Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae prosiect Cyflymu Cymru yn parhau, ac mae band eang ffeibr cyflym ar gael i dros 530,000 o gartrefi a busnesau erbyn hyn.

Bydd Cyflymu Cymru a rhaglenni masnachol i gyflwyno ffeibr cyflym yn golygu y bydd band eang cyflym iawn ar gael i’r mwyafrif helaeth o gartrefi a chwmnïau yng Nghymru. Serch hynny, bydd yna ganran na fydd yn gallu manteisio.

Yn fy natganiad, dyddiedig 7 Gorffennaf, amlinellais ein cynlluniau ar gyfer cynllun newydd. Bydd y cynllun hwn, ar y cyd â Cyflymu Cymru, yn darparu band eang di-wifr ar gyfer 2000 o safleoedd ar barciau busnes ac ystadau diwydiannol a rhaglenni masnachol, gan gynnig cyflymderau cyflym iawn i bob cartref a busnes yng Nghymru.  

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ymrwymiad 2 flynedd i ehangu cynllun Allwedd Band Eang Cymru i bob cartref a busnes ledled Cymru na all dderbyn cysylltiadau cyflym iawn ar hyn o bryd. Rwyf hefyd yn falch o gael ehangu’r cynllun Talebau Gwibgyswllt hefyd i bob busnes, lle bynnag y bônt yng Nghymru.

Bydd Allwedd Band Eang Cymru yn ariannu (neu’n rhan-ariannu) costau gosod cysylltiadau band eang newydd ar gyfer cartrefi a busnesau yng Nghymru a fydd yn newid eu cyflymder lawrlwytho yn sylweddol. Bydd yna 2 lefel o gyllid yn ôl y cyflymder gofynnol - £400 ar gyfer cyflymder lawrlwytho rhwng 10 a 20 megabit yr eiliad ac £800 ar gyfer cyflymder lawrlwytho sy’n fwy na 30 megabit yr eiliad. Bydd y cynllun yn niwtral o ran technoleg gan ddefnyddio ystod o dechnolegau – lloeren, gwasanaeth di-wifr a 4G i sicrhau cyflymderau cyflym iawn.

Mae cysylltedd â’r rhyngrwyd yn flaenoriaeth allweddol i bob busnes, o gwmni un masnachwr i’r cwmni rhyngwladol mwyaf. I’r rhan fwyaf o fentrau bach a chanolig, bydd y cyflymderau cyflym iawn yn darparu lled band sy’n fwy na digon ar gyfer eu hanghenion busnes, ond yn achos rhai busnesau mwy bydd galw am gapasiti data llawer mwy, lle ceir gwarant o led band penodol sy’n fwy dibynadwy. Gellir cyflawni hyn drwy amrywiol dechnolegau fel ffeibr yn ôl y galw, cysylltiad di-wifr capasiti uchel neu opsiwn Ethernet penodol.

Serch hynny, gall y cysylltiadau hyn fod yn llawer mwy costus nag opsiynau eraill, a gall y costau cyfalaf cyntaf fod yn sylweddol. Gall hyn fod yn rhwystr gwirioneddol i rai busnesau.  

Bellach, mae’r cynllun Talebau Gwibgyswllt yn cael ei gynnig i fusnesau ledled Cymru er mwyn eu helpu i dalu’r costau cyfalaf cychwynnol wrth osod gwasanaethau band eang cyflym iawn. Cyn hyn, dim ond i’r rheini o fewn yr Ardaloedd Menter a’r Ardaloedd Twf Lleol yr oeddent ar gael. At ddibenion y cynllun, diffinnir gwibgyswllt fel cyflymder lawrlwytho o fwy na 100 megabit yr eiliad, a chyflymder lanlwytho o fwy na 30 megabit yr eiliad.

Uchafswm y grant a fydd ar gael fydd £10,000. Bydd yn darparu 100 y cant o’r cyllid ar gyfer y £3,000 cyntaf a 50 y cant rhwng £3,000 a £17,000. Bydd disgwyl i’r busnes dalu’r 50% arall ac unrhyw gostau pellach dros £17,000.

Bydd y ddau gynllun yn weithredol rhwng 4 Ionawr 2016 a Mawrth 2018 ac maent yn helpu Cymru i fod yn un o’r gwledydd sydd â’r cysylltiadau gorau yn y byd.

Bydd mwy o wybodaeth am y cynlluniau, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais a’r meini prawf cymhwysedd, ar gael ar-lein yn y Flwyddyn Newydd.