Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dangosodd cynllun pontio COVID-19 hirdymor Cymru Gyda'n Gilydd tuag at Ddyfodol Mwy Diogel, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, rôl hanfodol ein rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) yn ystod y pandemig o ran lleihau trosglwyddiad y coronafeirws.
Nid yw'r pandemig wedi diflannu – rydym yn parhau i brofi tonnau o haint ac mae amrywiolion newydd o'r feirws yn dod i'r amlwg. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa sefydlog o ran Covid – nid yw'r feirws yn rhoi'r un pwysau ar ein system iechyd a gofal ag oedd ar ddechrau'r pandemig ac mae brechlynnau ac ymyriadau fferyllol eraill, gan gynnwys cyffuriau gwrthfeiriol, wedi bod yn effeithiol wrth atal salwch difrifol.
Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau o hyd rhag Covid-19 ac mae pigiadau atgyfnerthu wedi gwella'r diogelwch a gynigir gan frechlynnau yn sylweddol. Mae'n bwysig bod pawb sy'n gymwys yn parhau i dderbyn eu cynnig o frechlyn a thriniaethau. Caiff rhaglen brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn ei lansio ar 1 Ebrill.
Wrth inni barhau i symud tuag at ddyfodol lle'r ydym yn byw ochr yn ochr â'r coronafeirws, mae'n bwysig bod ein rhaglen TTP yn esblygu hefyd er mwyn darparu model mwy ymatebol a chynaliadwy o ddiogelu iechyd.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu timau diogelu iechyd ystwyth, sy'n gallu ymateb i lefelau amrywiol o weithgarwch drwy'r flwyddyn yn ôl y galw cenedlaethol a rhanbarthol. Mae hyn yn golygu ymateb nid yn unig i Covid-19 ond hefyd fabwysiadu dull "pob perygl" sy'n cynnwys cynllunio ar gyfer pandemigau'r dyfodol.
Fel rhan o'r pontio a'r dull ystwyth hwn, yn seiliedig ar gyngor clinigol, rwyf wedi cytuno y dylid lleihau profion ar gyfer Covid-19 a heintiau anadlol eraill ar gyfer y gwanwyn a'r haf o 1 Ebrill. Mae'r amrywiadau cyffredin o'r coronafeirws a'r cyfraddau uchel o imiwnedd yn y boblogaeth wedi golygu bod Covid-19 yn haint ysgafnach yn y mwyafrif o unigolion ar hyn o bryd. Mae feirysau anadlol eraill sy'n cylchredeg, megis y ffliw ac RSV, wedi gostwng i lefelau is ers yr uchafbwynt ym mis Rhagfyr.
Caiff profion rheolaidd eu hatal ar gyfer pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol symptomatig, preswylwyr cartrefi gofal, carcharorion a staff a phreswylwyr mewn ysgolion arbennig dros y gwanwyn a'r haf.
Bydd canllawiau wedi'u ddiweddaru'n cynghori y dylai pobl gael eu harwain gan eu symptomau wrth reoli feirysau anadlol. Er mwyn diogelu ein dinasyddion mwyaf agored i niwed rhag salwch difrifol, bydd profion yn parhau i gefnogi penderfyniadau ynghylch triniaeth wrthfeirol ar gyfer Covid-19 yn y gymuned a lleoliadau megis cartrefi gofal, i gefnogi rheoli brigiadau o achosion mewn lleoliadau caeedig risg uchel, lle nodir yn glinigol mewn lleoliadau gofal eilaidd ac at ddibenion gwyliadwriaeth.
Bydd yn dal yn hanfodol i'r GIG a gofal cymdeithasol gadw at y canllawiau presennol ar fesurau atal a rheoli heintiau ar gyfer heintiau anadlol acíwt (Saesneg yn Unig) ac inni i gyd ddilyn rheolau sylfaenol hylendid da i'n diogelu ni ein hunain ac eraill.
Yn ogystal â'r newidiadau i'n rhaglen TTP, cafwyd trafodaethau rhwng pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU ynghylch lefel rhybudd y DU ar gyfer Covid-19. Mae'r system lefel rhybudd hon wedi bod ar waith ers mis Mai 2020. Ei swyddogaeth yw cyfathrebu'n glir i'r cyhoedd ac ar draws llywodraethau, lefel bresennol y risg uniongyrchol o Covid-19. Ers mis Medi, rydym wedi bod ar lefel 2. Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cytuno ei bod yn briodol atal y system lefel rhybudd. Caiff ei hatal ar 30 Mawrth
Er ei bod yn bwysig parhau â'r broses bontio tuag at fyw'n ddiogel gyda'r Coronafeirws, nid yw'r bygythiad wedi diflannu ac rydym yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i oedi Arolwg Heintiadau Covid a gynhelir gan yr ONS tra penderfynir ar ei ddyfodol tymor hir.
Mae'n hanfodol, felly, inni barhau â'n cynlluniau gwyliadwriaeth yn y gymuned a lleoliadau risg uchel i fonitro cyfraddau achosion yn agos a dadansoddi data am amrywiolion presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg er mwyn inni addasu ein hymateb yn gyflym os bydd angen.