Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Dyma Ddatganiad Ysgrifenedig sy'n esbonio'n fyr y diweddaraf am raglen y Cymoedd Technoleg a'r camau nesaf.
Ers fy Natganiad Ysgrifenedig ynghylch parc technoleg fodurol Glynebwy fis Mehefin diwethaf, mae llawer o waith wedi'i wneud, o fewn Llywodraeth Cymru ac yn allanol gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Fe ŵyr aelodau bod y rhaglen, ar ôl holi barn rhanddeiliaid lleol, wedi cael ei ailfrandio o dan yr enw y Cymoedd Technoleg a chafodd gweledigaeth ar ei chyfer ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Cynnig gwaelodol y Cymoedd Technoleg o hyd yw buddsoddi mewn sgiliau, seilwaith a'r amgylchedd priodol i fusnesau allu ffynnu ynddo, yn ogystal â rhoi cymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol i fusnesau sydd am symud i'r ardal a thyfu ynddi. I'r perwyl hwnnw, mae arian eisoes wedi'i ymrwymo i helpu prosiectau eiddo a sgiliau fel rhan o raglen y Cymoedd Technoleg.
Mae'n dda gen i heddiw felly cyhoeddi Cynllun Strategol ar gyfer y Cymoedd Technoleg. Mae wedi'i anelu'n bennaf at swyddogion ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, ond hefyd at ein partneriaid a'n rhanddeiliaid. Mae'n disgrifio amcanion a nodau strategol y rhaglen ac yn adeiladu ar y weledigaeth a gyhoeddwyd llynedd. Mae'n ymgorffori yn arbennig ethos y Cynllun Gweithredu Economaidd diweddar, gyda'i ffocws ar gryfhau economïau rhanbarthau Cymru a phwysigrwydd gweithio trwy bartneriaethau. Bydd hyn yn atgyfnerthu menter y ganolfan strategol a lansiwyd gan Dasglu’r Gweinidog ar gyfer Cymoedd y De yn ei gynllun cyflawni, Ein Cymoedd, Ein Dyfodol ac agenda fwy cyffredinol y tasglu sy’n anelu at gael 7,000 o bobl economaidd anweithgar a di-waith yn y Cymoedd i swyddi teg, diogel a chynaliadwy.
Er yr edrychir arno fel buddsoddiad cytûn o £100m, mae'r Cynllun Strategol yn esbonio bod y Cymoedd Technoleg yn cynnwys nifer o brosiectau annibynnol dros y cyfnod byr, canolig a hir a fydd yn amrywiol eu maint a chymhlethdod ac o ran yr arian y buddsoddir ynddynt. Caiff achosion busnes eu paratoi ar gyfer y prosiectau hyn yn ôl y gofyn, a chaiff pob un ei werthuso'n drylwyr.
Mae'n dda gen i ddweud bod nifer o brosiectau da wrthi'n cael eu datblygu, rhai ohonynt yn rhan o waddol Ardal Fenter Glyn Ebwy. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r bwrdd am eu hymrwymiad. O ran y camau nesaf, caiff y cyfrifoldeb am reoli'r rhaglen ei drosglwyddo yn ddiweddarach eleni o Fwrdd Ardal Fenter Glyn Ebwy i Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technoleg. Un o flaenoriaethau cynta'r grŵp cynghori fydd paratoi rhaglen ddarparu.
Fel rhan o'm gweledigaeth ar gyfer rhaglen y Cymoedd Technoleg, rwyf am weld canolfan o ragoriaeth, tebyg i'r AMRI yn y Gogledd, yn cael ei denu i'r Cymoedd a fydd yn helpu i weddnewid yr economi gan sbarduno arloesedd, ymchwil a datblygu a ffyniant tymor hir. Y Cynllun hwn yw'r fframwaith ar gyfer gwneud hynny.
I gloi, mae'n bleser gen i argymell y Cynllun hwn i chi ac rwy'n addo sicrhau bod aelodau'n cael gwybod y diweddaraf yn rheolaidd amdano.
https://gov.wales/topics/businessandeconomy/growing-the-economy/enterprisezones/ebbw-vale/?lang=cy