Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Mae’n ofyniad statudol o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg (CSGA). Pan ddaeth drafft o gynlluniau 2017-20 i law y cyn-Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, penderfynodd bod angen gwneud rhagor o waith am nad oeddent yn dangos uchelgais ddigonol i gyflawni Strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr.
Mae addysg wrth wraidd y strategaeth ac felly mae sicrhau bod fframwaith cynllunio addas a chadarn yn flaenoriaeth.
Penodwyd Aled Roberts i gynnal adolygiad brys o CSGA pob sir, yn ogystal ag adolygu’r broses o lunio’r CSGA a chynnig argymhellion ar sut byddai modd gwella’r broses honno.
Cyhoeddwyd adolygiad brys Aled Roberts ar 4 Awst 2017 a derbyniwyd yr 18 o argymhellion.
Ym mis Awst 2017, ysgrifennodd y cyn-Weinidog at bob Awdurdodau Lleol i gyflwyno sylwadau Aled Roberts ar eu cynlluniau a gofyn i bob un ohonynt ail gyflwyno drafftiau diwygiedig yn seiliedig ar y sylwadau hynny.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r Cynlluniau Strategol diwygiedig ac wedi cymeradwyo cynlluniau y Siroedd isod:
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerffili
- Caerdydd
- Ceredigion
- Conwy
- Dinbych
- Fflint
- Gwynedd
- Penfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Gâr
- Wrecsam
- Ynys Môn
Hoffwn ddiolch i’r holl awdurdodau lleol am eu cydweithrediad. Rwyf yn hyderus hefyd bod yr ymrwymiadau a ddangoswyd gan yr awdurdodau lleol sy’n weddill yn golygu y gallwn weithio gyda nhw i fwrw ati i gytuno ar eu cynlluniau cyn gynted ag sy’n bosibl.
Byddaf yn awr yn gofyn i bob awdurdod lleol, gan gynnwys y rhai sy’n aros am gymeradwyaeth, lunio cynllun gweithredu yn seiliedig ar y targedau sydd wedi’u nodi yn eu cynlluniau. Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda phob ALl ac yn monitro’r cynnydd a wneir ac i gynnig cymorth lle bo’r angen.
Mae’r CSGAU yn dod â’r elfennau sy’n cefnogi addysg Gymraeg ynghyd, yn ogystal â sicrhau bod yr holl bartneriaid perthnasol yn deall y rhan sydd ganddynt i’w chwarae yn y broses hon.
Mae’r cynlluniau diwygiedig yn rhoi platfform gadarn i symud ymlaen i sicrhau twf mewn addysg Gymraeg er mwyn bodloni targedau strategol y Llywodraeth. Rwyf yn hyderus y bydd y sylfeini a osodwyd a’r partneriaethau a ddatblygwyd yn ystod y broses hon yn parhau i ddatblygu a chryfhau wrth i ni symud ymlaen.