Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Busnes a’r Gyllideb

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Mae’r Datganiad hwn yn cyhoeddi manylion pellach am gynlluniau gwario cyfalaf £1.3bn Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2011-12, gan gynnwys:

  • y buddsoddiad o £105 miliwn o gyfalaf ychwanegol yn 2011-12 o’r Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog sy’n ychwanegol at ddyraniadau cyfalaf y Gyllideb Derfynol; a
  • y prosiectau mawr a ariennir gan Lywodraeth y Cynulliad sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Gweinidogion i gychwyn yn 2011-12 a’r rheini fydd yn cael eu gohirio neu eu hailbroffilio.

Ers 2007, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi buddsoddi bron i £6.8 biliwn yn y seilwaith cyfalaf yng Nghymru.  Mae hyn wedi’n helpu i allu cymryd camau breision ymlaen at sicrhau bod gan Gymru’r seilwaith cymdeithasol ac economaidd sydd ei angen arnom yn yr 21ain ganrif.

Gosodwyd ein Cyllideb cyfalaf ar gyfer y pedair blynedd nesaf gan Adolygiad Gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU).  Y ni sydd wedi cael y setliad cyfalaf gwaethaf o holl wledydd y DU, gyda thoriad o 42.6% mewn termau real yn DEL Cyfalaf Cymru dros y cyfnod hwnnw.  Mae hynny’n golygu mai £4.6 biliwn fydd ein Cyllideb cyfalaf dros y pedair blynedd nesaf.  Bydd yn neilltuol o anodd rheoli’r lleihad hwn yn 2011-12 gan y bydd ein DEL Cyfalaf yn wynebu toriad o fwy na 25% y flwyddyn honno.

Rydym wedi bod yn gweithio ers haf diwethaf i wneud y gorau o’r setliad anodd hwn ac rydym wedi gwneud nifer o benderfyniadau yn y flwyddyn ariannol hon fydd yn ein helpu i wynebu’r her o’n blaenau.  Trwy ddefnyddio stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn (EYF) yn effeithiol, rydym wedi gallu cynnal ein buddsoddiad cyfalaf eleni at y lefelau y gwnaethom gynllunio ar eu cyfer, er gwaetha toriadau Llywodraeth y DU.  Mae hyn gyfwerth â rhoi hwb o £49 miliwn i’n rhaglenni cyfalaf ac mae hynny wedi’n caniatáu i barhau i ganolbwyntio ar ymdrechion i adfywio’r economi, yn ogystal â’n blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol.

Rydym wedi rheoli’n effeithiol hefyd ein gwariant yn y flwyddyn gan fanteisio ar danwariannau trwy ddwyn prosiectau cyfalaf ymlaen iddynt allu darparu’r mwyaf posibl yn 2010-11.  Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu’r system Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn wedi bod yn sbardun arall, gan y bydd Cymru yn colli unrhyw arian na chaiff ei wario eleni.  Rydym wedi sicrhau na chaiff hyn ddigwydd a thrwy wneud y gorau o’r cyfalaf sydd ar gael eleni ar gyfer ei wario, mae gwasanaethau ac economi Cymru wedi elwa.

Gan edrych tua’r dyfodol, gwyddom mai un o’r sialensiau mwyaf a ddaeth yn sgil yr Adolygiad o Wariant yw’r gostyngiad anghymarus yn ein Cyllideb cyfalaf.  Mae Gweinidogion wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch blaenoriaethau wrth ddatblygu’u cynlluniau gwario cyfalaf.  Dyna pam y bu datblygu opsiynau ar gyfer cynllun seilwaith cenedlaethol, un o brif ymrwymiadau Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd, yn fater mor bwysig o ran sicrhau eglurder tymor hir i’n rhaglen gyfalaf.  Bydd Llywodraeth nesaf y Cynulliad yn parhau â’r gwaith hwn.   Yn y cyfamser, bydd angen gwarant arnom yn y tymor byr ac rydym yn awyddus hefyd i sicrhau eglurder o ran ein cynlluniau gwario cyfalaf ar gyfer 2011-12 er lles ein partneriaid mewn llywodraeth leol, y trydydd sector, y sector preifat a mannau eraill cyn gynted ag y medrwn.

Cafodd gwybodaeth am ein gwariant gyfalaf ar lefel rhaglenni ei chyhoeddi yn y Gyllideb Ddrafft a Therfynol.  Nodwyd pa raglenni oedd yn cael eu hamddiffyn a pha raglenni cyfalaf oedd yn cael eu cwtogi dros y tair blynedd nesaf, ond ni chyhoeddwyd manylion prosiectau unigol sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad.  Ers hynny, mae Gweinidogion wedi bod yn gweithio ar gynlluniau darparu, o ran dyrannu grantiau a phrosiectau unigol.  Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn nodi, yn Atodiad A, pa brif brosiectau sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad fydd yn cael mynd yn eu blaenau yn 2011-12.  Nodir hefyd, yn Atodiad B, pa brosiectau mawr y bydd yn rhaid eu gohirio neu eu hailbroffilio o ganlyniad i’r toriadau i’n DEL Cyfalaf yn yr Adolygiad o Wariant.

Mae’r cynlluniau gwario cyfalaf sydd i’w gweld yn Atodiadau A a B yn egluro’r trywydd y mae Adrannau wedi’i ddilyn wrth ddyrannu eu harian cyfalaf craidd.  Mae’n bwysig felly bod Adrannau a’n partneriaid, er gwaetha’r toriadau cyfalaf, yn cael parhau i gynllunio’u gweithgareddau â rhywfaint o sicrwydd.  Fodd bynnag, yr un pryd, mae’n bwysig bwrw golwg strategol ar ein cynlluniau gwario cyfalaf ar draws y Llywodraeth i sicrhau nad ydym yn colli’r prosiectau sy’n cwrdd ag amcanion strategol Llywodraeth y Cynulliad – yn enwedig y rheini sy’n dod â budd i fwy nag un portffolio.

Dyna pam y cyhoeddodd y Gweinidog Busnes a’r Gyllideb greu’r Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog yn y Gyllideb, gan ddyrannu iddi £50 miliwn bob blwyddyn dros y tair blynedd nesaf.  Mae’r Gronfa’n cefnogi’r sector cyhoeddus i symud at gyllidebau llai ac yn y tymor hwy, gallai hynny olygu ariannu mentrau i arbed refeniw.  Ar gyfer 2011-12, rhaid canolbwyntio gymaint ag y medrwn ar liniaru effeithiau’r gostyngiad mewn cyfalaf.  Rydym yn Llywodraeth gyfrifol ac rydym yn benderfynol o reoli setliad anodd cystal ag y medrwn.  Trwy ddilyn y trywydd hwn, rydym yn gallu ariannu prosiectau na fyddent fel arall yn gallu parhau, yn ogystal â phrosiectau fydd yn ein helpu i fyw o fewn cyllidebau llai.

Dangosodd y Gyllideb Derfynol y byddem, trwy gynllunio gofalus a rheoli’n harian yn effeithiol yn y flwyddyn gyfredol, yn gallu wynebu’r holl doriadau y mae Llywodraeth y DU wedi’u gorfodi arnom yn 2010-11.  Mae hynny’n golygu bod gennym £57 miliwn yn ychwanegol ar gyfer 2011-12, ar ben ein setliad o’r Adolygiad o Wariant.  Rydym wedi dewis defnyddio peth o’r arian hwn i gefnogi’r Gronfa Ganolog a Gedwir yn Ganolog a lliniaru eto ar effeithiau toriadau Llywodraeth y Cynulliad ar economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.  O ganlyniad i’r penderfyniad hwn, byddwn yn darparu £37.4 miliwn yn ychwanegol o arian trwy’r Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog.

Yn ogystal â’n cynlluniau gwario yn Atodiad A, rwy’n cyhoeddi heddiw’r prosiectau y bydd y Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog yn eu cynnal yn 2011-12.  Dyma’r prosiectau cyfalaf y byddwn yn eu hariannu:

  • £2.96 miliwn i wella’r seilwaith rheilffyrdd ar rwydwaith Cymoedd Caerdydd;
  • £5.19 miliwn ar gyfer y Gwelliant i’r A470 Maes yr Helmau i Gross Foxes – i wella 2.1km o’r ffordd ar y brif Gefnffordd o’r De i’r Gogledd,2km i’r de o Ddolgellau yng Ngwynedd;
  • £6 miliwn ar gyfer yr A470 yng Ngelligemlyn – i wella 2km o’r ffordd ar y brif Gefnddord o’r De i’r Gogledd, 2km i’r gogledd o Ddolgellau yng Ngwynedd;
  • £4.01 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Integredig ar gyfer Cymunedau yn Llanfair ym Muallt.  Bydd hyn yn cefnogi Cam 1 y cynllun i ddarparu adeilad ar gyfer gwasanaethau cymunedol a chartref gofal 12 gwely;
  • £18.43 miliwn ar gyfer Parc Iechyd Merthyr.  Bydd hyn yn cefnogi datblygiad Parc Iechyd aml asiantaeth ym Merthyr Tudful;
  • £3.75 miliwn ar gyfer HART – i ddatblygu Tîm Ymateb Lleoedd Peryglus i Gymru fydd yn ymarferol a fforddiadwy;
  • £22.23 miliwn ar gyfer Ailddatblygu Treforys – cael gwared ar hen adeiladau i gefnogi ffyrdd newydd o weithio, ac ad-drefnu clinigol yn Ysbyty Treforys;
  • £3 miliwn i ddarparu arian ychwanegol ar gyfer Grantiau Addasu a Chyfleusterau i’r Anabl;
  • £2 miliwn ar gyfer y Rhaglen Caffael Seilwaith Gwastraff – i gefnogi’r rhaglenni caffael Cyfleusterau Treulio Anaerobig;
  • £8 miliwn ar gyfer diwygio Clwstwr Dinefwr ar dair lefel – ad-drefnu’r ddarpariaeth ddysgu ar gyfer pobl 14-19 oed yn ardal Dinefwr Sir Gâr;
  • £7 miliwn ar gyfer gweddnewid Addysg ôl-16 oed ym Merthyr Tudful – ad-drefnu addysg a hyfforddiant ôl-16 ym Merthyr Tudful trwy ddatblygu coleg trydyddol;
  • £7.3 miliwn ar gyfer Ysgolion Porth y Cymoedd 11-18 oed Pen-y-bont ar Ogwr –– cefnogi atgyfnerthu’r gwasanaethau addysg gan gynnwys ysgol newydd;£1 miliwn ar gyfer Eco Cadw – i arbed o leiaf 50% mewn costau cynnal a defnyddio ac allyriadau C02 trwy fuddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy a rhad ar ynni;
  • £0.97 miliwn ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru i baratoi’r ffordd ar gyfer trosglwyddo archif teledu ITV Cymru i feddiant cyhoeddus Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth;
  • £4 million ar gyfer hen Neuadd y Dref, Merthyr Tudful – er mwyn adfer yr adeilad fel bod modd ei ddefnyddio fel canolfan gelf gyfoes newydd i wasanaethu Merthyr Tudful, Blaenau’r Cymoedd a De Cymru;
  • £7.95 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Taliadau Gwledig Ar-lein – i ddatblygu a chynnal system ar-lein i dalu cymorthdaliadau gwledig ac amaethyddol.

Rydym yn neilltuo hefyd £15 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Gronfa Gyfalaf Twf Newydd fel buddsoddiad cychwynnol i gronfa i gefnogi busnesau bach a chanolig tra’n disgwyl canlyniad ein prosiect profi’r farchnad.  Hefyd, £3 miliwn i gefnogi’n Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth i ehangu cwmpas y cynllun cyfredol.  Bydd hyn yn ddibynnol ar yr achos busnes..

Mae hyn yn golygu bod 8% yn fwy o gyfalaf wedi’i neilltuo i bortffolios Gweinidogion yn 2011-12 na’r lefel gafodd ei gosod yn y Gyllideb Derfynol.  Mae’r cyfalaf ychwanegol pwysig hwn o hyd at £105.4m yn 2011-12 (ynghyd ag £8.32 miliwn yn 2012-23 ac £8.07 miliwn yn 2013-14) yn rhoi cefnogaeth mawr ei hangen i ddiwydiant adeiladu Cymru ac economi Cymru.

Gan edrych tua’r dyfodol, bydd y Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog yn ariannu hefyd o bosibl fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £41.68 miliwn yn 2012-13 a £41.93 miliwn yn 2013-14.  Mae gwaith i ddatblygu cynlluniau gwario cyfalaf yn y dyfodol yn mynd rhagddo ond caiff y cyfalaf hwn ei fuddsoddi i gefnogi prosiectau cyfalaf sy’n strategol, trawsffiniol a chydweithredol.