Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mae Cymru wedi profi tywydd garw iawn dros y ddau aeaf diwethaf, gyda chyfuniad o dymereddau isel iawn ac eira trwm yn amharu ar wasanaethau ledled y wlad. Am fod tywydd y gaeaf yn gymharol anrhagweladwy, mae cynlluniau Cymru wedi’u seilio ar y sefyllfa waethaf bosibl i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn barod am y posibilrwydd o dywydd garw eleni eto. Gan adeiladu ar waith blaenorol a phrofiadau’r blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru a chyrff y sector cyhoeddus a’r sector preifat wedi bod yn paratoi i sicrhau bod unrhyw dywydd garw yn amharu cyn lleied â phosibl ar wasanaethau.
Dros y ddau aeaf diwethaf, mae’r stociau halen a gedwir gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol i drin y ffyrdd wedi cael cryn sylw. Gallaf gadarnhau y bydd gan Gymru o ddechrau’r gaeaf hwn fwy o halen nag erioed o’r blaen. Gan gydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym wedi casglu data i gael gwybod faint o halen a ddefnyddiwyd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru dros y 6 gaeaf diwethaf. Ar ddechrau’r tymor hwn, rydym wedi penderfynu y dylai pob awdurdod lleol gael un waith a hanner yr halen a ddefnyddiwyd ganddo ar gyfartaledd dros y cyfnod hwnnw. I sicrhau bod y stociau halen o fewn cyrraedd ledled Cymru, bydd stociau wrth gefn yn cael eu datblygu a’u lleoli yn y Gogledd, y Canolbarth a’r De, a bydd stociau ychwanegol yn cael eu cadw yn ysguboriau’r M4. Cafodd Contract Fframwaith Cymru Gyfan newydd ei ddyfarnu yn 2011 ar gyfer Caffael Halen, ac mae ar gael i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Bellach gellir cael cyflenwadau gan ddau gwmni sy’n cynhyrchu halen yn y DU a chan un sy’n ei fewnforio. At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â nifer o gyflenwyr a allai gyflenwi halen wedi’i fewnforio os byddai angen dwys.
Mae gwefan Traffig Cymru wedi’i hailddylunio. Mae bellach yn cynnwys dolenni gwell at wefannau awdurdodau lleol i gael gwybodaeth leol. Mae hefyd yn cynnwys dolenni gwell at ddarparwyr gwybodaeth am y tywydd, a thudalen yn rhoi arweiniad ar yrru yn y gaeaf. Mae lle arbennig yn cael ei ddatblygu ar y wefan i gludwyr nwyddau gael gwybodaeth. Bwriedir lansio’r wefan newydd yr wythnos hon. Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi hefyd i ffyrdd o sicrhau bod y cyhoedd yn cael mwy o wybodaeth am gyflwr y ffyrdd gan orsafoedd monitro. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i ffyrdd eraill o gyfathrebu megis “twitter”, cymwysiadau ar gyfer “ffonau smart” a gwasanaeth negesu awtomatig mewn cyfnodau o alw uchel. Posibilrwydd arall yw cael camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol yn arbennig ar gyfer y gaeaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfarfodydd cynllunio tymhorol gyda’r GIG bob chwarter i drafod y pwysau posibl ar ofal brys, ac mae wedi gofyn i’r GIG am sicrwydd y bydd yn gallu darparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd dros gyfnod anodd y gaeaf. Mae’r GIG wedi datblygu Cynllun Gweithredu sy’n ceisio sicrhau bod anghenion gofal iechyd hanfodol yn cael eu diwallu’n effeithiol pan fydd gwasanaethau’n cael eu llethu neu eu cyfyngu, neu pan fydd gwasanaethau’n peidio â gweithredu. Mae nifer o ymgyrchoedd wedi’u sefydlu i helpu i leihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd.
Ail-lansiwyd yr ymgyrch genedlaethol Dewis Doeth ar 19 Hydref, i helpu cleifion i ddewis y lle gorau i gael triniaeth pan fyddant yn sâl. Amcan yr Ymgyrch yw addysgu’r cyhoedd am yr ystod o wasanaethau gofal iechyd sydd ar gael a chyfeirio cleifion at y lleoliad gofal iechyd mwyaf priodol i’w hanghenion pan fyddant yn sâl neu’n anafus.
Mae’r ymgyrch Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn yn rhoi gwybodaeth a chymorth i bobl 60 oed a throsodd i’w galluogi i gadw’n iach dros fisoedd y gaeaf. Tair prif thema’r ymgyrch yw Cadw’n Iach, Cadw’n Gynnes a Chadw’n Ddiogel. Cydgysylltir yr ymgyrch gan Age Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Cefnogir gweithgareddau lleol drwy gynhyrchu adnoddau a thrwy ddyrannu grantiau bach.
Cafwyd tymor ffliw arbennig o wael y llynedd. Oherwydd hynny, mae Llywodraeth Cymru eleni wedi lansio ymgyrch imiwneiddio yn erbyn y ffliw i geisio lleihau salwch a’r pwysau ar y GIG. Eleni mae’r targed ar gyfer nifer y bobl hŷn a’r bobl o grwpiau mewn perygl sy’n cael brechlyn ffliw wedi codi o 70% i 75%. 50% yw’r targed ar gyfer brechu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion. Mae meddygon teulu wedi cael anogaeth i archebu digon o frechlyn i gyflawni’r targedau hyn ac mae Llywodraeth Cymru wedi prynu cyflenwad wrth gefn o’r brechlyn ffliw. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â swyddogion yn ystod y tymor ffliw a bydd hefyd yn cyfarfod â phenaethiaid cyrff proffesiynol perthnasol i sicrhau bod yr ymgyrch frechu mor effeithiol â phosibl.
Bydd cau ysgolion mewn tywydd garw yn effeithio’n fawr ar y sector cyhoeddus a’r sector preifat am fod rhieni’n gorfod gadael eu gweithleoedd i ofalu am eu plant. Y pennaeth a’r awdurdod lleol fydd yn penderfynu a ddylid cau ysgol. Y llynedd, yn ystod yr hydref/gaeaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arweiniad yn rhoi cyngor i ysgolion ynglŷn ag aros ar agor neu gau mewn tywydd gwael eithafol. Fe’i cyhoeddwyd ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’n cynnwys asesiad risg cyffredinol, y gellir ei addasu ar gyfer amgylchiadau pob ysgol, ac mae’n rhoi enghreifftiau o’r problemau a allai wynebu ysgolion, ac awgrymiadau ynglŷn â’u datrys. Mae’r cyngor yn dal yn gyfredol a gellir cael gafael arno ar-lein drwy wefan Llywodraeth Cymru.
At hynny, cyflwynwyd codau newydd ar gyfer cofnodi absenoldebau ym Medi 2010. Bellach gall penaethiaid gofnodi 'dim rhaid bod yn bresennol' yn erbyn enwau disgyblion mewn nifer fach o sefyllfaoedd penodol gan gynnwys tywydd garw yn y gaeaf. Felly, os bydd yn rhaid i ysgol gau hanner ffordd drwy’r dydd, ni fydd hynny’n effeithio ar ei hystadegau presenoldeb. Mae’n bosibl bod penaethiaid yn y gorffennol wedi teimlo rheidrwydd i gau eu hysgolion cyn dechrau’r diwrnod ysgol, am fod absenoldebau o’r fath ar y pryd yn cael eu cofnodi fel rhai 'awdurdodedig' ac yn effeithio ar eu hystadegau presenoldeb.
Mae Taliadau Tanwydd Gaeaf yn fater a gadwyd yn ôl. Rydym yn ymwybodol iawn fod Llywodraeth y DU wedi lleihau gwerth y taliadau tanwydd gaeaf eleni, a byddant yn amrywio o £100 i £300 yn dibynnu ar oedran a nifer y preswylwyr cymwys yn y cyfeiriad. Maent wedi cadw’r Taliadau Tywydd Oer is eu gwerth sy’n rhoi £25 i gartrefi cymwys tuag at y gost ychwanegol o wresogi’r cartref pan gofnodir neu rhagwelir tymheredd lleol o 0 gradd Celsius neu is am saith diwrnod yn olynol. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynllun tlodi tanwydd newydd o’r enw ‘Nyth’. Diben y cynllun yw helpu pobl i gadw’n gynnes y gaeaf hwn, ac i leihau eu biliau tanwydd. Mae’n rhoi cyngor ar dariffau tanwydd ac ar ddefnyddio llai o ynni. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar reoli arian ac ar y budd-daliadau y gellir eu hawlio. Gall y cynllun gyfeirio pobl hefyd i gael gwelliannau ynni cartref am ddim neu gyda chymhorthdal. Mae Nwy Prydain, sy’n rheoli ‘Nyth’, yn paratoi i ddarparu gwresogyddion dros dro ar gyfer deiliaid tai sy’n aros am osodiadau gwresogi ac nad oes ganddynt ffyrdd eraill o wresogi eu cartref. At hynny, mae Nwy Prydain yn darparu gwasanaeth llwybr carlam ar gyfer deiliaid tai y nodwyd eu bod yn agored iawn i niwed; byddant yn ceisio cwblhau’r gosodiad gwresogi o fewn 5 diwrnod gwaith i nodi agoredrwydd i niwed.
Roedd cael gafael ar olew tanwydd domestig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn bryder y gaeaf diwethaf. Eleni, mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU wedi bod yn cydweithio’n agos â’r diwydiant ac â chyrff defnyddwyr, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, Llais Defnyddwyr Cymru a chyrff defnyddwyr eraill yn Lloegr a’r Alban, mewn ymgyrch genedlaethol i annog defnyddwyr i brynu olew gwresogi yn gynnar i sicrhau eu bod yn barod am y gaeaf.
Mae’r cwmnïau dŵr sy’n gweithredu yng Nghymru – Dŵr Cymru, Dŵr Dyffryn Dyfrdwy a Severn Trent Water – wedi adolygu a diweddaru eu cynlluniau a’u canllawiau yn dilyn tywydd garw’r gaeaf diwethaf. Mae hyn yn cynnwys cael digon o halen a chemegau i drin dŵr yfed ar gyfer y gaeaf.
Er gwaethaf ymdrechion gorau’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau’r gaeaf, bydd yr amodau teithio mewn tywydd garw yn dal yn anodd mewn ambell ardal. Ni ellir addo ffyrdd heb iâ a bydd angen cymryd gofal. Lansiwyd tudalennau’r gaeaf ar wefan Llywodraeth Cymru ar 24 Hydref i roi gwybodaeth am ragolygon y tywydd, trafnidiaeth, cau ysgolion, gwasanaethau lleol ac iechyd. Byddant yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen drwy gydol y gaeaf.