Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae gan Gynllun y Bathodyn Glas swyddogaeth hollbwysig i alluogi pobl ddall neu anabl i deithio’n annibynnol, naill ai fel gyrrwr neu deithiwr, drwy eu caniatáu i barcio’n agos i’r lle mae angen iddynt fynd.

Gan ystyried pwysigrwydd y cynllun, roedd rhai o’r profiadau a adroddwyd wrthyf am y ffordd y caiff y cynllun ei weithredu yn peri pryder. Er mwyn edrych ar hyn mewn mwy o fanylder, gofynnais i Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Llysgennad Cyflogaeth Awtistiaeth Cymru, arwain grŵp o arbenigwyr i adolygu Cynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru.

Roedd adroddiad y grŵp yn cynnwys argymhellion yn ymwneud â chymhwysedd, asesu a gorfodi. Yn dilyn cyhoeddi adroddiad y grŵp y llynedd, cynhaliwyd ymgynghoriad ar nifer o’r argymhellion ac rydym bellach wedi cwblhau ein hadolygiad o’r ymatebion.
O ran cymhwysedd, byddaf yn gwneud rheoliadau i alluogi pobl i wneud cais am fathodynnau glas o dan feini prawf yn ôl disgresiwn, i sicrhau bod y rheini sy’n methu â chynllunio neu fynd ar deithiau o ganlyniad i nam gwybyddol yn gallu bod yn gymwys am fathodyn.

Er mwyn sicrhau bod ceisiadau am fathodynnau yn cael eu hasesu’n briodol, rydym wedi datblygu pecyn gwirio i helpu awdurdodau lleol wrth brosesu ceisiadau yn ôl disgresiwn. Caiff y pecyn cymorth ei gyflwyno yn yr ychydig fisoedd nesaf. Y gobaith yw y bydd y pecyn cymorth hwn yn tynnu meddygon teulu o’r broses asesu. Bydd cymorth a chyngor annibynnol pellach ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y broses o asesu ceisiadau yn gyson ledled Cymru.

Bydd y Rheoliadau i gyflwyno’r meini prawf cymhwysedd newydd yn cael eu gwneud unwaith y bydd y pecyn cymorth a’r trefniadau cymorth yn eu lle i sicrhau eu bod yn gallu cael eu gweithredu’n effeithiol.

Roedd y grŵp adolygu’n poeni’n benodol y byddai Cynllun y Bathodyn Glas yn cael ei gamddefnyddio. Bydd rheoliadau newydd, y disgwylir iddynt ddod i rym eleni yn rhoi proses orfodi mwy cadarn ar waith. Rydym hefyd yn cynnal ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth pobl o reolau’r cynllun i helpu i atal camddefnydd anfwriadol.

Mae manylion llawn am Gynllun y Bathodyn Glas ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.