Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dyma'r chweched cylch cynllunio blynyddol ers cyflwyno Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014, a'r cyntaf ers cyhoeddi Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Gosododd Cymru Iachach her i symleiddio a chysoni gweithdrefnau cynllunio iechyd, gan annog mwy o gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn croesawu hyn, ac mewn ymateb fe gyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig o Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ym mis Hydref 2018. 

Roedd y Fframwaith yn gosod y naws, ac yn rhoi cyfarwyddyd clir i sefydliadau'r GIG ar gyfer y tair blynedd nesaf. Rhoddwyd blaenoriaeth i wella iechyd poblogaethau, atal salwch, lleihau anghydraddoldebau iechyd, ar sail yr egwyddor o ofal iechyd darbodus, gofal sylfaenol a chymunedol, gwella mynediad at wasanaethau pan fo eu hangen a gwell gofal iechyd meddwl.

Mae gofyn i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG osod yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig sut y bydd adnoddau yn cael eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd i wneud y canlynol:

  • Rhoi sylw i anghenion iechyd y boblogaeth
  • Gwella canlyniadau iechyd ac ansawdd gofal
  • Sicrhau'r gwerth mwyaf o'r adnoddau.

Mae sefydliadau wedi datblygu cynlluniau gan ganolbwyntio ar Cymru Iachach, ac rydym yn gweld mwy o sylw parhaus yn cael ei roi i iechyd a llesiant, ac atal salwch drwy gydweithio cadarn rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ar ben hynny, mae sefydliadau wedi adeiladu ar y cynnydd a wnaed drwy sicrhau bod eu ffordd o ddarparu gwasanaethau yn cyd-fynd â deddfwriaeth allweddol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn ogystal â'r Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb. Mae hyn yn galonogol ac yn gam i'r cyfeiriad cywir tuag at gyflawni ein gweledigaeth hirdymor.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i dynnu sylw at y ffaith bod fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â sefydliadau'r GIG i drafod gwaith cynllunio yn llawer cynharach na'r blynyddoedd blaenorol. Mae Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n cefnogi'r GIG wedi bod yn trafod yn helaeth ers mis Hydref. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau mynediad mwy hwylus at gyngor ac, yn bwysig iawn, roedd o gymorth i nodi'r prif heriau a'r atebion yn gynt. Roedd y cysylltiad hwn hefyd yn gyfle amserol i weithio gyda'r Awdurdod Iechyd Statudol newydd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru wrth ddatblygu ei gynllun blynyddol cyntaf.

Mae hyn wedi arwain at weld sefydliadau yn cytuno ar rai blaenoriaethau cyffredin a phenderfyniadau cyllido allweddol yn gynharach yn y flwyddyn drwy gydweithio, ac o ganlyniad fe gyflwynwyd Cynlluniau Tymor Canolig Integredig cytbwys, yr oedd modd eu cymeradwyo, yn gynt nag erioed.

Fe gafodd y dull gweithredu hwn ei groesawu gan GIG Cymru, ac rwy'n falch iawn o gadarnhau fy mod wedi penderfynu cymeradwyo saith sefydliad sydd wedi cyflwyno cynlluniau tair blynedd cytbwys ac ymarferol, sy'n welliant ers llynedd. Cefais fy nghalonogi gan y ffordd y mae GIG Cymru wedi ymateb i'r heriau yn Cymru Iachach ac, er bod angen mynd ymhellach, maent wedi parhau i ddangos aeddfedrwydd cynyddol yn eu trefniadau cynllunio.

Felly, yn dilyn proses asesu gadarn, rydw i wedi cymeradwyo cynlluniau integredig y saith sefydliad canlynol –

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Hoffwn roi cydnabyddiaeth arbennig i gymeradwyaeth Cynllun Tymor Canolig Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Roeddent wedi'u gosod yn y categori Ymyrraeth wedi'i Thargedu ym mis Gorffennaf 2016, ac maent wedi gweithio mewn ffordd aeddfed ac adeiladol gyda'm swyddogion i roi sylw i amrywiol faterion cyflawni a chyllidol, gan gael eu his-gyfeirio ym mis Ionawr eleni. Rwyf wedi ymrwymo i helpu byrddau iechyd sydd wedi'u huwchgyfeirio, ac mae hyn yn dangos bod modd dod allan o hynny pan fo sefydliadau yn dangos ymrwymiad at gynllunio a chyflawni effeithiol.

Rwy'n disgwyl i'r sefydliadau a gafodd eu cymeradwyo barhau i gyflawni ar fyrder, gan weithio ar draws ffiniau byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd a gyda phartneriaid sector cyhoeddus a thrydydd sector i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i gleifion yng Nghymru. Bydd perfformiad y sefydliadau hyn hefyd yn parhau i gael ei adolygu'n rheolaidd drwy gydol y cylch tair blynedd.

Nid yw cymeradwyo cynllun yn rhagfarnu canlyniad unrhyw drefn briodol sy'n ofynnol i roi'r cynllun ar waith. Rhaid i unrhyw waith ad-drefnu gwasanaethau angenrheidiol gael ei gyflawni yn unol â deddfwriaeth a'n canllawiau presennol, a bydd unrhyw gais am fuddsoddiad cyfalaf yn dilyn prosesau cymeradwyo achos busnes arferol.

Methodd tri sefydliad â darparu cynlluniau tair blynedd wedi'u cymeradwyo gan y Bwrdd, sef Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Betsi Cadwaladr. Mae'r sefydliadau hyn wedi'u huwchgyfeirio o hyd, ac yn y broses o ddatblygu cynlluniau blynyddol ar gyfer 2019-20.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn datblygu cynllun gweithredu blynyddol ar gyfer blwyddyn unigol i roi sylw i heriau o ran perfformiad a chyllid. Ar ben hynny, bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol i mi gyhoeddi ym mis Mehefin llynedd y byddai'r cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trosglwyddo o Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol cwm Taf o 1 Ebrill 2019 ymlaen. Mae'r broses o drosglwyddo gwasanaethau yn un gymhleth ac mae rhai o'r manylion ymarferol yn parhau i gael eu trafod. Bydd y cynllun blynyddol yn adlewyrchu effeithiau'r newid hwn. Mae'r bwrdd iechyd yn disgwyl bod mewn sefyllfa i ddatblygu Cynllun Tymor Canolig Integredig llawn yn ystod 2019/20 ac rwy'n edrych ymlaen at gael ei weld.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Bwrdd Prifysgol Hywel Dda wedi cytuno ar weledigaeth strategol drwy ei strategaeth Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol ac mae ganddo uchelgais i ddatblygu Cynllun Tymor Canolig Integredig cytbwys a chymeradwy yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r heriau strategol wrth ochr yr heriau parhaus o ran perfformiad, y gweithlu a chyllid yn golygu nad oes modd cyflwyno cynllun cytbwys ar hyn o bryd. Fel sy'n wir am Abertawe Bro Morgannwg a Betsi Cadwaladr, rwy'n disgwyl i ymateb y bwrdd iechyd i'r heriau hyn gael ei osod yn y cynllun gweithredu manwl ar gyfer blwyddyn unigol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 

Fe fydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i wynebu nifer o heriau o ran gwasanaethau, cyllid a pherfformiad, sydd angen cymorth parhaus. Bydd ymateb y bwrdd iechyd i'r heriau hyn yn cael ei osod yn y cynllun gweithredu blynyddol ar gyfer 2019-20. 

Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r sefydliadau uchod i ddarparu'r cymorth a'r her angenrheidiol wrth iddynt weithio tuag at atebion cynaliadwy.

Hefyd mae sefydliadau'r GIG sydd heb ddyletswydd statudol i ddarparu Cynllun Tymor Canolig Integredig ac, o ganlyniad, nid oes angen i mi gymeradwyo eu cynlluniau. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau bod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi datblygu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig cadarn a chytbwys i gefnogi dull cyson o gynllunio a rhoi eglurder ynghylch cysondeb â chynlluniau byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd.

Nid oes gan y sefydliad statudol newydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Awdurdod Iechyd Arbennig, ddyletswydd statudol i ddarparu Cynllun Tymor Canolig Integredig ar gyfer 2019-22. Fodd bynnag, bydd yn cyflwyno cynllun blynyddol ar gyfer 2019/20 yn fuan.

Rydym hefyd wedi cryfhau ein gwaith partneriaeth gyda Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn rhannu’r hyn a ddysgwyd wrth symud ymlaen. Byddwn yn parhau i edrych i weld sut y gallwn fynd ymhellach ac yn gynt i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae system gynllunio integredig GIG Cymru yn eu darparu. Mae hyn yn cynnwys dwyn ymlaen y dyddiad ar gyfer cyflwyno cynlluniau tair blynedd integredig 2020-23 i fis Rhagfyr 2019. Bydd hyn yn cynnig mwy fyth o gysondeb o ran cyllidebu, cynllunio gwasanaethau a chyflawni ar gyfer cleifion Cymru.