Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae fy ffocws ar godi safonau yn ein hysgolion a'n colegau.
Mae ymrwymiad parhaus ein gweithlu yn ganolog i gyflawni hyn. Dyna pam ein bod wedi rhoi codiad cyflog haeddiannol iawn o 5.5% i athrawon y llynedd, sy'n golygu mai £32,433 yw cyflog cychwynnol athro newydd.
Rwy'n cydnabod maint yr heriau amrywiol ar draws y sector addysg yng Nghymru. Mae angen inni ganolbwyntio ar gael ein rhaglen ddiwygio bresennol yn iawn – y Cwricwlwm i Gymru, gwella cymorth anghenion dysgu ychwanegol, a gwella ysgolion.
Fel gwledydd eraill ar draws y byd, rydym yn gweld problemau o ran recriwtio a chadw staff, a phryderon ynghylch lles athrawon, arweinwyr ysgolion a staff cymorth.
Mae pwysau llwyth gwaith cynyddol yn thema rwy'n ei chlywed dro ar ôl tro yn fy ymwneud â'r proffesiwn. Mae hyn yn effeithio ar yr amser a'r cyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol ac i ymgymryd â thasgau cynllunio a gweinyddol perthnasol.
Mae disgwyliadau cymdeithas o'r hyn sy'n ofynnol gan ein hysgolion wedi newid. Mae'r argyfwng costau byw, anghenion iechyd cynyddol gymhleth dysgwyr, a newidiadau yn nisgwyliadau cymdeithas o'r hyn y dylai ysgolion ei wneud, i gyd yn cael effaith. Mae'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ehangach yn golygu bod angen lefelau uwch o gymorth ar blant cyn y byddant yn barod i ddysgu.
Mae arweinwyr ac ymarferwyr yn tynnu ein sylw at y ffaith bod hyn wedi newid profiad a natur addysgu, a rôl athro. Mae arweinwyr, athrawon a chynorthwywyr addysgu yn treulio mwy o amser yn mynd i'r afael â'r materion hyn, sy'n cael effaith yn ei dro ar yr addysgu a'r dysgu.
Mae hyn yn dechrau effeithio ar ba mor ddeniadol yw addysgu fel proffesiwn. Mae pob aelod staff - arweinwyr, gweithwyr addysgu proffesiynol, staff cymorth - yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd yr ysgol ac yng nghynnydd plant a phobl ifanc. Mae'n hollbwysig cael y cydbwysedd yn iawn o ran llwyth gwaith, profiad, yn ogystal â thâl ac amodau.
Rwy'n cyhoeddi heddiw fy mod wedi dechrau gweithio gyda'r sector i ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg, ar gyfer ysgolion a lleoliadau'r blynyddoedd cynnar yn y lle cyntaf. Bydd yn ymgorffori ein gweledigaeth a'n gwerthoedd ar gyfer arweinwyr, athrawon a staff cymorth ar gyfer y dyfodol, gan gydnabod yr amrywiaeth o swyddogaethau pwysig sy’n ran o’r weithlu.
Byddwn yn amlinellu ffordd strategol ymlaen, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol / llywodraethwyr fel cyflogwyr, partneriaid undebau a staff ysgolion, rhieni / gofalwyr a dysgwyr. Bydd y cynllun strategol hwn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio'n glir ar gyflawni a gwella ar ran ein gweithlu addysg.
Rwy'n bwriadu canolbwyntio ar ddatblygu'r cynllun hwn mewn ffordd dryloyw gyda'n partneriaid, a byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i'r Senedd maes o law.