Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 23 Chwefror 2015 am y cynnydd yn erbyn yr argymhellion yn Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru gan Siobhan McClelland, amlinellais y byddai dyfodol gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys yng Nghymru yn cael ei ystyried fel rhan o raglen foderneiddio ehangach. Byddai hyn yn edrych ar y graddau y byddai modd dadgyfuno'r gwasanaethau hyn o'r gwasanaeth ambiwlans brys.

Rhaid i unrhyw gynlluniau i ddadgyfuno gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys arwain at ddefnydd gwell o adnoddau i gleifion sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn yn ogystal â gwella perfformiad clinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Rwyf wedi cytuno ar y cynlluniau a ddatblygwyd gan fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i foderneiddio gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys yng Nghymru. Datblygwyd y rhain yn dilyn trafodaethau sylweddol ar draws y GIG, gydag undebau llafur, awdurdodau lleol a defnyddwyr gwasanaeth.

O dan y trefniadau newydd bydd y Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn comisiynu gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys ar gyfer byrddau iechyd o fis Ebrill 2016 a chynlluniau ar gyfer gwasanaethau gwell i gleifion oncoleg ac arennol erbyn mis Medi 2016.

Bydd cyfres o newidiadau eraill ar waith erbyn mis Mawrth 2017 a byddant yn cynnwys:

  • Set genedlaethol o safonau a gofynion gwasanaeth a fydd yn ymestyn oriau'r gwasanaeth rhwng 6am a 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd hefyd yn darparu gwell gwasanaethau ar gyfer gofal diwedd oes a gwasanaeth rhyddhau a throsglwyddo gwell ar gyfer pob gofal wedi'i drefnu
  • Penodi tîm rheoli penodol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a fydd yn darparu ffocws cryfach ar ansawdd y gwasanaeth ac yn dadgyfuno'r gwasanaeth cludiant mewn achosion nad ydynt yn rhai brys rhag y gwasanaeth ambiwlans brys
  • Creu grŵp comisiynu arbenigol newydd i gynorthwyo'r Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys i gytuno ar ddangosyddion perfformiad allweddol a monitro yn eu herbyn
  • Creu brand gwasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys newydd

Bydd y trefniadau newydd yn gwella ansawdd gofal trwy ddarparu gwasanaeth diogel ac amserol sy'n bodloni anghenion unigol cleifion. Bydd hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd staff ac ni fydd yn cyfaddawdu’r gwaith o gyflawni gwasanaethau ambiwlans brys.

Byddant yn sbardun ar gyfer dull cydlynol rhwng y sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol i sicrhau defnydd mwy effeithlon o wasanaethau cludiant ehangach y sector cyhoeddus. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd i weithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr cludiant lleol i fodloni anghenion cludiant ehangach cymunedau lleol. Gall y ffordd newydd hon o weithio fod yn fanteisiol i'r cyhoedd trwy ddarparu gwasanaethau trefnus sy'n sicrhau y caiff pobl gynnig y gwasanaethau cludiant mwyaf priodol i fodloni eu hanghenion.

Yn gyffredinol, mae’r trefniadau newydd hyn yn nodi newid sylweddol i'r gwaith o gomisiynu, cynllunio a chyflawni'r gwasanaeth a fydd yn arwain at wasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys yn cyflawni mwy o fuddion i'r cyhoedd a'r GIG yn ehangach yng Nghymru.

Edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau'n cael eu cyflawni cyn gynted â phosibl.