Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gen i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ganlyniadau ardderchog wythnos gyntaf cyfnod talu BPS 2018.

Mae eu taliadau BPS neu fenthyciadau'r BPS wedi'u talu i dros 95% o fusnesau fferm ac mae dros £213 miliwn wedi'i dalu i gyfrifon banc mwy na 14,700 o fusnesau fferm yng Nghymru.

Dechreuodd cyfnod talu BPS 2018 ar 3 Rhagfyr a bydd yn cau ar 30 Mehefin 2019.

Eleni, oherwydd y tywydd eithriadol o dwym a sych a gawsom yn yr haf, rwyf wedi cyflwyno cynllun benthyciadau BPS i helpu busnesau fferm â'u llif arian ac i reoli'u cyllid tra bo'u hawliadau BPS yn cael eu prosesu. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am fenthyciad BPS oedd 30 Tachwedd. Yn sgil y benthyciad, sy'n seiliedig ar 70% o'r taliad BPS 2018 y disgwylir ei dalu, mae £23.1 miliwn yn ychwanegol wedi'i dalu i fwy na 1,200 o fusnesau fferm.

Mae'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn Lloegr wedi rhoi digon o ddata i Daliadau Gwledig Cymru (RPW), i Lywodraeth Cymru allu prosesu tri chwarter y taliadau BPS 2018 i ffermwyr o Gymru sydd â thir bob ochr y ffin. Mae hynny'n welliant sylweddol ar y llynedd.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid y diwydiant, sydd wedi cydweithio â'm swyddogion i gyflwyno'r cynllun benthyciadau BPS a chyfrannu at broses dalu lwyddiannus arall eto eleni.

Mae fy swyddogion yn dal i weithio'n ddygn i brosesu'r hawliadau BPS sy'n weddill a byddan nhw'n dal i bwyso ar yr RPA am y data angenrheidiol i allu talu gweddill y ffermwyr sy'n ffermio bob ochr y ffin.

Rwy'n disgwyl y bydd yr holl daliadau, heblaw'r achosion mwyaf cymhleth, wedi'u talu cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2019.