Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y tymor hwn mae newid pwysig iawn yn dechrau i’n system addysg wrth i ddisgyblion gychwyn dysgu o dan ein Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd dysgwyr yn cael profiad o ieithoedd rhyngwladol yn gynt, a bydd disgwyliadau clir o ran eu cynnydd yn yr ysgol gynradd. Os yw ieithoedd rhyngwladol i ffynnu, rhaid iddynt fod yn rhan o gynllunio holistaidd ysgolion, yn hytrach na bod ar y cyrion ac rwyf am i’n hysgolion wybod bod cymorth hawdd ei gael gan y rhaglen Dyfodol Byd-eang.

Rwyf am i’n hysgolion sianelu brwdfrydedd eu dysgwyr dros ieithoedd o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd a darparu gwersi ieithoedd rhyngwladol cyffrous ac ystyrlon. Rwy’n falch o fod yn cyhoeddi’n cynllun Dyfodol Byd-eang ar gyfer 2022-2025 sy’n amlinellu’n cefnogaeth barhaus tuag at ddysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru. Ochr yn ochr ag ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu i ehangu addysg ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion, mae’r cynllun newydd hwn yn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gefnogi dysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru.

Mae’r rhaglen Dyfodol Byd-eang yn datgan ein dyhead i gynyddu dysgu ieithoedd a gweithio mewn partneriaeth ac mae’n seiliedig ar gyngor o werthusiad annibynnol o’r rhaglen Dyfodol Byd-eang (2020-2022) a gan ein Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang.

Mae nodau strategol y cynllun yn amlygu dyheadau’r rhaglen dros y tair blynedd nesaf:

  • Cefnogi datblygiad a’r gwaith o gyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ystyrlon yng Nghymru.
  • Darparu sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau i’n hymarferwyr er mwyn iddynt allu cynllunio a chynnal darpariaeth ieithoedd rhyngwladol.
  • Herio’r camdybiaethau sy’n bodoli ynghylch dysgu ieithoedd.

Mae cyllid Dyfodol Byd-eang yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth gan gynnwys cyllid penodol i athrawon cynradd o safbwynt rhaglen ddatblygu broffesiynol Athrawon yn Dysgu Addysgu Ieithoedd (TELT) y Brifysgol Agored. Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle i athrawon cynradd ddysgu iaith newydd (Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Tsieineeg Mandarin), a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i addysgu’r iaith honno yn y dosbarth ar yr un pryd.

Mae dangos lle gall ieithoedd rhyngwladol fynd â chi a chodi dyheadau ein dysgwyr yn ganolog i waith Rhaglen Fentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern Prifysgol Caerdydd. Mae’r rhaglen hon yn darparu cymorth uniongyrchol i ysgolion uwchradd, a bydd yn parhau â’i gwaith am dair blynedd arall er mwyn hyrwyddo manteision astudio ieithoedd ar gyfer TGAU, Safon Uwch, a thu hwnt. 

Mae arnaf eisiau cwricwlwm gwirioneddol weddnewidiol sy’n darparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf, waeth beth fo’u cefndir, ac yn agor y drws i’r byd i’n dysgwyr. Roeddwn yn falch fod cydweithwyr o’r rhaglen Taith wedi ymuno’n ddiweddar â grŵp llywio Dyfodol Byd-eang. Byddwn yn annog ysgolion i ymgysylltu â Taith a chymryd mantais o’r cyfleoedd y mae’r rhaglen yn eu cynnig. Rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu yw Taith, sy’n creu cyfleoedd unigryw i deithio, gwirfoddoli, dysgu a phrofi. Mae rhagdybiaethau negyddol yn gysylltiedig â dysgu ieithoedd rhyngwladol, rhagdybiaethau y mae’n rhaid eu newid. Mae Taith yn cynnig cyllid i ysgolion cynradd ac uwchradd gynnal teithiau cyfnewid rhyngwladol i’w disgyblion a’u staff, a fydd yn dyfnhau dealltwriaeth eu dysgwyr o ddiwylliannau eraill.

Hoffwn nodi hefyd na ddylai lleihad yn y ddarpariaeth a gostyngiad yn y niferoedd sy’n dewis ieithoedd ddod yn norm yn ein hysgolion. Rwyf am i bob dysgwyr barhau ar ei daith ieithyddol ac elwa ar holl hawliau’r cwricwlwm o ran darpariaeth. Mae Cymru yn genedl hyderus sy’n edrych tua’r dyfodol, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’n partneriaid Dyfodol Byd-eang i amlygu gwerth dysgu ieithoedd rhyngwladol ymhellach, a’u cefnogi i gael mynediad at y cyfleoedd yma yng Nghymru ac ar draws y byd.