Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf yn cyhoeddi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol newydd heddiw at ddibenion ymgynghori.

Mae gan drafnidiaeth rôl gwbl hanfodol i’w chwarae o ran sicrhau bod economi Cymru’n fwy cystadleuol, ac mae system drafnidiaeth fforddiadwy, effeithiol ac effeithlon yn helpu hefyd i fynd i’r afael â thlodi.  

Wrth inni gynllunio sut y byddwn yn buddsoddi mewn trafnidiaeth, mae’n bwysig ein bod yn hoelio sylw ar sut y gall y gwaith hwnnw ddiwallu anghenion busnesau, pobl a chymunedau. Rydym yn mynd ati yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol newydd i amlinellu sut y gallwn gyrraedd y nod yn hynny o beth.   

Nod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yw cynllunio trafnidiaeth mewn ffordd newydd a fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni ac yn sicrhau y bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei dargedu mewn modd a fydd yn rhoi’r gwerth gorau posibl am arian ac yn cael yr effaith fwyaf posibl. Seiliwyd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar adroddiad yr Athro Preston ar Sut i Gynllunio Trafnidiaeth yn Strategol, a gomisiynwyd gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru. Roedd yr adroddiad hwnnw’n tynnu sylw at yr angen i gydgysylltu gwaith cynllunio trafnidiaeth ag agweddau eraill ar gynllunio, megis defnydd tir, yr amgylchedd, iechyd, addysg ac ati. Adlewyrchir hynny yn yr ystod o dystiolaeth yr ydym wedi’i chasglu ynghyd i lywio’r Cynllun a hefyd yn y cynigion pellach sy’n cael eu hamlinellu yn yr ymyriadau, er enghraifft, datblygu model trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn helpu i wireddu polisïau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru.  

Gan fod buddsoddi mewn trafnidiaeth yn rhywbeth sy’n digwydd yn gyson, mae’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn adlewyrchu’r rhaglen barhaus o fuddsoddi sydd gennym er mwyn gwella trafnidiaeth. Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn mynd ati yn y dyfodol i restru a datblygu cynlluniau, gan ddefnyddio sylfaen dystiolaeth fwy cynhwysfawr o lawer, a fydd yn cael ei diweddaru’n rheolaidd.   

Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn rhestru gwelliannau trafnidiaeth cenedlaethol a rhanbarthol y bwriedir bwrw ymlaen â nhw. Yr awdurdodau lleol fydd yn nodi’r blaenoriaethau o ran buddsoddi mewn trafnidiaeth ar y lefel leol a byddant yn gwneud hynny drwy eu Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol, sydd wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Er bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a’r Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol yn cydnabod pwy sy’n gyfrifol am rannau gwahanol o’r system drafnidiaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn trafod â’r awdurdodau lleol drwy gydol y broses gynllunio hon er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn cael eu hintegreiddio.  

Yng nghyd-destun y ddau ganlyniad ar bymtheg a amlinellir ar gyfer trafnidiaeth yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, mae’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn hoelio sylw ar wireddu pum blaenoriaeth allweddol:
  • Twf economaidd: Hyrwyddo twf economaidd a diogelu swyddi, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr Dinas-Ranbarthau, yr Ardaloedd Menter a’r ardaloedd twf lleol
  • Mynediad at gyflogaeth: Lleihau anweithgarwch economaidd drwy sicrhau bod ffyrdd diogel a fforddiadwy ar gael i bobl fedru teithio er mwyn manteisio ar gyflogaeth
  • Trechu tlodi: Sicrhau gwasanaethau trafnidiaeth effeithiol a fforddiadwy a fydd yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at drechu tlodi, a thargedu buddsoddiad er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau o ran mynediad ar gyfer y cymunedau mwyaf difreintiedig
  • Teithio cynaliadwy a diogelwch: Hyrwyddo teithio mwy diogel, iachach a mwy cynaliadwy
  • Mynediad at wasanaethau: Cysylltu cymunedau a’u galluogi i fanteisio ar wasanaethau allweddol
Bydd rhai o’r ymyriadau hyn yn rhai cenedlaethol, tra bydd eraill yn targedu ardaloedd penodol o Gymru. Er mai mater i Lywodraeth Cymru fydd bwrw ymlaen â’r rhan fwyaf o’r ymyriadau sydd yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, ac o gofio hefyd nad yw’r holl seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth wedi’u datganoli nac yn gyfrifoldeb i ni, bydd gofyn i eraill weithredu ar rai o’r ymrwymiadau. Er enghraifft, byddwn yn trafod gyda’r diwydiant rheilffyrdd i gadarnhau’r blaenoriaethau sydd gennym ar gyfer Cymru, ac yn ceisio cael cyllid oddi wrth Lywodraeth y DU er mwyn gwireddu’r blaenoriaethau hynny.

Cynhaliwyd nifer o asesiadau effaith wrth ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol. Yn eu plith yr oedd Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, sy’n cael eu cyhoeddi ar y cyd â’r ddogfen ymgynghori.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar 11 Mawrth 2015.