Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf wedi cydnabod o'r dechrau'n deg swyddogaeth hollbwysig trafnidiaeth o safbwynt bodloni anghenion busnesau, pobl a chymunedau Cymru a hefyd yr angen am drefniadau effeithlon ac effeithiol ar gyfer cynllunio a chyflenwi trafnidiaeth er mwyn cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth hon.  

Mae pryderon wedi'u mynegi yn ystod fy nhrafodaethau â grwpiau busnes, grwpiau trafnidiaeth a chynrychiolwyr llywodraeth leol ynghylch y trefniadau presennol ar gyfer cynllunio a chyflenwi.  Roedd y pryderon hyn yn ymwneud â chapasiti - o fewn Llywodraeth Cymru ac mewn cyrff eraill - ar gyfer ymdopi â phrosiectau trawsnewid ar raddfa'r Metro ac ar gyfer rheoli cyfrifoldebau ychwanegol posibl a fyddai'n sylweddol mewn perthynas â'r rheilffyrdd.

Cafodd yr angen i newid y modd yr ydym yn cynllunio ac yn cyflenwi gwasanaethau trafnidiaeth ei nodi yn argymhellion yr Adolygiad Lefel Uchel o Briffyrdd a Gwasanaethau Trafnidiaeth a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol y llynedd. Tynnwyd sylw at y mater yn ogystal yn adroddiad Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar yr Economi a Thrafnidiaeth a gyhoeddwyd yn 2009.  Mae'r dystiolaeth gan Dr Elizabeth Haywood yn ei hadroddiad ar Adroddiad Trawsffiniol Rhanbarth Afon Dyfrdwy a gyhoeddwyd y llynedd hefyd yn pwysleisio'r angen am newid.

Rwyf wedi ystyried y dystiolaeth hon ac wedi dod i'r casgliad bod angen newid y modd yr ydym yn cynllunio ac yn cyflenwi gwasanaethau a gwelliannau mewn perthynas â thrafnidiaeth.   Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar sicrhau gwell gwerth am arian, rheoli'r her sydd ynghlwm wrth leihau cyllidebau ac elwa rhagor ar ein buddsoddiad yn y dyfodol mewn trafnidiaeth.

Rwyf felly'n cynnig newid y modd yr ydym yn cynllunio trafnidiaeth er mwyn sicrhau ein bod yn elwa i'r eithaf ar ein buddsoddiadau.  

Rwyf eisoes wedi cadarnhau fy mwriad i beidio ag adolygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru ac i gyhoeddi Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol erbyn diwedd mis Mawrth 2015. Rwy'n bwriadu ailddiffinio'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol er mwyn cynnwys blaenoriaethau rhanbarthol a hefyd sefydlu fframwaith trafnidiaeth sy'n cynnwys gwaith cynllunio trafnidiaeth ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. 
Mae pennu blaenoriaethau rhanbarthol o safbwynt trafnidiaeth yn bwysig o hyd a byddaf yn disgwyl i Fyrddau’r Dinas-Ranbarthau amlygu’r blaenoriaethau yn eu ardaloedd a hefyd roi ar waith y strwythur llywodraethu a fydd yn fy nghynghori wrth i’r Cynllun Trafnidiaeth newydd ddatblygu.

Byddaf yn dosbarthu’n fuan ganllawiau ar gyfer awdurdodau trafnidiaeth lleol ynghylch sut y gallant gyflawni eu dyletswydd statudol mewn perthynas â chynllunio trafnidiaeth. 

Bydd gennym gynllun trafnidiaeth unigol ar gyfer Cymru a byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau yn hytrach nag ar broses gynllunio hir a llafurus. 

O fis Ebrill eleni bydd Grant Diogelwch Ffyrdd, Cronfa Trafnidiaeth Leol a Grant Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Bws yn disodli'r Grant Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol a gaiff eu rheoli ar hyn o bryd gan y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol. Caiff y rhain eu neilltuo'n uniongyrchol i awdurdodau lleol, a rhai ohonynt drwy gystadleuaeth. Bydd modd i awdurdodau lleol gydweithio er mwyn cyflwyno ceisiadau ar y cyd. 

Rwyf hefyd yn bwriadu parhau i adolygu gwelliannau pellach posibl i waith cynllunio a chyflenwi trafnidiaeth a byddaf yn gofyn i Fyrddau’r Dinas-Ranbarthau a Thasglu’r Gweinidog ar Trafnidiaeth Gogledd Cymru gynorthwyo â'r gwaith hwn.