Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Rwyf wedi penderfynu parhau i ariannu’r cynllun poblogaidd sy’n darparu tocynnau trên rhatach. Bydd y cynllun yn parhau ar waith ar draws yr un llinellau rheilffordd gwledig, a bydd y cyfnod yn ymestyn o un flwyddyn i ddwy flynedd.
Bydd y cynllun yn ailddechrau ar lein Calon Cymru ym misoedd y gaeaf (3 Hydref 2011 - 31 Mawrth 2012, ac 1 Hydref 2012 - 31 Mawrth 2013) i’r bobl gymwys yn Sir Gaerfyrddin a Phowys sydd â phas Cerdyn Cymru.
Nid yw trigolion Abertawe yn gymwys bellach i fanteisio ar y cynllun hwn ar lein Calon Cymru. Y rheswm am hynny yw y bydd y cynllun yn parhau yn yr ardaloedd lle mae’r Awdurdodau Lleol yn rhoi arian fel rhan o bartneriaeth. Tynnodd Dinas a Sir Abertawe yr arian hwn yn nôl, er gwaethaf y ffaith bod arian ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru i gefnogi’r cynllun.
Rwy’n ddiolchgar bod Awdurdodau Lleol Conwy, Gwynedd, Powys, Sir Gâr, Sir y Fflint a Wrecsam wedi parhau i neilltuo arian i sicrhau dyfodol i’r cynllun.
Bydd y rheini sydd â phas Cerdyn Cymru Gwynedd yn gymwys i deithio am ddim ar lein Arfordir y Cambrian , rhwng Machynlleth a Phwllheli, er bod rhai cyfyngiadau ar drenau ysgol prysur. Bydd y cynllun hwn hefyd yn rhedeg ym misoedd y gaeaf dros y ddwy flynedd nesaf.
Rwy’n parhau â’r cynllun ar Lein y Gororau a Lein Dyffryn Conwy tan 30 Medi 2013. Bydd pobl gymwys sydd â phas Cerdyn Cymru yn Sir y Fflint a Wrecsam yn cael parhau i deithio ar Lein y Gororau, ac eithrio ar y trên i Wrecsam ar adeg prysuraf y bore. Bydd deiliaid pas cymwys yng Nghonwy a Gwynedd yn cael teithio am ddim ar Lein Dyffryn Conwy.
Gwnes fy mhenderfyniad yn sgil ystyried adroddiad gwerthuso a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’r canlyniadau gwerthuso’n dangos bod y cynlluniau wedi llwyddo i gyflawni ein hamcanion o ran sicrhau bod pobl hŷn a phobl anabl yn gallu teithio ar y trên i fannau allweddol mewn ardaloedd gwledig.
Bydd y cynllun yn destun adolygiad pellach ar ddiwedd y cyfnod ariannu o ddwy flynedd.