Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Rwy'n croesawu cynlluniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Caerdydd i fynd i'r afael ag achosion o ryddhau gormod o nitrogen deuocsid yn eu hardaloedd. Mae hwn yn gam hollbwysig i fynd i'r afael â lefelau o lygredd aer yng Nghymru.
O ganlyniad i beidio â chydymffurfio â Chyfarwyddeb 2008/50/EC ar Ansawdd Aer Amgylchynol ac Aer Glanach ar gyfer Ewrop, llofnododd cyn Weinidog yr Amgylchedd Gyfarwyddeb gyfreithiol ym mis Chwefror 2018 yn gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Caerdydd gynnal astudiaethau dichonoldeb i nodi mesurau i fynd i'r afael ag achosion lle mae'r lefel yn uwch na'r terfyn cyfreithiol o nitrogen deuocsid yn eu hardaloedd cyn gynted â phosibl.
Cyflwynodd y ddau Awdurdod eu cynlluniau terfynol ar 28 Mehefin, yn unol â'r Gyfarwyddeb. Rwy'n cymeradwyo'r Awdurdodau am gadw at yr amserlenni heriol wrth gyflwyno eu cynlluniau terfynol. Mae panel adolygu arbenigol annibynnol wedi dod at ei gilydd i asesu'r cynlluniau terfynol, ac wedi rhoi cyngor i sicrhau bod y cynlluniau yn seiliedig ar dystiolaeth deg, ac yn debygol o'u cael i gydymffurfio â'r terfynau cyfreithiol cyn gynted â phosibl.
Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig pecyn o fesurau yn cynnwys gosod technoleg lleihau allyriadau ar fysiau, mesurau lliniaru ar daxis, a mesurau ar gyfer trafnidiaeth canol trefi a theithio llesol.
Derbyniodd y Gweinidogion gynllun Cyngor Caerdydd ar 31 Gorffennaf gyda nifer o amodau. Mae'n rhaid i'r Awdurdod fireinio'r achos ar gyfer eu hopsiwn a ffefrir, ac mae'n rhaid canolbwyntio ar sicrhau'r gofyniad cyfreithiol gan ddangos pam bod mesurau ategol ychwanegol yn hanfodol i sicrhau cydymffurfio â'r terfynau cyfreithiol ar hyd Stryd y Castell. Mae'n rhaid i'r Awdurdod gynnal gwaith modelu pellach hefyd i asesu y posibilrwydd o gynnal Parth Aer Glân er mwyn cadw at y terfynau. Mae Cyngor Caerdydd wedi cymryd 3 mis i wneud gwaith ychwanegol i wella eu cynllun terfynol a chyflwyno tystiolaeth gadarn mai y pecyn o fesurau a nodwyd ganddynt yw'r ffordd fwyaf tebygol o sicrhau eu bod yn cydymffurfio cyn gynted â phosibl.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi nodi mai tynnu 23 o anheddau i lawr yn Woodside Terrace, Hafod yr Ynys yw yr opsiwn mwyaf tebygol o leihau lefelau nitrogen deuocsid i lefel sy'n is na'r lefelau cyfreithiol cyn gynted â phosibl.
Nid yw Gweinidogion wedi gallu derbyn cynllun terfynol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar ei ffurf bresennol. Nid oedd modd inni dderbyn bod cynllun yr Awdurdod wedi bodloni gofynion y Gyfarwyddeb a gyhoeddwyd yn 2018, gan nad oes digon o hyder y gallai'r opsiwn a ffefrir gyflawni'r gofyniad cyfreithiol. Fodd bynnag, mae'r asesiad a gwblhawyd hyd yma ar dynnu'r anheddau i lawr yn dangos mai dyma'r opsiwn sy'n fwyaf tebygol o sicrhau'r gofyniad cyfreithiol a sicrhau bod y cyhoedd yn dod i lai o gysylltiad â'r nwy cyn gynted â phosibl. Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r Awdurdod fynd ymlaen gyda'r mesur hwn tra'n cynnal asesiadau pellach, i sicrhau y bydd gan bobl hyder bod modd cadw at y terfynau a ganiateir.
Llofnodwyd Cyfarwyddebau cyfreithiol newydd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Caerdydd o'r enw Cyfarwyddyd Ansawdd Aer Deddf yr Amgylchedd 1995 (Astudiaeth Ddichonoldeb i Gydymffurfio â Lefelau Nitrogen Deuocsid) 2019'. Mae'r Cyfarwyddebau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau gynnal gweithgareddau penodol eraill i wella eu cynlluniau a gwneud achos cryfach dros yr opsiynau a ffefrir ganddynt.
O ystyried yr angen ar fyrder i fynd i'r afael â gormod o nitrogen deuocsid ar Hafod yr Ynys a Stryd y Castell, bydd y gwaith yn dechrau bellach yn y ddau Awdurdod. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cronfa Aer Glân gwerth £20 miliwn sy'n caniatáu i Awdurdodau Lleol wneud cais am arian i gynnal proses o weithredu'r mesurau i wella ansawdd yr aer. Byddwn yn talu costau y mesurau y cytunwyd arnynt, gan gynnwys costau yr asesiad pellach fydd ei angen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella ansawdd yr aer yng Nghymru, ond mae'n amlwg ein bod yn wynebu heriau sylweddol wrth wneud hynny. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithredu i leihau lefelau nitrogen deuocsid i lefel is na'r terfynau cyfreithiol cyn gynted â phosibl, i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd naturiol.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.