Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig
Yn y cyfarfod llawn ar 1 Chwefror, dywedais fy mod wedi gofyn i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru (CCC) nodi potensial yr ystad goedwig genedlaethol o ran ynni adnewyddadwy, yn enwedig cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach. Rwy'n falch o roi'r diweddaraf am y gwaith hwn heddiw.
Mae CCC wedi ymchwilio i botensial bras yr ystad o ran datblygu cynlluniau ynni dŵr sy'n defnyddio llif afon. Mae'r gwaith hwn wedi cadarnhau bod posibilrwydd datblygu nifer o gynlluniau. Bu'r gwaith yn canolbwyntio ar y cynlluniau mwyaf o faint sy'n debygol o fod yn ymarferol. Byddai rhai cynlluniau yn gofyn am gydweithio â thirfeddianwyr cyfagos. Ond amcangyfrifir y byddai capasiti o 1.5MW rhwng y pum cynllun yr ymddengys sydd â'r potensial mwyaf.
Bydd CCC yn mynd ati'n rhagweithiol i dargedu datblygiadau cymunedol addas ar dir sydd o dan eu rheolaeth, gan gydweithio'n agos â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i'r perwyl hwn. Bydd y gwaith hwn hefyd yn edrych ar y posibilrwydd i ddatblygwyr ynni dŵr hybu cyfleoedd i ddatblygu, a manteisio arnynt.
Penderfynir ar y manylion ar y cyd ag adrannau eraill Llywodraeth y Cynulliad, asiantaethau a rhanddeiliaid. Diben hynny fydd sicrhau y cyflawnir ein hamcanion ac y gwneir y mwyaf o'r cyfleoedd i gynnwys y gymuned a hybu mentergarwch cymdeithasol.
Mae galluogi cymunedau i ddatblygu cynlluniau trydan o ddŵr ar yr ystad goed genedlaethol yn cyd-fynd â'n Datganiad Polisi Ynni 2010, Chwyldro Carbon Isel. Wrth fynd rhagddo â'r gwaith hwn, bydd fy swyddogion yn cydweithio'n agos â'r staff hynny yn Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai sy'n gyfrifol am Ynni'r Fro, rhaglen Llywodraeth y Cynulliad i ariannu a chefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol.
Yn ogystal â hyn, mae un cynllun masnachol yn gweithredu ar dir a reolir gan CCC ger y Bala ar hyn o bryd. Hefyd, mae nifer o gynlluniau masnachol a chynlluniau ar gyfer eiddo unigol dan drafodaeth.