Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 14 Ionawr 2016, cyhoeddais gynlluniau pellgyrhaeddol i foderneiddio darparu Gwasanaethau Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys (NEPTS) ledled Cymru. Roedd y cynlluniau wedi cael eu datblygu mewn ymateb i'r argymhellion a nodwyd yn adolygiad strategol McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru.

Y bwriad oedd y byddai'r cynlluniau wedi cael eu sefydlu erbyn Mawrth 2017. Rwyf felly’n adrodd yn ôl ar y cynnydd sydd wedi'i wneud a'r gwaith sydd i'w wneud o hyd.

Fel cam cyntaf, sefydlais y Rheoliadau a oedd yn caniatáu i'r Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC) ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gomisiynu NEPTS ledled Cymru ar ran yr holl fyrddau iechyd. Yn dilyn hyn, rydym wedi cydweithio'n agos ag EASC a Grŵp Sicrwydd Cyflenwi NEPTS i gyflwyno syniadau cychwynnol ar gyfer Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi a fydd yn llywodraethu comisiynu gwasanaethau o safon uchel ac yn darparu'r mecanwaith ar gyfer herio a monitro perfformiad. Mae hwn yn ddull gweithredu tebyg i'r camau sydd wedi'u cymryd i helpu i weddnewid y gwasanaeth ambiwlans argyfwng.

Rydym hefyd wedi gweithio'n agos ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i roi'r cynlluniau moderneiddio ehangach ar waith. Un o nodweddion pwysicaf y cynlluniau oedd ymestyn yr oriau gweithredu fe y byddai gwasanaethau yn ei gwneud yn haws i gleifion fynychu eu hapwyntiadau gofal iechyd a dychwelyd adref yn ddiogel. Mae Gwasanaethau Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys bellach ar gael rhwng 06:00 a 20:00 awr ddydd Llun i ddydd Sadwrn ledled Cymru. Yn ogystal, gall cleifion archebu lle trwy alw un rhif cenedlaethol 0300 123 2303 neu gallant ganslo neu newid y trefniant drwy wasanaethau ar-lein sydd ar gael 24/7. Mae hyn wedi gwell mynediad ar gyfer cleifion, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd ac mae cyfraddau rhoi'r gorau i alwadau wedi gostwng o 11% i 5% tra bo amseroedd aros wrth wneud galwad wedi gostwng i lai nag 1 funud.

Fel rhan o'r trefniadau hyn, mae'r Ymddiriedolaeth wedi achub y cyfle i gyflwyno gwasanaeth “WAST Cab” yn Ne-ddwyrain Cymru fel dewis amgen i ddefnyddio tacsis masnachol ac mae bellach yn darparu dewis arloesol i ddarparu llety dros nos i gleifion sy'n teithio pellter hir yn aml ar ddiwrnodau olynol a hynny am driniaeth ganser yn aml Bydd hyn yn darparu mwy o ddewis ac yn helpu i gynllunio gwasanaethau mewn ffordd a fydd yn diwallu anghenion cleifion.

Mae partneriaeth â'r Cyngor Iechyd Cymuned wedi helpu i sefydlu Grŵp Cyfeirio Gwasanaethau Gwell (ESRG) sydd wedi bod yn geffyl blaen o ran datblygu'r syniadau y tu ôl i'r cynigion ar gyfer gwasanaeth diogelach, mwy ymatebol o safon uwch ar gyfer dialysis arennol, oncoleg a chleifion diwedd oes. Trwy'r gwaith hwn, mae ystod o fesurau wedi'u sefydlu i leihau'n sylweddol nifer y cleifion sy'n colli eu hapwyntiadau a thriniaethau sy'n hanfodol i'w gofal. Dywedodd ESRG fod newidiadau sylweddol a chynaliadwy wedi digwydd dros y 12 mis diwethaf ac am y cyfnod yn dod i ben Mawrth 2017 mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • mae nifer y cleifion dialysis arennol sy'n cael llai o driniaeth yn rheolaidd wedi gostwng i 0 o'i gymharu â 61 y flwyddyn flaenorol
  • mae nifer y gweithiau y mae claf dialysis arennol wedi cael llai o driniaeth wedi gostwng i 2017 o'i gymharu â 614 y flwyddyn flaenorol
  • mae nifer y cleifion dialysis arennol sy'n cyrraedd cyn amser eu hapwyntiad wedi cynyddu i 82%
  • mae nifer y cleifion dialysis arennol sy'n cael eu casglu cyn pen 30 munud o amser eu hapwyntiad i fynd adref wedi cynyddu i 78%
  • mae nifer y cleifion oncoleg sy'n cyrraedd cyn eu hapwyntiad hefyd wedi cynyddu i 64%.

Ar yr un pryd mae defnyddio staff a cherbydau dynodedig wedi gwella hyblygrwydd a chydnerthedd i gefnogi rhyddhau a throsglwyddo cleifion ychwanegol ar y diwrnod ac mae hyn wedi helpu'r cynlluniau ar gyfer gwella oedi wrth drosglwyddo gofal a'r system gofal wedi'i gynllunio ehangach.

I helpu i gefnogi a chynnal y gwelliannau hyn mewn gwasanaethau, mae'r Ymddiriedolaeth wedi penodi tîm rheoli newydd a bydd hyn yn cynnig mwy o amlygrwydd a pherchnogaeth i ysgogi gwelliannau pellach. Mae brand newydd wedi cael ei ddylunio a'i lansio ar draws y gwasanaeth i helpu i gyfleu'r newid i'r model busnes newydd. Rwyf yn edrych ymlaen at weld y brand yn dod yn nodwedd neilltuol ac amlwg o dirlun y GIG a ddaw'n batrwm o ansawdd uchel a gwelliant parhaus.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae rhai newidiadau pwysig wedi cael eu gwneud ac mae'r rhain wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion. Rwyf yn awyddus i'r momentwm hwn barhau ac i weld y byrddau iechyd a'r Ymddiriedolaeth yn parhau i gydweithio trwy Grŵp Sicrwydd Cyflenwi NEPTS i sefydlu'r Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi. Trwy'r trefniadau hyn, rwyf hefyd yn disgwyl gweld cynlluniau cadarn yn dod i'r amlwg ar gyfer datblygu trefniadau cyflenwi lleol trwy gydweithio a gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus ehangach a chyda darparwyr trafnidiaeth cymunedol a gwirfoddol. Mae diddordeb cynyddol yn y gwaith hwn ar draws Llywodraeth Cymru a'r potensial sy'n bodoli i hybu effeithlonrwydd a gwella hygyrchedd i gymunedau lleol.

Bydd fy swyddogion a minnau’n parhau i gyfarfod ag EASC a'r Ymddiriedolaeth i sicrhau bod y manteision sy'n deillio o'r cynigion ar gyfer newid yn cael eu gwireddu.