mae rheoliadau a pholisïau yn effeithio ar hyfywedd ariannol datblygiadau.<?xml:namespace prefix = o />

<?xml:namespace prefix = o /> 

Mae argymhellion yr adroddiad ymchwil  wedi’u hystyried a’u derbyn yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Wrth fwrw ymlaen â’r argymhellion, byddaf yn ymgynghori ar bolisïau cynllunio diwygiedig ar gyfer adnewyddu economaidd ynghyd â fframwaith Nodyn Cyngor Technegol ar ddatblygu economaidd yn nes ymlaen eleni.<?xml:namespace prefix = o />

<?xml:namespace prefix = o /> 

Ar y cyd â’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, byddaf yn trafod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sut y gellir sicrhau bod timau cynllunio a thimau datblygu economaidd awdurdodau lleol yn cydweithio’n agosach. Byddaf hefyd yn cynnal trafodaethau â’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a chyd-aelodau eraill o’r Cabinet i weld sut y gallwn fynd ati i ddeall effaith rheoliadau a pholisïau ar hyfywedd datblygu, a hefyd fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu adnodd gwybodaeth economaidd canolog  i gefnogi’r canllawiau technegol newydd. Yn ogystal â hynny, byddwn yn edrych ar ddulliau o ymwneud â chynllunio ar lefel uwch na lefel awdurdod lleol. Byddaf yn ystyried yr ail o fewn cyd-destun Adolygiad Simpson, a gomisiynwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.   <?xml:namespace prefix = o />

<?xml:namespace prefix = o /> 

Mae’r adroddiad ymchwil yn dangos yn glir bod modd i bawb sy’n rhan o’r system gynllunio wneud mwy i wella cynllunio ar gyfer adnewyddu economaidd. Trwy weithredu’r argymhellion, bydd y maes cynllunio’n gallu gwneud mwy i hyrwyddo twf economaidd a chreu swyddi, a hynny trwy wneud Cymru’n lle gwell i gynnal busnes.<?xml:namespace prefix = o />