Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae gan Gynllun y Bathodyn Glas rôl hollbwysig ar gyfer helpu pobl ddall neu anabl i deithio’n annibynnol, fel gyrwyr a theithwyr gan roi’r hawl iddyn nhw barcio gerllaw'r man lle maen nhw am fynd.
Mae’r Cynllun hwn yn bwysig iawn ond mae’r profiadau y mae aelodau’r cyhoedd ac Aelodau’r Cynulliad wedi’u rhannu â mi am y ffordd y mae’r Cynllun yn cael ei roi ar waith yn achosi cryn bryder i mi.
Mae hefyd yn glir bod cwestiynau’n cael eu gofyn a yw’r cynllun yn darparu ar gyfer amrywiaeth ddigonol o gyflyrau.
Er enghraifft, gall pobl sydd â namau gwybyddol a’u gofalwyr wynebu rhwystrau enfawr wrth deithio oherwydd gall amrywiaeth eang o bethau effeithio ar ymddygiad y dioddefwr. Weithiau, gall yr unigolyn beryglu’i hun a phobl eraill sydd o’i gwmpas.
Eleni, lluniodd Llywodraeth Cymru reoliadau sy’n caniatáu pobl i gael Bathodyn Glas os ydyn nhw’n cael Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) ar y gyfradd uchaf oherwydd yr anawsterau y maen nhw’n eu hwynebu wrth deithio a chynllunio teithiau. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â nam gwybyddol a nam ar y synhwyrau. Yn wir, mae Cymru’n arwain y ffordd o ran rhoi Bathodynnau Glas i bobl sydd â nam gwybyddol.
Fodd bynnag, mae PIP yn gyfyngedig i bobl o oedran gwaith ac rwy’n cydnabod bod cydraddoldeb yn bwysig o ran pwy sy’n cael ymgeisio am Fathodyn Glas. Dylai pobl o bob oed sydd ddim yn gallu teithio na chynllunio teithiau ymgeisio am Fathodyn Glas.
Er mwyn gallu trafod yr holl broblemau hyn mewn mwy o fanylder, rwyf wedi gofyn i Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru – Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Llysgennad Cyflogaeth Awtistiaeth Cymru, arwain grŵp o arbenigwyr i adolygu Cynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y meini prawf cymhwysedd i bobl sydd â nam gwybyddol. Hefyd, mae fy Adran wedi casglu gwybodaeth am brofiadau pobl sydd â Bathodyn Glas trwy gysylltu â grwpiau a chyrff sy’n cynrychioli pobl anabl.
Mae’r gwaith hwn wedi dangos i ni bod gan rai awdurdodau lleol arferion da ond mae hefyd wedi dangos i ni nad oes cysondeb ar draws Cymru ac nad yw rhai pobl yn derbyn y lefel o wasanaeth y mae ganddyn nhw’r hawl iddo.
Aeth Grŵp Adolygu Robert Lloyd-Grffiths ati i archwilio’n fanwl y maes cymhleth o lunio meini prawf cymhwysedd ar gyfer pobl sydd â nam gwybyddol ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod, mewn cyfnod byr iawn wedi dod o hyd i ateb arloesol i nodi anghenion ac asesu cymhwysedd.
Hefyd, trafododd y Grŵp Adolygu nifer o broblemau ehangach am Gynllun y Bathodyn Glas – sut i wella’r prosesau gweinyddol a thaclo problem camddefnyddio’r Cynllun. Rwyf wedi ystyried yr adroddiad ac yn benderfynol o roi’r argymhellion sydd yn yr adroddiad ar waith.
Felly, rwy’n bwriadu diwygio’r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl fel bod pobl nad ydyn nhw’n gallu teithio’n ddiogel a phobl nad ydyn nhw’n gymwys i gael PIP oherwydd eu hoedran yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion adolygu’r prosesau ymgeisio ac asesu presennol er mwyn datblygu canllaw sy’n gadarn ac yn gyson, pecyn cymorth gwneud penderfyniadau a ffurflenni cais safonol. Bydd y rhain yn cael eu profi gan yr awdurdodau lleol ym mis Hydref.
Er mwyn sicrhau bod y ceisiadau o dan y meini prawf newydd yn cael eu hasesu’n briodol, rwy’n gweithio gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i drafod y posibilrwydd o benodi Llysgenhadon y Bathodyn Glas fydd yn aelodau o Fyrddau Iechyd Lleol ac yn ymdrin â rhai ceisiadau.
Rwy’n deall efallai y bydd rhai deiliaid bathodyn glas yn poeni na fydd digon o feysydd parcio ar gael os caiff rhagor o fathodynnau eu creu. Rwyf wedi gofyn i waith gael ei wneud i wella’r camau gorfodi yn erbyn unrhyw un sy’n camddefnyddio’r cynllun a bod y gwaith hwn yn ogystal ag ymestyn y camau cymhwysedd yn cael blaenoriaeth.
Canlyniad y camau hyn fydd sicrhau mai pobl sy’n gymwys i gael y Bathodyn Glas yng Nghymru fydd yn cael defnyddio’r mannau parcio yr anabl a chynllun sy’n cyflawni mwy yng Nghymru nag sy’n cael ei gyflawni yng ngweddill y DU.
Mae Adroddiad y Grŵp Adolygu ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.