Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Bydd Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cyflwyno dull mwy strategol o wella trafnidiaeth ym mhob rhanbarth o Gymru, sy'n cyd-fynd yn well â chynlluniau ar gyfer datblygu. Byddant hefyd yn caniatáu i arweinwyr lleol gael mwy o lais mewn penderfyniadau am gyllid trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r pedwar Cydbwyllgor Corfforedig sy'n cynrychioli Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Cymru yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu eu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae'r pedwar bellach yn ymgynghori â'r cyhoedd ar eu polisïau a'u prosiectau arfaethedig, neu ar fin gwneud hynny. Ein nod yw bod cynlluniau wedi'u blaenoriaethu yn eu lle erbyn yr haf. Bydd y rhain yn cynnwys cynllun cyflawni sy'n nodi'r hyn y bwriedir ei gyflawni ym mhob rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i foderneiddio grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. O fis Ebrill 2026 ymlaen, byddwn yn cyfuno ein cyfres bresennol o grantiau trafnidiaeth awdurdodau lleol i ffynhonnell gyllid i ddarparu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol (ni fydd hyn yn cynnwys grantiau ar gyfer gwasanaethau bysiau, sy'n cael eu trin ar wahân fel rhan o'n gwaith ar fasnachfreinio bysiau). Bydd penderfyniadau ynghylch sut mae'r cyllid yn cael ei wario yn y dyfodol yn cael eu gwneud gan Gydbwyllgorau Corfforedig, yn seiliedig ar y cynllun cyflawni y cytunwyd arno ar gyfer pob rhanbarth. Bydd hyn yn sicrhau bod y buddsoddiad a wnawn mewn trafnidiaeth yn cael ei addasu i anghenion pob rhanbarth, wedi'i lywio gan y rhai sy'n adnabod y rhanbarth orau. Bydd hefyd yn ein galluogi i leihau'r beichiau gweinyddol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu i gael mynediad at gyllid.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Aelodau dynnu sylw pobl, busnesau a sefydliadau yn eu hardaloedd ac annog pawb i gymryd yr amser i ystyried y cynigion yn y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft, a mynegi eu barn arnynt.
Bydd dolenni i'r ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael yma: Cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol: gwella teithio yn eich ardal | LLYW.CYMRU